Datganiad y Comisiwn Etholiadol ar gynnal etholiadau 6 Mai

Datganiad y Comisiwn Etholiadol ar gynnal etholiadau 6 Mai

Dywedodd Bob Posner, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol: 
“Mae'r prosesau cyfrif terfynol bellach wedi'u cwblhau ac mae canlyniadau etholiadau mis Mai 2021 wedi cael eu cyhoeddi. Er y bydd proses fanwl o gasglu gwybodaeth a gwerthuso yn dilyn, ein hasesiad cychwynnol yw y cafodd yr etholiadau eu cynnal yn effeithiol. Mae'r dystiolaeth bresennol yn dangos eu bod wedi cael eu cynnal heb broblemau gweinyddol sylweddol na helaeth, gan wneud y defnydd gorau o brosesau newydd a phrosesau wedi'u haddasu er mwyn helpu i fod yn ddiogel o ran COVID-19, a chefnogi'r etholwyr wrth iddynt gymryd rhan yn y digwyddiadau democrataidd pwysig hyn. 

“Roedd hon yn un o'r cyfresi mwyaf cymhleth o ddigwyddiadau pleidleisio a gynhaliwyd yn ddiweddar, oherwydd yr heriau ychwanegol ac amrywiol a oedd yn gysylltiedig â phandemig COVID-19. Mae'r ffaith ei bod yn ymddangos i'r broses ddemocrataidd gael ei chynnal yn ddidrafferth yn dyst i ymroddiad a gwaith caled y gymuned etholiadol, yn enwedig y rhwydwaith o Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadau ledled Prydain Fawr, sydd wedi gweithio'n ddiflino i baratoi ar gyfer yr etholiadau hyn a'u cynnal dan amgylchiadau anodd ac ansicr. 

“Gwelwyd cyfraniad hollbwysig gan eraill hefyd, fel y Post Brenhinol, a helpodd i sicrhau y gallai'r miloedd lawer o bleidleisiau post gyrraedd pleidleiswyr a chael eu dychwelyd mewn pryd i gael eu cyfrif. Hoffem ddiolch hefyd i rwydwaith eang y Comisiwn o sefydliadau partner sydd wedi cefnogi ein gwaith er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth roedd ei hangen arnynt i gymryd rhan yn ddiogel ac yn hyderus.

“Byddwn yn paratoi adroddiad ffurfiol ar y ffordd y cafodd yr etholiadau eu cynnal yn yr hydref, er mwyn gallu cofnodi a dysgu gwersi pwysig. Bydd ein gwaith rheoleiddio hefyd yn dechrau nawr, er mwyn helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gofynion o ran cyllid ymgyrchu sy'n sicrhau tryloywder cyhoeddus.”
 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio  [email protected]

Nodiadau i olygyddion

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.