Cyhoeddi’r cyfrifon ariannol diweddaraf ar gyfer pleidiau gwleidyddol mwy y DU
Summary
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu sydd ag incwm neu warian dros £250,000 wedi eu cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfrifon hyn ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2019.
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Rhaid i bleidiau gwleidyddol gadw cofnodion ariannol a chyflwyno datganiadau cyfrifon i ni. Mae cyhoeddi’r data hwn yn helpu pleidleiswyr i weld incwm pleidiau gwleidyddol, a faint y maent yn ei wario. Dyma ran bwysig o gyflawni tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU, a gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”
Incwm a gwariant pleidiau
Adroddodd 16 plaid yn y DU fod ganddynt incwm neu wariant dros £250,000. Cyfanswm incwm y pleidiau hyn oedd £185,837,000, a chyfanswm eu gwariant oedd £169,103,000. Mewn gwrthgyferbyniad, adroddodd 15 plaid yn 2018 gyfanswm incwm o £99,608,000 a chyfanswm gwariant o £101,369,000.
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Alliance - Alliance Party of Northern Ireland | £388,644 | £382,221 |
Y Blaid Gydweithredol | £1,252,548 | £1,224,997 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £67,995,000 | £54,908,000 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P. | £499,957 | £487,904 |
Y Blaid Werdd | £3,454,562 | £3,177,323 |
Y Blaid Lafur | £57,295,000 | £57,278,000 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £24,617,940 | £19,905,925 |
Plaid Cymru | £888,826 | £1,023,492 |
Plaid Werdd yr Alban | £417,945 | £399,144 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £5,290,815 | £5,609,024 |
Sinn Féin | £2,495,054 | £1,536,119 |
Plaid Brexit | £17,290,036 | £18,904,591 |
The Independent Group for Change | £1,611,031 | £1,496,216 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £1,162,622 | £1,586,620 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £325,900 | £345,637 |
Plaid Cydraddoldeb Menywod | £851,424 | £838,131 |
Mae manylion cyfrifon ariannol llawn pob un o’r 16 plaid wleidyddol ar gael ar wefan y Comisiwn.
Incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu ymlynol pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Mae 17 o unedau cyfrifyddu wedi adrodd gwariant neu incwm sydd dros £250,000. Fe wnaeth yr unedau cyfrifyddu hyn adrodd cyfanswm incwm o £12,465,104, a chyfanswm gwariant o £11,634,000.
Y deg uned gyfrifyddu a wnaeth adrodd yr incwm neu wariant mwyaf dros £250,000:
Plaid | Uned gyfrifyddu | Incwm | Gwariant |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Dinasoedd Llundain a San Steffan | £541,428 | £473,765 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Kensington, Chelsea a Fulham | £372,548 | £348,175 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Wyre Forest | £409,614 | £49,045 |
Y Blaid Lafur | Y Blaid Lafur yr Alban | £339,722 | £413,384 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | ALDC | £941,624 | £947,843 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Lleogr | £3,915,376 | £3,791,238 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Llundain | £419,738 | £370,112 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Swyddfa Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,288,587 | £1,310,782 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Yr Alban | £600,519 | £647,117 |
Scottish National Party (SNP) | Grŵp Seneddol Plaid Genedlaethol yr Alban | £1,379,951 | £1,396,395 |
Mae’r cyfrifon ariannol ar gyfer pob un o’r unedau cyfrifyddu a gyhoeddwyd heddiw ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cymariaethau â chyfansymiau’r blynyddoedd blaenorol
Isod mae’r cyfansymiau ar gyfer pob cyfrif ariannol pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd dros y trothwy o £250,000 yn y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf:
Pleidiau gwleidyddol
2017 | 2018 | 2019 | |
---|---|---|---|
Incwm | £125,659,000 | £99,608,000 | £185,837,000 |
Gwariant | £124,700,000 | £101,369,000 | £169,103,000 |
Unedau cyfrifyddu
2017 | 2018 | 2019 | |
---|---|---|---|
Incwm | £7,991,000 | £7,818,000 | £12,120,000 |
Gwariant | £7,919,000 | £7,334,000 | £11,634,000 |
Cyflwyno'n hwyr
Fe wnaeth un blaid wleidyddol a dwy uned gyfrifyddu fethu â chyflwyno’u cyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 7 Gorffennaf 2020. Lle bo pleidiau wedi cyflwyno eu cofnodion yn hwyr o ganlyniad i resymau sy’n ymwneud â’r pandemig, byddwn yn ystyried hyn yn llawn wrth ystyried pa gamau gweithredu - os o gwbl - a fyddai’n briodol a chymesur. Rydym yn fodlon bod effaith cyfyngiadau cloi ar blaid neu uned gyfrifyddu yn esgus rhesymol dros gyflwyno cofnodion yn hwyr.
Diwedd
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu e-bostiwch [email protected] Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414.
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol gydag incwm dros £25,000 archwilio eu cyfrifon yn annibynnol, a chynnwys yr adroddiad hwn gyda’u cyflwyniad. Nid yw'r ffaith bod Datganiad Cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu.
Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
Cafodd manylion ariannol pleidiau ac unedau cyfrifyddu gydag incwm neu wariant o dan £250,000 yn 2019 eu cyhoeddi fis diwethaf ac maent ar gael ar ein gwefan. Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno eu cyfrifon.
Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd ag achosion blaenorol o fethiannau i gyflwyno Datganiad Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn ein cyhoeddiadau achosion a gaewyd.