Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Rhagfyr 2018)
Diweddariad yr ymchwiliad
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau a rhoddwyd cosbau:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Danfon adroddiad rhoddion a benthyciadau chwarter 4 2017 yn hwyr | £6,000 o gosb ariannol amrywiol | Talwyd ar 5 Rhagfyr 2018 |
Democratiaid Rhyddfrydol | Methu â danfon cofnod gwariant ar gyfer etholiad Senedd yr Alban 2016 | £500 o gosb ariannol amrywiol | Talwyd ar 14 Rhagfyr 2018 |
Kendal and Westmoreland Liberal Club (cymdeithas anghorfforedig) | Methu â rhoi hysbysiad o roddion i blaid wleidyddol dros £25,000, a hysbysiad o roddion a dderbyniwyd erbyn y dyddiad dyledus | £400 o gosb ariannol amrywiol | Talwyd ar 15 Tachwedd 2018 |
Spennymoor Independents | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | £200 o gosb ariannol penodol | Talwyd ar 12 Rhagfyr 2018 |
Scottish Democrats | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | £200 o gosb ariannol penodol | Talwyd ar 22 Tachwedd 2018 |
Hextable Independent | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | £200 o gosb ariannol penodol | Taliad yn ddyledus erbyn 27 Rhagfyr 2018 |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau ac ymgyrchwyr yn methu â chydymffurfio. Mae'r gyfraith yn nodi'n glir pryd bod gofyn cyflwyno data i'r Comisiwn. Does dim esgus pam fod pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cyllido'n dda, yn benodol, yn methu â chydymffurfio â'u gofynion cyfreithiol. Byddwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau ond ni roddwyd cosbau:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Co-op Party | Danfon adroddiad rhoddion chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Vapers in Power | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Temple and Farringdon Together | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Wales Ireland Scotland England Reunited | Danfon adroddiad rhoddion benthyciadau chwarterol, cyfrifon blynyddol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Mr Paul Fisher | Mynd i wariant ymgyrchu ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 heb awdurdod cywir gan y blaid. | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Ends
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- [email protected]
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan giesio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.