Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Mehefin 2021)
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
British National Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Cyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Cosb ariannol amrywiol o £300 wedi ei rhoi, i’w thalu erbyn 6 Mai 2021 |
Wrth sôn am yr ymchwiliad a gwblhawyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae'r gofynion adrodd yn glir ac mae'n bwysig eu bod yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd gall achosion o fethu â chydymffurfio gynnig cyfle i ni weithio gyda grwpiau ymgyrchu er mwyn eu helpu i ddeall y rheolau'n well a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â nhw yn y dyfodol.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.