Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol y DU .
UK political parties’ financial accounts published
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi unedau y rhai ag incwm a gwariant o dan £250,000 ym mis Gorffennaf, a heddiw yn cyhoeddi unedau 16 o bleidiau gwleidyddol ac 17 o unedau gyfrifyddu dros y trothwy hynny.
Mae'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024, ac fe'u cyhoeddir i ddarparu tryloywder i'r system gyllid wleidyddol.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol yn y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Mae pleidiau gwleidyddol yn derbyn ac yn gwario symiau sylweddol o arian felly mae’n bwysig bod yr wybodaeth am eu cyfrifon yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae cyhoeddi eu data yn caniatáu i bleidleiswyr weld sut mae pleidiau yn cael eu hariannu ac yn dewis gwario eu harian.”
Incwm neu wariant pleidiau sydd dros £250,000
Dywedodd 16 o bleidiau yn y DU fod ganddynt incwm neu wariant o dros £250,000, gyda gwariant o ychydig dros £90.8 miliwn. Nid yw’r ffigyrau hyn yn cynnwys y Blaid Lafur, sydd heb gyflwyno eu cyfrifon.
Mae hyn yn cymharu â’r 18 o bleidiau a adroddodd incwm neu wariant dros £250,000 yn 2023 gan adrodd cyfansymiau o £143.5 miliwn o incwm a £125.5 miliwn o wariant.
| Plaid | Incwm | Gwariant |
|---|---|---|
| Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £475,562 | £500,017 |
| Plaid Gomiwnyddol Prydain | £494,906 | £276,853 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £50,174,000 | £52,027,000 |
| Y Blaid Gydweithredol | £1,816,732 | £1,754,930 |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P. | £441,985 | £436,146 |
| Y Blaid Werdd | £5,217,767 | £4,985,310 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £12,580,154 | £11,516,811 |
| Plaid Cymru | £1,033,111 | £1,045,798 |
| Reform UK | £10,832,716 | £9,314,587 |
| Plaid Werdd yr Alban | £544,939 | £597,724 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £4,506,027 | £4,961,281 |
| Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur (Social Democratic & Labour Party) | £474,574 | £442,380 |
| Sinn Féin | £1,068,608 | £1,490,829 |
| The Reclaim Party | £475,061 | £837,959 |
| Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £271,722 | £199,382 |
| Plaid Cydraddoldeb Menywod [Dadgofrestrwyd 31/12/24] | £471,464 | £501,318 |
| Cyfanswm | £90,879,328 | £90,888,325 |
Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu ymlynol plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Fe adroddwyd 17 o unedau gyfrifyddu yn y Deyrnas Unedig incwm neu wariant o dros £250,000, gan adrodd incwm gyfunol o £13,801,528 a £13,944,509 o wariant. Mae cyfrifon ariannol pob un o’r unedau cyfrifyddu ar gael ar wefan y Comisiwn.
Incwm neu wariant pleidiau sydd o dan £250,000
Fe adroddwyd hyd at 341 o bleidiau gwleidyddol a 634 o unedau cyfrifyddu incwm a gwariant o £250,000 neu lai yn y Deyrnas Unedig eu cyfrifon blynyddol.
O’r pleidiau hynny, y 10 plaid a adroddodd yr incwm neu wariant mwyaf oedd:
| Plaid | Incwm | Gwariant |
|---|---|---|
| Plaid Gweithwyr Prydain | £221,836 | £219,731 |
| Plaid Unoliaethwyr Ulster | £171,443 | £127,208 |
| Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol | £161,752 | £165,594 |
| Y Blaid Wir a Theg (True & Fair Party) [Dadgofrestrwyd 19/09/24] | £127,615 | £126,773 |
| Y Llais Unoliaethol Traddodiadol – TUV | £112,771 | £109,397 |
| Annibynwyr Ashfield | £90,646 | £96,289 |
| Y Blaid Sosialaidd (Gogledd Iwerddon) | £83,691 | £86,266 |
| Cymdeithas Preswylwyr Upminster a Cranham | £83,651 | £73,798 |
| Plaid Sosialaidd yr Alban | £78,624 | £58,847 |
| Plaid y Famwlad | £60,663 | £35,150 |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu e-bostiwch [email protected]. Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414
Nodiadau i olygyddion:
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
- Mae’n rhaid i bob plaid wleidyddol gyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol gydag incwm dros £250,000 archwilio eu cyfrifon yn annibynnol, a chynnwys yr adroddiad hwn gyda’u cyflwyniad. Nid yw'r ffaith bod datganiad cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
- Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno cyfrifon.
- Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau achosion a gaewyd.