Diweddariad misol – ymchwiliadau a gwblhawyd
Summary
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi'r manylion am yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf. Mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Penderfyniad | Canlyniad |
---|---|---|---|
Renew (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Talwyd ar 10 Tachwedd 2019 |
Unity in Action (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Talwyd ar 11 Tachwedd 2019 |
Wrth sôn am y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae'n siomedig gweld pleidiau yn methu â chyflwyno adroddiadau ar amser. Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael y cyfle i weld data llawn, cywir er mwyn gwybod o ble daw arian pleidiau.
Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Ymchwiliadau lle na roddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Penderfyniad | Canlyniad |
---|---|---|---|
Chesterfield and North Derbyshire Independents (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr | Dim trosedd | Wedi cau heb gamau pellach |
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg yn y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol yn ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.
Tagiau cysylltiedig
- Campaigner
- Candidate
- Investigations
- Journalist
- Political party
- UK wide
- Voter