Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Tachwedd 2021)
Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir |
Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo |
Troseddau a gafwyd |
Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Renew (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Cyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr. |
Cyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr.
|
Cosb ariannol amrywiol o £2,800 wedi’i rhoi. Taliad yn ddyledus erbyn 8 Rhagfyr 2021 |
Democratiaid Rhyddfrydol (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Methu â chyflwyno ffurflenni rhoddion chwarterol cywir |
Methu â chyflwyno ffurflenni rhoddion chwarterol cywir |
Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Mae hi’n bwysig o ran tryloywder bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir am yr arian sy’n cael ei gwario a’i derbyn gan bleidiau gwleidyddol. Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi’n siomedig pan na chânt eu bodloni.
“Lle canfyddwn fod troseddau wedi’u cyflawni, nid ydym yn rhoi cosbau yn awtomatig. Rydym yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniad terfynol, gan gynnwys ymdrechion plaid i wella’u systemau cydymffurfio i osgoi tor-rheolau yn y dyfodol.”
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir |
Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo |
Troseddau a gafwyd |
Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru (plaid wleidyddol gofrestredig a hyrwyddwr); Solopress Ltd (argraffwr) |
Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu |
Dim trosedd mewn cysylltiad â’r blaid fel hyrwyddwr y deunydd. Trosedd mewn cysylltiad â’r argraffwr. |
Cau'r achos heb gamau pellach |
Centrum Campaign Limited (ymgyrchydd nad yw’n blaid cofrestredig) |
Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion wythnosol ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019. |
Ni chafwyd bod trosedd |
Cau'r achos heb gamau pellach |
Shaun Bailey (derbyniwr a reoleiddir) |
Methu â dychwelyd rhodd nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn |
Ni chafwyd bod trosedd |
Cau'r achos heb gamau pellach |
Plaid Genedlaethol yr Alban (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Adrodd ar roddion yn hwy |
Ni chafwyd bod trosedd |
Cau'r achos heb gamau pellach |
Space Navies (GB) (plaid wleidyddol a ddadgofrestrwyd) |
Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol yn hwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019; methu â chyflwyno datganiad llofnodedig cysylltiedig |
Ni chafwyd trosedd |
Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael ar wefan y Comisiwn.
- Mae cosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol, yr un fath â rhoddion a fforffedwyd. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.