Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Medi 2018)

Ymchwiliadau diweddar

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.

Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dod a'i ymchwiliad i p'un a bod Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) wedi cymryd rhai rhoddion nas caniateir gan blaid wleidyddol a sefydliad Ewropeaidd i ben. Nid yw'r Comisiwn wedi canfod bod trosedd ar y dystiolaeth sydd ar gael.

Mae datganiad i'r wasg ac adroddiad ar yr ymchwiliad yma wedi' cyhoeddi ar ein gwefan.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd

Enw a math o endid a reoleiddir Beth ymchwiliwyd Penderfyniad a wnaed Canlyniad
Compass (ymgyrchydd trydydd parti) Talu treuliau ymgyrch etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 tu allan i'r 60 diwrnod. £500 (cosb ariannol amrywiol) Talwyd ar 6 Medi 2018
Social Democratic and Labour Party (plaid gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon) Adroddiadau chwarterol gwallus a hysbysiad o newid swyddog cofrestredig hwyr 2 x £250 (cosbau ariannol amrywiol) Talwyd ar 5 Medi 2018
Irvine Unionist Club (ymgyrchydd trydydd parti) Methu â rhoi hysbysiad o roddion i blaid wleidyddol dros £25,000, a hysbysiad o roddion a dderbyniwyd erbyn y dyddiad dyledus £400 (cosb ariannol amrywiol) Talwyd ar 26 Awst 2018
Unite the Union (ymgyrchydd trydydd parti) Methu â danfon cofnod gwariant cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 £250 (cosb ariannol amrywiol) Talwyd ar 7 Medi 2018
Friends of the Earth Trust (ymgyrchydd trydydd parti) Danfon cofnod gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 yn hwyr £250 (cosb ariannol amrywiol) Talwyd ar y cam hysbysiad cychwynnol ar 8 Awst 2018
Ashford Independent (plaid gofrestredig) Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr Dim cosb. Danfonodd y blaid y cyfrifon yn hwyr, ond roedd y Comisiwn yn fodlon bod ffactorau lliniarol ac ni roddwyd cosb. Cau'r achos heb gamau pellach

Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:

Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau ac ymgyrchwyr yn methu â chydymffurfio. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data adroddadwy llawn a chywir ar beth mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwario eu harian er mwyn dylanwadu arnynt mewn etholiadau. Mae hyn yn rhoi tryloywder i'r system gyllid wleidyddol ac mae ar gael i unrhyw un graffu arno. Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol:

Nodiadau ychwanegol

Nodiadau i olygyddion

  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth,
    • gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.

  • Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
  • Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.