Dweud eich dweud ar hygyrchedd pleidleisio
Dweud eich dweud ar hygyrchedd pleidleisio
Mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar fesurau i wella hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus newydd.
Mae’r ymgynghoriad, a gynhelir gan y Comisiwn Etholiadol, yn agor ar Ddydd Llun 5 Medi, a bydd yn edrych ar sut y gellir gwella gorsafoedd pleidleisio i wneud pleidleisio’n haws i bobl ag anableddau.
Bydd ymatebion yn cael eu defnyddio i lunio’r canllawiau a ddarperir gan y Comisiwn i staff cyngor sy’n cynnal etholiadau, gan eu helpu i ddeall y rhwystrau sy’n cael ei hwynebu gan bobl ag anableddau ac i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch beth y gallant wneud i wneud pleidleisio’n haws ac yn fwy hygyrch i bawb.
Bydd y canllawiau newydd yn adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau, gan ehangu’r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio a rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ag anableddau ynghylch pwy all ddod gyda nhw. Daw’r newidiadau hyn i rym mewn etholiadau o fis Mai 2023 ymlaen.
Dywedodd Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau'r Comisiwn Etholiadol:
“Dylai pawb gael yr hawl i bleidleisio ar eu pen eu hunain ac yn gyfrinachol. Er bod gwelliannau wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein hymchwil yn dangos bod dal mwy i’w wneud er mwyn gwneud pleidleisio’n haws i bobl ag anableddau.
“Rydym angen eich mewnbwn i wneud yn siŵr ein bod yn argymell y cymorth cywir. Os hoffech ddweud eich dweud ar hygyrchedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, hoffem glywed gennych.”
Mae’r ymgynghoriad yn galw am sylwadau ar rwystrau i bleidleisio, beth ddylai fod ar gael i bobl mewn gorsafoedd pleidleisio, hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio, a sut y gall timau etholiadau helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’w trigolion lleol.
I gyfrannu at yr ymgynghoriad, llenwch y ffurflen ar-lein neu anfonwch e-bost i [email protected]
Mae’r ymgynghoriad ar agor o 5 Medi 2022 tan 17 Hydref 2022.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.
2. Cynhelir yr ymgynghoriad ar y canllawiau hygyrchedd mewn dau gam, o 5 Medi tan 17 Hydref ac yna o 28 Tachwedd tan 9 Ionawr. Bydd hyn yn caniatáu i ni ymgorffori adborth o’r cam cyntaf i mewn i fersiwn wedi’i ddiweddaru. Mae ail gam yr ymgynghoriad hefyd yn ofyniad cyfreithiol.
3. Cyflwynodd Llywodraeth y DU nifer o newidiadau i system etholiadol y DU yn Neddf Etholiadau 2022. Mae newidiadau’n cynnwys cyflwyno ID pleidleiswyr ar gyfer etholiadau ym Mhrydain Fawr, newidiadau i hawliau pleidleisio ar gyfer dinasyddion yr UE, a gwella hygyrchedd etholiadau. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Etholiadau a’n barn ar y diwygiadau ar ein gwefan.
4. Bydd newidiadau i ganllawiau hygyrchedd yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, etholiadau lleol ac etholiadau maerol yn Lloegr ac etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r etholiadau cyntaf lle bydd y newidiadau hyn yn gymwys ym mis Mai 2023. Nid yw'r mesurau hygyrchedd newydd hyn yn gymwys i etholiadau i Senedd Cymru na Senedd yr Alban, nac i etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban.
5. Bydd y canllawiau’n argymell ystod o gymorth y dylai timau etholiadau mewn cynghorau lleol sicrhau eu bod ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae’r Ddeddf Etholiadau yn gofyn bod timau etholiadau’n ‘rhoi sylw’ i’n canllawiau. Fodd bynnag, timau lleol sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar beth i’w ddarparu yn seiliedig ar eu dealltwriaeth o anghenion trigolion.
6. Ceir gwybodaeth ar y cymorth hygyrchedd sydd ar gael yn bresennol mewn etholiadau ar ein gwefan.