Cafodd etholiadau 2017 yng Nghymru eu cynnal yn effeithiol, ond mae angen moderneiddio pellach
Ffeithiau a ffigurau
Heddiw, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y ffordd y gweinyddwyd etholiadau lleol 2017, a ddaeth i'r casgliad bod yr etholiadau wedi cael eu cynnal yn effeithiol, a phrin oedd y problemau.
Dengys ein hymchwil i farn y cyhoedd, a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau, fod 81% o'r ymatebwyr yn hyderus bod yr etholiadau a gynhaliwyd ar 4 Mai wedi cael eu cynnal yn effeithiol, o gymharu â 77% yn 2012. Roedd 95% o bobl o'r farn ei bod yn hawdd cwblhau'r papur pleidleisio, roedd 96% o bleidleiswyr gorsaf bleidleisio yn fodlon ar y broses o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio a dywedodd 100% o bleidleiswyr post eu bod yn fodlon ar eu profiad.
Yn ôl Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru:
Mae'n bleser gennym adrodd bod yr etholiadau lleol yng Nghymru wedi cael eu cynnal yn effeithiol a hoffem ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio a rheoli'r etholiadau hyn. Mae ein hymchwil yn dangos bod gan bleidleiswyr lefel uchel o hyder yn y broses a bod y mwyafrif helaeth wedi cael profiad cadarnhaol wrth fwrw eu pleidlais, sy'n adlewyrchu gwaith caled pawb a oedd yn rhan o'r broses.
Nawr rydym yn cynnig gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried ffyrdd o wella a moderneiddio cofrestru a gweinyddu etholiadol er mwyn gwella'r profiad i bleidleiswyr ymhellach.
Canfu adroddiad y Comisiwn fod yr etholiadau cynghorau wedi cael eu cynnal yn effeithiol, ond y gellid gwneud gwelliannau pellach er mwyn helpu pleidleiswyr i gymryd rhan yn y broses ac ennyn eu hyder ynddi. Ymhlith y rhain mae:
- Datblygu Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol ddechrau 2017 ac a arweinir gan Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru, i ddod yn bwynt arbenigedd ar gyfer rheoli etholiadol yng Nghymru
- Ystyried ffyrdd o ymgorffori gwiriadau mwy awtomatig er mwyn gwella'r system cofrestru etholiadol
- Sefydlu proses ar gyfer casglu a chyhoeddi data ar y nifer a fydd yn pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol 2022
- Moderneiddio a symleiddio cyfraith etholiadol, yn unol ag argymhellion Comisiynau'r Gyfraith yn y DU
Ymhlith canfyddiadau allweddol yr adroddiad mae'r canlynol:
- Roedd 2.28 miliwn o bobl wedi'u cofrestru i bleidleisio yn etholiadau lleol mis Mai 2017 yng Nghymru, sydd ychydig yn llai na'r nifer yn yr etholiadau llywodraeth leol blaenorol yn 2012 a 2013.
- Bwriwyd cyfanswm o 895,943 o bleidleisiau, sy'n golygu bod 42.0% o'r etholaeth gymwys wedi pleidleisio, sef cynnydd bach yn y nifer a bleidleisiodd o gymharu â'r etholiadau yn 2012 a 2013.
- Dywedodd 81% o bobl eu bod yn hyderus bod yr etholiadau wedi cael eu cynnal yn effeithiol, o gymharu â 77% yn etholiadau cynghorau 2012.
- Roedd 89% o bobl yn fodlon ar y system cofrestru etholiadol, o gymharu ag 84% yn 2012.
Mae adroddiad heddiw ar gael ar wefan y Comisiwn yma.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Ward ar 029 2034 6810 neu [email protected]
Oriau y tu allan i'r swyddfa 07789 920414
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd