Ceisiadau am ID Pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim yn agor

Ceisiadau am ID Pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim yn agor

Mae ceisiadau’n agor heddiw am fath newydd o ID rhad ac am ddim y gellir ei ddefnyddio mewn etholiadau. Cyn gofyniad newydd am ID pleidleisiwr, mae Llywodraeth y DU wedi agor y porth ar-lein ar gyfer yr ID, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, a bydd awdurdodau lleol yn dechrau prosesu ceisiadau.

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy’r porth ar-lein yn cymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk Mae ffurflenni cais papur hefyd ar gael gan awdurdodau lleol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru i bleidleisio, a bydd angen iddynt ddarparu dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol a ffoto gyda’u cais.

Mae etholiadau lleol yn cael eu cynnal ledled Lloegr ar 4 Mai, a bydd yn rhaid i’r rheini sy’n bwriadu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffotograffig i gael papur pleidleisio. Y dyddiad cau i gofrestru am dystysgrif cyn yr etholiadau ym mis Mai fydd 5pm ar ddydd Mawrth 25 Ebrill.

Ni fydd angen i’r rheini y mae eisoes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais am dystysgrif. Mae mathau o ID a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru'r DU, yr AEE neu’r Gymanwlad; a rhai pasys teithio rhatach, megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffoto o hyd.

Dywedodd Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol yn y Comisiwn Etholiadol:

“Mae argaeledd ID sy’n rhad ac am ddim yn bwysig i gynnal hygyrchedd etholiadau. Rydym yn galw ar bob pleidleisiwr i wirio a oes ganddynt fath o ID a dderbynnir, ac os nad oes ganddynt, yna dylent wneud cais am y dystysgrif.

“Gwyddwn o ymchwil bod gan y mwyafrif o bobl yr ID sydd ei angen arnynt eisoes. Yr unig beth fydd angen i’r pleidleiswyr hyn gofio yw dod â’r ID gyda nhw ar diwrnod y bleidlais. Fodd bynnag, gall unrhyw un nad oes ganddynt ID ffotograffig yn bresennol wneud cais am ID pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim.

Yn gynharach y mis hwn lansiodd y Comisiwn Etholiadol ei ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, gan annog pleidleiswyr ledled Lloegr i wneud yn siŵr eu bod yn barod am y gofyniad ID Pleidleisiwr newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar ei wefan, yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/id-pleidleisiwr

Mae’r Comisiwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil i gefnogi’r rheini sy’n llai tebygol o gael math o ID a dderbynnir, fel eu bod yn ymwybodol o’r ID rhad ac am ddim ac yn gwneud cais mewn da bryd. Mae wedi creu ystod eang o adnoddau, gan gynnwys canllawiau i staff a gwirfoddolwyr, posteri, taflenni a chynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Diwedd

Mae cynrychiolwyr ar gael i'w cyfweld am ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus y Comisiwn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio yn ofyniad newydd, a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU a basiwyd y llynedd.
  • O fis Mai, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol yn Lloegr, is-etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. O fis Hydref 2023, bydd angen ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Ni fydd yn ofyniad yn etholiadau Senedd Cymru nac yn etholiadau Senedd yr Alban, nac mewn etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban. Mae’r gofyniad hwn eisoes yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon.
  • I wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, bydd angen i bleidleiswyr ddarparu ffoto, enw llawn, dyddiad geni, y cyfeiriad lle y maent wedi’u cofrestru i bleidleisio a’u rhif Yswiriant Gwladol.
  • Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y polisi ID pleidleisiwr newydd ac am y system ceisiadau ar-lein am yr ID pleidleisiwr rhad ac am ddim. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch y system ceisiadau neu’r polisi ei hunan at yr Adran.
  • Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gyfrifol am sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o’r gofyniad newydd am ID pleidleisiwr, ac am gefnogi awdurdodau lleol gyda’r broses. Rydym ar gael i ateb cwestiynau ynghylch yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus.
  • Swyddogion Canlyniadau a’u timau sy’n gyfrifol am weithredu’r polisi ID pleidleisiwr newydd ar lefel lleol.