Agweddau'r cyhoedd
barn y cyhoedd 2021
Ers 2007, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi olrhain barn y cyhoedd am agweddau gwahanol ar etholiadau a democratiaeth yn y DU. Cynhaliwyd ein hastudiaeth ddiweddaraf ar-lein, ledled y DU, ym mis Chwefror 2021.
Canfyddiadau allweddol
- Mae hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal gystal â'r hyn rydym wedi'i weld yn ein gwaith ymchwil.
- Mae canfyddiad y cyhoedd bod twyll etholiadol yn broblem yn y DU wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Mae tuedd negyddol o hyd mewn perthynas â chanfyddiad y cyhoedd o dryloywder cyllid pleidiau ac ymgyrchwyr.
- Er y dywed dwy ran o dair o'r cyhoedd y byddai cael prawf adnabod pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio yn rhoi mwy o hyder iddynt yn niogelwch y system, nid oes gan oddeutu 4% y prawf adnabod perthnasol. Mae'r ganran hon yn uwch ymhlith grwpiau sydd dan anfantais. Dywedodd 60% o'r rhai nad oes ganddynt y prawf adnabod cywir y byddent yn sicr neu'n fwy na thebyg yn gwneud cais am gerdyn adnabod etholiadol.
Hyder a boddhad mewn perthynas â'r broses etholiadol
- Mae hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal gystal â'r lefelau uchaf a gofnodwyd gan ein gwaith ymchwil (ers 2012 pan wnaethom ddechrau ei fesur yn y ffordd hon), gydag 80% yn hyderus bod etholiadau'n cael eu cynnal yn effeithiol. Mae'r ganran hon wedi cynyddu o 71% y llynedd.
- Yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, cynyddodd hyder yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal 14 pwynt canrannol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn dal i fod yn is na chyfartaledd y DU ar 66%, ond mae'r Alban bellach yn unol â'r cyfartaledd ar 79%.
- Mae boddhad mewn perthynas â'r broses bleidleisio (80% yn 2020) wedi cynyddu i 86% eleni. Mae boddhad mewn perthynas â'r system cofrestru i bleidleisio ar 86% hefyd, sy'n gyson â'r ffigur yn 2020. Eto, mae'r ffigurau hyn ymhlith y rhai uchaf a gofnodwyd gennym erioed.
- Nid yw hyder y cyhoedd o ran gwybod sut i gofrestru wedi newid (93% yn hyderus) nac o ran gwybod sut i fwrw eu pleidlais (92% yn hyderus).
Twyll etholiadol
- Mae'r canfyddiad bod twyll etholiadol yn broblem yn y DU wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi haneru bron, gan ostwng o 39% yn cytuno ei fod yn broblem i 20% yn 2021.
- Mae'r newid hwn wedi bod yn gyson ym mhob gwlad. Fel y dangosir yn y tabl isod, yn y rhan fwyaf o'r blynyddoedd blaenorol dywedodd y mwyafrif o bobl o bob gwlad eu bod yn credu bod twyll etholiadol yn broblem. 2021 yw'r flwyddyn gyntaf lle mae'r duedd hon wedi cael ei throi ar ei phen, gyda'r mwyafrif o bobl bellach yn dweud nad ydynt yn credu bod twyll etholiadol yn broblem.
- Mae'r gostyngiad mewn canfyddiadau ynghylch twyll yn gyson wrth edrych ar fetrigau gwahanol:
- Dywedodd 87% fod pleidleisio yn gyffredinol yn ddiogel rhag twyll a chamddefnydd (o gymharu ag 80% yn 2020).
- Dywedodd 22% eu bod o'r farn y gallai fod digon o dwyll etholiadol mewn ardal i effeithio ar y canlyniad etholiadol (yn 2020 roedd 36% yn credu hyn).
- Roedd 20% o'r farn y byddai'n hawdd cyflawni twyll etholiadol heb gael eich dal (roedd 31% o'r un farn yn 2020).
