Cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch1 2022

Cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch1 2022

Adroddodd pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £12,522,311 mewn rhoddion ac arian cyhoeddus yn chwarter cyntaf 2022 (mis Ionawr i fis Mawrth), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae’r cyfanswm yn cynnwys rhoddion a benthyciadau gan ddeunaw o bleidiau, ac mae hyn yn cymharu â £15,298,219 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2021.

Wrth wneud sylw ar yr wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:

“Derbyniodd pleidiau gwleidyddol dros £12m yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn hon. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol ar bleidiau i wirio bod rhoddion y maent yn eu derbyn yn dod o ffynonellau a ganiateir, ac adrodd am y rhain i’r Comisiwn. Rydym yn cyhoeddi manylion rhoddion ar-lein er mwyn rhoi tryloywder i bleidleiswyr ynghylch y broses ariannu wleidyddol, fel bod pawb yn gallu gweld sut y caiff pleidiau eu hariannu.”

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys:

  • rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
  • rhoddion a ddylai fod wedi eu hadrodd mewn chwarteri blaenorol
  • rhoddion nas caniateir a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

Y deunaw plaid wleidyddol a adroddodd am roddion yn ystod chwarter un 2022, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:

Plaid Cyfanswm a adroddwyd Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Alliance – Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon £58,622 £40,000.00 £18,622 £58,622
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)

£4,634,504

£4,576,049

£58,455 £4,608,213
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) £7,534 £7,534 £0 £7,534
Y Blaid Gydweithredol £7,500 £7,500 £0 £7,534
Democratic Unionist Party - D.U.P. £98,926 £0 £98,926 £98,926
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) £166,046 £121,670 £44,376 £166,046
Y Blaid Lafur £5,267,489 £5,267,489 £0 £5,229,989
Y Democratiaid Rhyddfrydol £1,421,436 £1,132,774 £288,662 £1,368,419
Plaid Cymru £74,436 £49,641 £24,795 £74,436
Plaid Werdd yr Alban £8,456 £0 £8,456 £8,456
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) £364,606 £91,996 £272,610 £364,606
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)

£58,430

£0 £58,430

£58,430

Sinn Féin £80,531 £0 £80,531 £80,531
The Reclaim Party £300,000 £300,000 £0 £300,000
Traditional Unionist Voice - TUV £30,000.00

£30,000

£0

£30,000

True & Fair Party £25,000 £25,000 £0 £25,000
Plaid Unoliaethwyr Ulster £25,603 £2,000.00 £23,603 £25,603
Plaid Cydraddoldeb Menywod

£10,000

£10,000

£0 £10,000
Cyfanswm £12,639,119 £11,661,653 £977,466 £12,522,311

Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a/neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir.

Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.

Methodd naw o bleidiau â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.

Benthyca

Cafodd £167,000 o fenthyciadau newydd eu hadrodd yn ystod chwarter cyntaf 2022. Cafodd benthyciadau â gwerth o £42,200 eu talu’n llawn.

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch1 2022

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Yn ystod chwarter cyntaf 2022, derbyniwyd £930,175 mewn rhoddion gan chwe deg un o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn y rhoddion arian parod a’r rhoddion nad ydynt yn arian parod ar gael ar ein gwefan.

Math o dderbyniwr a reoleiddir Gwerth y rhoddion arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd
Maer £48,527 £0 £48,527
Cymdeithas Aelodau £121,500 £0 £121,500
AS - Aelod Seneddol £583,696 £154,452 £738,148
MSP - Aelod o Senedd yr Alban £0 £0 £0
Cyfansymiau £775,723 £154,452 £930,175

Rhagor o wybodaeth

Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.

Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch1 2022 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, gallwch e-bostio [email protected]

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.

2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.

3. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am Ddatganiadau o Gyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.

4. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.

5. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.

6. Roedd 387 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod chwarter cyntaf 2022. Roedd gofyn bod 77 ohonynt yn cyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a bod 49 yn cyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.

7. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbyniwr a reoleiddir a'i ofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.

8. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.

9. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.

10. Mae pob derbyniwr arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.