Cyhoeddi cyfrifon ariannol ar gyfer pleidiau gwleidyddol llai

Financial accounts for smaller political parties published

Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu yn y Deyrnas Unedig, sydd ag incwm a gwariant o £250,000 neu lai, wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfrifon hyn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2021.

Fe wnaeth 329 o bleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig adrodd bod eu cyfrifon ariannol o fewn y trothwy hwn.

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:

“Rhaid i bleidiau gwleidyddol gadw cofnodion ariannol a chyflwyno datganiadau cyfrifon i ni. Mae cyhoeddi’r data hyn yn helpu pleidleiswyr i weld yr arian y mae pleidiau gwleidyddol yn ei wario a’i dderbyn. Dyma ran bwysig o gyflawni tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU, a gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”

Adroddodd un ar bymtheg o bleidiau incwm neu wariant rhwng £50,000 a £250,000:

Plaid Incwm Gwariant
Ashfield Independents £103,545 £81,746
Prydain Yn Gyntaf £115,913 £107,438
Plaid Genedlaethol Prydain £75,466 £96,535
Plaid Gomiwnyddol Prydain £189,563 £172,368
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Northern Ireland) £37,099 £52,021
Y Gynghrair Rhyddid - Hygrededd, Cymdeithas, Economi (Freedom Alliance - Integrity, Society, Economy) £50,911 £48,078
Green Party (NI) £80,386 £60,192
Northern Independence Party £78,529 £48,224
Scottish Family Party £57,951 £59,532
Scottish Socialist Party £59,296 £43,795
Socialist Party (Northern Ireland) £76,346 £72,042
Plaid Democratiaid Cymdeithasol £57,688 £70,867
Y Mudiad Dros Brydain (The For Britain Movement) £140,459 £123,292
Y Llais Unoliaethol Traddodiadol (Traditional Unionist Voice - TUV) £65,016 £37,893
Y Blaid Wir a Theg (True & Fair Party) £57,098 £49,084
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) £215,850 £194,558
Upminster and Cranham Residents Association £64,401 £76,455

Mae manylion cyfrifon ariannol llawn pob un o’r 329 o bleidiau gwleidyddol gydag incwm a gwariant o £250,000 neu lai ar gael ar wefan y Comisiwn.

Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu

Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu ymlynol plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.

Adroddodd 421 o unedau cyfrifyddu yn y DU incwm a gwariant rhwng £25,000 a £250,000.

Fe wnaeth yr unedau cyfrifyddu hyn adrodd cyfanswm incwm o £21,377,085 a chyfanswm gwariant o £22,137,054.

O’r rhain, adroddodd 12 uned gyfrifyddu incwm neu wariant dros £150,000. Fe wnaeth 32 plaid eraill adrodd incwm neu wariant rhwng £100,000 a £150,000.

Y deg uned gyfrifyddu a wnaeth adrodd yr incwm neu wariant mwyaf o dan £250,000:

Plaid Uned gyfrifyddu Incwm Gwariant
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol Aylesbury £235,629 £179,034
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol Derbyshire Dales £208,509 £46,423
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol Kensington, Chelsea a Fulham £189,528 £202,505
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol Northumberland £170,760 £181,757
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P Westminster Parliamentary Party - MP Grouping £191,836 £141,980
Y Blaid Werdd Llundain £144,002 £157,566
Y Blaid Lafur National Trade Union Liaison £230,999 £166,623
Y Democratiaid Rhyddfrydol Hazel Grove £155,266 £122,356
Y Democratiaid Rhyddfrydol Twickenham a Richmond £202,549 £207,333
Y Democratiaid Rhyddfrydol Westmorland, Furness ac Eden £204,030 £212,969

Mae’r cyfrifon ariannol ar gyfer yr holl unedau cyfrifyddu a gyhoeddwyd heddiw ar gael ar wefan y Comisiwn.

Cymariaethau gyda blynyddoedd blaenorol

Isod mae’r cyfansymiau ar gyfer cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd o dan y trothwy o £250,000 yn y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf:

Pleidiau gwleidyddol

  2021 2020 2019
Incwm £2,478,965 £1,546,769 £2,147,273
Gwariant £2,318,549 £1,358,422 £2,270,843

Unedau cyfrifyddu

  2021 2020 2019
Incwm £21,438,320 £16,849,475 £35,893,352
Gwariant £22,183,096 £15,728,652 £33,473,161

Mae ffigyrau sy’n cymharu cyfrifon diweddaraf pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu â’r rheiny ar gyfer 2019 a 2020 yn cynnig cymhariaeth gyffredinol, ac nid ydynt o reidrwydd yn cymharu’r un pleidiau ac unedau cyfrifyddu. Mae incwm a gwariant pleidiau ac unedau cyfrifyddu yn amrywio bob blwyddyn, ac felly gallent gwympo i wahanol drothwyon adrodd.

Cyflwyno'n hwyr

Fe wnaeth 12 plaid wleidyddol yr oedd disgwyl iddynt fod ag incwm neu wariant o dan £250,000 fethu â chyflwyno eu cyfrifon. Lle mae pleidiau ac unedau cyfrifyddu wedi cyflwyno eu cyfrifon yn hwyr, gallwn gymryd gamau gweithredu priodol a chymesur yn unol â’n Polisi Gorfodi.

Roedd rhaid i bleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd ag incwm neu wariant dros £250,000 yn 2021 gyflwyno eu cyfrifon archwiliedig erbyn 7 Gorffennaf 2022. Caiff y rhain eu cyhoeddi maes o law.

Diwedd

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu e-bostiwch [email protected]. Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.

2. Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,00 neu lai gyflwyno eu cyfrifon.

3. Nid yw'r ffaith bod Datganiad Cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd.

4. Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.

5. Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau achosion a gaewyd.