Cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol y DU 2025
UK political parties’ financial accounts published
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu gydag incwm neu wariant dros £250,000 ym mlwyddyn galendr 2025 wedi cael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Etholiadol.
Cyhoeddodd y Comisiwn gyfrifon y rheini gydag incwm a gwariant o dan £250,000 ym mis Gorffennaf ac heddiw mae wedi cyhoeddi cyfrifon 30 o bleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu sydd dros y trothwy hwnnw.
Mae’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2025, ac fe’u cyhoeddir i ddarparu tryloywder i’r system gyllid wleidyddol.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol yn y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym wedi ymrwymo i gynnal tryloywder mewn cyllid gwleidyddol. Mae pleidiau gwleidyddol yn gwario ac yn derbyn symiau sylweddol o arian felly mae’n bwysig bod gwybodaeth am eu cyllid yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae cyhoeddi eu cyfrifon yn rhoi golwg glir i bleidleiswyr ar sut mae pleidiau yn cael eu hariannu ac yn dewis gwario eu harian.”
Incwm neu wariant pleidiau sydd dros £250,000
Dywedodd un blaid ar bymtheg yn y DU eu bod wedi cael incwm neu wariant o fwy na £250,000, gydag incwm cyfunol o £134,059,991 a £120,776,944 o wariant.
Mae hyn yn cymharu â’r pedair plaid ar bymtheg o bleidiau a adroddodd incwm neu wariant o dros £250,000 ar gyfer 2024, gan adrodd cyfansymiau o £183,240,894 o incwm a £186,107,379 o wariant.
Gwnaeth Plaid Werdd yr Alban ac Eich Plaid gais am estyniad i ganiatáu amser iddynt gyflwyno eu cyfrifon. Eu terfynau amser newydd i gyflwyno yw 7 a 30 Hydref yn y drefn honno. Ni wnaeth Prydain Yn Gyntaf gyflwyno eu cyfrifon erbyn y terfyn amser. Bydd methiannau i gyrraedd terfynau amser cyflwyno yn cael eu hystyried yn unol â’n Polisi Gorfodi.
| Plaid | Incwm | Gwariant |
|---|---|---|
| Advance UK [Dadgofrestrwyd 10/07/26] | £658,786 | £233,060 |
| Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £395,604 | £358,093 |
| Plaid Gomiwnyddol Prydain | £201,746 | £262,693 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £30,942,000 | £27,418,000 |
| Y Blaid Gydweithredol | £1,658,845 | £1,525,609 |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £448,439 | £467,084 |
| Y Blaid Werdd | £7,266,892 | £5,727,233 |
| Y Blaid Lafur | £44,601,000 | £47,158,000 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £8,444,842 | £9,406,856 |
| Plaid Cymru | £1,241,072 | £1,155,294 |
| Reform UK | £31,862,420 | £21,667,855 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) Scottish National Party (SNP) | £3,775,344 | £3,265,441 |
| SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £425,786 | £365,522 |
| Sinn Féin | £1,293,836 | £1,182,279 |
| The Reclaim Party | £200,775 | £436,227 |
| Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £642,604 | £147,698 |
| Cyfanswm | £134,059,991 | £120,776,944 |
Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru ‘unedau cyfrifyddu’ gyda’r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu gysylltiedig plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Rhoddodd pedwar ar ddeg o unedau cyfrifyddu yn y DU wybod am incwm neu wariant o fwy na £250,000, gan adrodd incwm cyfunol o £13,260,675.94 a £13,441,614 o wariant. Mae cyfrifon ariannol pob un o’r unedau cyfrifyddu ar gael ar wefan y Comisiwn.
Incwm neu wariant pleidiau sydd o dan £250,000
Rhoddodd 347 o bleidiau gwleidyddol a 401 o unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £250,000 neu lai yn y Deyrnas Unedig wybod am eu cyfrifon blynyddol.
O’r rheini, y 10 plaid a adroddodd yr incwm uchaf oedd:
| Plaid | Incwm | Gwariant |
|---|---|---|
| Plaid Alba (Alba Party) (Dadgofrestrwyd 26 Mawrth 2026) | £219,463 | £216,179 |
| Plaid Unoliaethwyr Ulster | £196,762 | £124,053 |
| Plaid Agored | £186,902 | £166,130 |
| Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £144,479 | £132,497 |
| Plaid Gweithwyr Prydain | £136,045 | £143,605 |
| Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol | £118,563 | £120,701 |
| Solidarity | £102,219 | £95,151 |
| Plaid y Famwlad | £98,000 | £79,441 |
| Cymdeithas Preswylwyr Upminster a Cranham | £82,988 | £93,230 |
| Plaid Sosialaidd yr Alban | £64,983 | £93,230 |
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu drwy e-bostio [email protected]. Ffoniwch 07789 920414 y tu allan i oriau swyddfa.
Nodiadau i olygyddion:
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
- Mae’n rhaid i bob plaid wleidyddol gyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol gydag incwm dros £250,000 archwilio eu cyfrifon yn annibynnol, a chynnwys yr adroddiad hwn gyda’u cyflwyniad. Nid yw’r ffaith bod datganiad cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na’i ddilysu.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi’u talgrynnu. Mae’r union ffigyrau i’w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
- Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno cyfrifon.
- Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau achosion a gaewyd.