Cadeirydd newydd wedi ei benodi i’r Comisiwn Etholiadol
Summary
Mae John Pullinger CB wedi ei benodi’n Gadeirydd newydd y Comisiwn Etholiadol. Mae John yn Was Sifil profiadol sydd wedi dal rolau uwch mewn ystod o sefydliadau yn y DU ac yn rhyngwladol.
Hyd nes 2019, John oedd Ystadegydd Cenedlaethol y DU a Phrif Weithredwr Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae wedi gwasanaethu fel Llywydd Y Gymdeithas Ystadegau Frenhinol, Cadeirydd Comisiwn Ystadegau’r Cenhedloedd Unedig, a Llyfrgellydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Gwybodaeth Tŷ'r Cyffredin.
Argymhellwyd ei benodi gan Bwyllgor y Llefarydd yn Senedd y DU, ac fe’i cadarnhawyd gan Dŷ'r Cyffredin ddydd Llun. Disgwylir iddo ymgymryd â’r rôl newydd ym mis Mai.
Dywedodd John Pullinger:
“Mae dda iawn gennyf ymuno â’r Comisiwn ar adeg mor bwysig. Edrychaf ymlaen at feithrin perthnasau gyda phobl ar draws y Deyrnas Unedig i sicrhau bod pawb sydd ynghlwm wrth etholiadau yn parhau i fod yn hyderus bod etholiadau’n cael eu cynnal yn rhydd ac yn deg. Gan weithio gyda’n gilydd, rwy’n hyderus y gallwn foderneiddio ein system etholiadol i fodloni heriau’r byd cyfnewidiol rydym yn byw ynddo.”
Dywedodd Bob Posner, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Edrychaf ymlaen at groesawu John i’w rôl fel Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol. Bydd yn dod â chyfoeth ei brofiad i’n Bwrdd wrth i ni gnoi cil ar gyfres gymhleth o etholiadau yng nghyd-destun COVID-19, ac wrth i ni barhau i wella’r cymorth rydym yn ei ddarparu i bleidleiswyr a’r gymuned etholiadol. Bydd y pum mlynedd nesaf hefyd yn gweld y Comisiwn yn cefnogi tri senedd y DU wrth gyflawni diwygio etholiadol.”
Mae'r broses ddethol ar gyfer Comisiynwyr yn cael ei chynnal gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol yn Senedd y DU. Bydd y penodiad arfaethedig nawr yn cael ei gyflwyno am gydsyniad brenhinol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
Mae'r broses ddethol ar gyfer Comisiynwyr yn cael ei chynnal gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol, ac mae wedi’i nodi mewn cyfraith (Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000).
Mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys:
- Cadeirydd
- pedwar Comisiynydd a enwebwyd gan bleidiau gwleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn Nhŷ’r Cyffredin
- tri Chomisiynydd a benodir fel arweinwyr dros Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon
- dau Gomisiynydd arall
Mae’n ofynnol i aelodau Bwrdd y Comisiwn ddatgan unrhyw fuddiannau a allai wrthdaro â’u rôl yn y Comisiwn, a rhaid iddynt hefyd ddilyn ein Cod Ymddygiad cyhoeddedig.
Yr ydys yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer Comisiynydd newydd dros Ogledd Iwerddon, ar ôl i dymor Anna Carragher ddod i ben ym mis Rhagfyr 2020.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Bwrdd y Comisiwn Etholiadol ar gael ar ein gwefan.