Rhoddion a dderbyniwyd
Rhannu'r dudalen hon:
Crynodeb
Rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig roi gwybod am roddion a dderbyniwyd ganddynt bob chwarter. Rydym yn cyhoeddi'r rhoddion hyn ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.
Mae'r rheolau ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth hon yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni gyhoeddi unrhyw wybodaeth am roddion na benthyciadau o'r cyfnod cyn 1 Gorffennaf 2017.
Derbyn rhodd
Pan fydd pleidiau gwleidyddol, unigolion neu sefydliadau eraill yn derbyn rhodd, rhaid iddynt wneud y canlynol:
- cofnodi gwybodaeth am y rhodd, megis y swm a phwy a'i rhoddodd
- cadarnhau ffynhonnell y rhodd a phenderfynu a yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir
- penderfynu a ddylid cadw neu ddychwelyd y rhodd, yn dibynnu ar y ffynhonnell
- rhoi gwybod i ni am y rhodd, os yw'n fwy na'r swm adroddadwy neu os ydynt wedi'i dychwelyd
Siart: Rhoddion a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol
Mae'r siart ganlynol yn dangos rhoddion a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol o 2001 ymlaen. Gallwch weld data o Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon neu gyfuno'r wybodaeth. Mae hefyd yn dangos rhoddion hwyr yn ôl plaid.