Cyhoeddi ffigyrau rhoddion a benthyciadau diweddaraf pleidiau gwleidyddol y DU (Medi 2020)
Introduction
Adroddodd 17 plaid wleidyddol sydd wedi eu cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £9,136,764 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ail chwarter 2020 (Ebrill i Fehefin) yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cymharu ag £16m mewn rhoddion a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2019.
Wrth sôn am y wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae cyhoeddi’r data hwn yn caniatáu i bleidleiswyr weld yn glir sut mae pleidiau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu, gan wella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod llawer o bleidiau wedi cyflwyno eu hadroddiadau rhoddion i ni ar amser er gwaethaf yr amgylchiadau heriol o ganlyniad i Covid-19. Lle nad yw pleidiau wedi gallu bodloni'r dyddiadau cau am resymau'n ymwneud â'r pandemig, byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod eu hincwm yn parhau i fod yn dryloyw."
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno cofnodion rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol, a chynnwys:
- rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
- rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol; a
- rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
Lle bo rhoddion gwaharddedig wedi eu dychwelyd, neu lle bo rhoddion a dderbyniwyd mewn chwarter blaenorol wedi eu hadrodd yn hwyr i’r Comisiwn, gall y swm a adroddwyd gan blaid yn y chwarter diwethaf fod yn uwch na’r cyfanswm a dderbyniwyd.
Am y tro cyntaf, mae adroddiadau rhoddion a benthyciadau o’r chwarter hwn yn cynnwys taliadau ffyrlo gan Drysorlys ei Mawrhydi, sy’n cael eu cynnwys yn y categori cronfeydd cyhoeddus.
Yr 17 plaid wleidyddol a adroddodd am roddion, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:
Table 1
| Plaid | Cyfanswm a adroddwyd | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) | Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn |
|---|---|---|---|---|
| Alliance - Alliance Party of Northern Ireland | £15,746 | £0 | £15,746 | £15,746 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £2,567,653 | £2,319,508 | £236,102 | £2,555,610 |
| Y Blaid Gydweithredol | £359,080 | £359,080 | £0 | £359,080 |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - DUP | £232,850 | £0 | £232,850 | £232,850 |
| Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) | £106,479 | £62,368 | £44,111 | £106,479 |
| Y Blaid Werdd (Gogledd Iwerddon) | £11,483 | £0 | £11,483 | £11,483 |
| Y Blaid Lafur | £3,724,824 | £1,466,277 | £2,247,552 | £3,713,830 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,342,638 | £718,217 | £537,114 | £1,255,332 |
| People Before Profit Alliance | £9,045 | £0 | £4,520 | £4,520 |
| Plaid Cymru | £69,067 | £0 | £69,067 | £69,067 |
| Plaid Werdd yr Alban | £8,894 | £0 | £8,894 | £8,894 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £551,078 | £92,732 | £458,346 | £551,078 |
| SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £133,569 | £0 | £133,569 | £133,569 |
| Sinn Féin | £73,579 | £0 | £73,579 | £73,579 |
| Traditional Unionist Voice - TUV | £13,766 | £0 | £6,880 | £6,880 |
| Plaid Unoliaethwyr Ulster | £22,894 | £0 | £22,894 | £22,894 |
| Women's Equality Party | £20,875 | £15,875 | £0 | £15,875 |
| Cyfanswm | £9,263,520 | £5,034,058 | £4,102,706 | £9,136,764 |
Yn ychwanegol at yr adroddiadau rhoddion a restrir uchod, fe wnaeth Advance Together adrodd rhodd o £8,208 yn chwarter 2 a dderbyniwyd yn chwarter 4 2019.
Cont
Methodd deuddeg o bleidiau â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'r Polisi Gorfodi a chyhoeddi, os yw’n briodol, unrhyw gosbau a roddir yn y dyfodol.
Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan wahanol gyrff neu unigolion sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.
Benthyca
Gwerth benthyciadau newydd i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr yn ail chwarter 2020 oedd £22,000. Talwyd yn ôl fenthyciadau gwerth £15,510 yn ail chwarter 2020. Ni chafwyd adroddiadau am unrhyw fenthyciadau newydd gan bleidiau Gogledd Iwerddon.
Table 2
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch2 2020
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol a chymdeithasau aelodau.
Yn ail chwarter 2020, derbyniwyd £284,968 mewn rhoddion gan 14 o dderbynwyr . Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
| Math o dderbynnydd a reoleiddir | Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd | Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor | Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
|---|---|---|---|
| GLA - Aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf | £49,500 | £0 | £49,500 |
| Meiri a etholir yn uniongyrchol | £46,472 | £0 | £46,472 |
| AS - Aelod Seneddol | £188,996 | £0 | £188,996 |
| Cyfansymiau | £284,968 | £0 | £284,968 |
Further information
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau Prydain Fawr yn ail chwarter 2020, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy:
- alluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- reoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- ddefnyddio ein harbenigedd i wneud, ac eirioli tros, newidiadau i’n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys crynswth o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
3. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
4. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
5. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Grantiau Datblygu Polisi yw y rhain, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu fwy o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
6. Roedd 385 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod ail chwarter 2020. Roedd gofyn i 65 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 48 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill (heblaw eu bod wedi derbyn rhoddion) gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod olynol heb swm yn flaenorol.
7. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
8. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.
9. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
10. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.