Hyder y cyhoedd mewn etholiadau ar ei lefel uchaf ers 10 mlynedd
Summary
Mae hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal ar ei lefel uchaf ers i waith casglu data ddechrau yn 2012. Mae canfyddiadau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw yn dangos bod pedwar o bob pump o bobl a ymatebodd yn hyderus bod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn dda, i fyny o 71% y llynedd. Roedd boddhad â'r broses bleidleisio (86%) a chofrestru i bleidleisio (86%) hefyd ar y lefelau uchaf erioed.
Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau cadarnhaol ynghylch tryloywder gwariant a chyllid pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr wedi lleihau ers i ymchwil y Comisiwn ddechrau. Dim ond 14% o ymatebwyr a ddywedodd eu bod o'r farn bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw, o gymharu â 37% yn 2011.
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil:
"Mae lefel uchel hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yn dyst i'r gwaith caled a wneir gan weinyddwyr etholiadau ledled y DU.
"Mae angen gweithio nawr i sicrhau bod hyder yn nhryloywder cyllid gwleidyddol yn cyd-fynd â hyn. Yn y tair blynedd diwethaf, rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth am dros £200 miliwn a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol yn y DU, sydd ar gael ar-lein i'r cyhoedd graffu arni. Byddwn yn parhau i weithio gyda phleidiau ac ymgyrchwyr i wella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn cyllid gwleidyddol."
Canfu'r ymchwil y canlynol hefyd:
- Mae cryn dipyn o amheuaeth ynghylch gwybodaeth wleidyddol ar-lein gyda 46% o bobl yn cytuno nad yw'r wybodaeth y maent yn ei darllen ar-lein yn ddibynadwy, o gymharu â 12% yn cytuno ei bod yn ddibynadwy
- Mae dros 70% yn cytuno y dylai fod yn glir faint sydd wedi cael ei wario ar hyrwyddo hysbyseb ar-lein, gan bwy a pham ei bod wedi'i thargedu atynt
- Dywed dwy ran o dair o'r cyhoedd y byddai gofyn am brawf adnabod pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio yn rhoi mwy o hyder iddynt yn niogelwch y system
- Mae rhyw 4% o'r ymatebwyr yn dweud nad oes ganddynt unrhyw brawf adnabod â llun arno y mae disgwyl iddo fod yn ofynnol o dan y cynigion sydd i ddod gan Lywodraeth y DU. Mae'r ganran hon yn uwch ymhlith rhai grwpiau mwy difreintiedig.
Wrth sôn ymhellach, dywedodd Craig Westwood:
"Er bod lefelau isel iawn o dwyll etholiadol profedig yn y DU, byddai dwy ran o dair o bobl yn teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â diogelwch y system bleidleisio pe bai gofyniad i ddangos prawf adnabod. Mae disgwyl i Lywodraeth y DU ddeddfu i gyflwyno prawf adnabod gan bleidleiswyr yn fuan. Bydd yn bwysig i unrhyw newidiadau gydbwyso'r angen am system sy'n ddiogel ac yn hygyrch. Byddwn yn cynghori'r seneddwyr wrth iddynt ystyried y mesur."
Mae ymchwil y Comisiwn yn rhan o arolwg blynyddol a gynhelir ledled y DU i roi trosolwg o farn y cyhoedd am y broses bleidleisio a democratiaeth yn y DU. Mae'n cynnwys amrywiaeth o faterion etholiadol gan gynnwys y broses o bleidleisio a chofrestru, cyllid pleidiau a thwyll etholiadol. Cynhaliwyd gwaith ymchwil eleni ar-lein rhwng 29 Ionawr a 18 Chwefror.
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar ein gwefan.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg yn y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Cynhaliwyd gwaith ymchwil ar-lein rhwng 29 Ionawr a 18 Chwefror 2021, gyda sampl cyffredinol o 3,418 o ymatebwyr wedi'i bwysoli i gynrychioli poblogaeth y DU. Roedd y sampl yn cynnwys 500 o ymatebwyr yr un o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â 500 o ymatebwyr o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae tablau data manwl ar gael ar ein gwefan.
Mae data llawn ar gyfer arolygon tracio blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan y Comisiwn.