- Roedd 41% o'r farn bod mesurau diogelu digonol ar waith, o gymharu â 35% yn 2020.
Ni allwn ond dyfalu ynghylch y rhesymau posibl dros y newidiadau hyn mewn canfyddiadau mewn perthynas â thwyll. Gan nad oes gan y rhan fwyaf o bobl brofiad uniongyrchol o dwyll etholiadol, gwyddom y gall straeon yn y cyfryngau gael effaith nodedig ar ganfyddiadau. Mae'n bosibl felly y gallai diffyg etholiadau eang a sylw iddynt yn y cyfryngau yn 2020 fod wedi cyfrannu at ostyngiad yn lefel y pryder. Gallai'r adroddiadau am honiadau o dwyll etholiadol yn etholiad arlywyddol yr UD fod yn ffactor cyfrannol hefyd am fod yr honiadau hyn wedi cael eu diystyru i raddau helaeth yn y DU. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn wrth i'r cylch etholiadol arferol ailddechrau.
- Ymhlith y materion y gwnaethom holi amdanynt, roedd y pryder mwyaf1 yn ymwneud â thuedd yn y cyfryngau o hyd, gyda thros ddwy ran o dair yn dweud bod hyn yn broblem. Dywedodd ychydig dros hanner fod niferoedd bach yn pleidleisio mewn etholiadau yn broblem. Dywedodd cyfran debyg fod mesurau annigonol i reoleiddio gweithgareddau gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol yn broblem.
- Mae lefel y pryder bod achosion o fygwth ymgeiswyr yn broblem wedi gostwng hefyd, o 36% yn cytuno bod hyn yn broblem i 23% yn 2021. Mae'r newid hwn yn golygu bod y ffigur bellach yn agosach at y cyfartaledd hirdymor.
Faint o broblem, os o gwbl, yw twyll etholiadol (ym Mhrydain Fawr/ yng Ngogledd Iwerddon) ar hyn o bryd yn eich barn chi?
Problem NET (Y nifer net sy'n credu ei fod yn broblem llai'r nifer net sy'n credu nad yw'n broblem) | LLOEGR | CYMRU | YR ALBAN | GOGLEDD IWERDDON |
---|---|---|---|---|
2018 | 7% | 1% | 3% | 22% |
2019 | 5% | 7% | -2% | 32% |
2020 | 14% | 17% | 6% | 32% |
2021 | -23% | -28% | -28% | -13% |
Cyllid pleidiau
- Ychydig o newid a welwyd yn y gyfran sydd o'r farn bod mesurau annigonol i reoleiddio'r arian y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei wario ar eu hymgyrchoedd etholiadol yn broblem – mae ychydig yn llai na hanner y bobl yn dweud ei fod yn broblem o hyd (48%). Nid yw hyn wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 51% yn dweud ei fod yn broblem yn 2018.
- Mae canfyddiadau cadarnhaol ynghylch tryloywder gwariant a chyllid pleidiau/ymgyrchwyr gwleidyddol wedi bod yn dirywio ers i ni ofyn y cwestiwn gyntaf yn 2011 (pan gytunodd 37% fod hyn yn dryloyw). Mae 14% o'r farn bod hyn yn dryloyw yn 2021 (o gymharu ag 20% yn 2020). Roedd y gyfran a oedd yn anghytuno bod gwariant a chyllid yn dryloyw wedi aros yn y 40au isel (40-42%) rhwng 2018 a 2020, ond cynyddodd y ganran hon i bron hanner (49%) yn 2021.
- Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, Lloegr sydd wedi ysgogi'r duedd honno, gyda chynnydd sylweddol yn y gyfran sy'n anghytuno bod cyllid pleidiau gwleidyddol yn agored ac yn dryloyw (49% erbyn hyn o gymharu â 38% yn 2020). Mae hyn yn golygu bod Lloegr bellach yn gyson â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Ceir tuedd debyg pan ofynnir cwestiwn penodol am gyllid pleidiau ac ymgyrchwyr gwleidyddol. Dywed 49% nad yw'r system yn dryloyw (0-4 ar raddfa 0-10) a dywed 29% fod y system yn dryloyw (6-10 ar raddfa 0-10). Yn 2020, dywedodd cyfran gyfartal nad oedd y system yn dryloyw (36% ym mhob achos).
- Roedd dwywaith yn fwy o bobl yn credu na allent ganfod sut y caiff pleidiau eu hariannu, sef 40%, o gymharu â'r 20% a ddywedodd y gallent ganfod sut y caiff y sefydliadau eu hariannu. Mor ddiweddar â 2017, roedd 40% yn cytuno y gallent ganfod sut y caiff pleidiau gwleidyddol eu hariannu.
- Dim ond newid bach sydd i gyfran y bobl sy'n credu bod y wybodaeth am gyllid pleidiau gwleidyddol ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (19% yn 2021 a 21% yn 2020). Mae cyfran y bobl sy'n dweud nad ydynt yn gwybod wedi cynyddu'n sylweddol (57% yn 2021 o gymharu â 44% yn 2020).
- Mae 35% yn cytuno y bydd yr awdurdodau'n cymryd camau priodol os canfyddir bod sefydliad yn torri'r rheolau; mae'r ffigur hwn wedi lleihau ers 2017 hefyd pan oedd yn 58%, gyda 45% yn 2020. Ni fu llawer o newid yng nghyfran y bobl a oedd yn anghytuno rhwng 2018 a 2020 (19-22%), ond yn 2021 cynyddodd y ganran hon i 34%.
Prawf Adnabod Pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio
- Dywedodd y mwyafrif o'r cyhoedd (66%) y byddai gofyniad i ddangos prawf adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio yn rhoi mwy o hyder iddynt yn niogelwch y system bleidleisio.
- Fodd bynnag, dywed 4% o'r bobl hynny sy'n gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd nad oes ganddynt unrhyw rai o'r profion adnabod â llun presennol a allai fod yn ofynnol1 o dan gynigion Llywodraeth y DU. Mae cyfran y bobl nad oes ganddynt brawf adnabod presennol yn uwch ymhlith rhai grwpiau mwy difreintiedig, gan gynnwys pobl ddi-waith (11%) a'r rhai sy'n rhentu eiddo gan awdurdod lleol (13%) neu gymdeithas dai (12%), yn ogystal â phobl anabl (8%).
- Mae cynigion Llywodraeth y DU yn cynnwys darpariaethau ar gyfer prawf adnabod am ddim, a ddarperir yn lleol, i'w ddefnyddio mewn etholiadau. Dywedodd 60% o'r rhai nad oedd ganddynt brawf adnabod â llun y byddent yn sicr neu'n fwy na thebyg yn gwneud cais am brawf adnabod lleol. Dywedodd 23% nad oeddent yn siŵr a fyddent yn gwneud cais am y prawf adnabod ai peidio. Dywedodd 17% na fyddent yn gwneud cais am y prawf adnabod fwy na thebyg/ yn sicr.
Ymgyrchu digidol
- Mae galw am fwy o dryloywder ynghylch ymgyrchu/hysbysebion gwleidyddol ar-lein. Mae dros 70% yn cytuno y dylai fod yn glir faint sydd wedi cael ei wario ar hyrwyddo hysbyseb, gan bwy a pham ei bod yn targedu'r unigolyn dan sylw hefyd. Dim ond 4%-6% sy'n anghytuno â'r syniadau hyn.
- Ar hyn o bryd, mae 21% yn credu y gallant ganfod pwy sydd wedi cynhyrchu'r cynnwys gwleidyddol y maent yn ei weld ar-lein. Mae 37% yn anghytuno â hyn.
- Mae cryn dipyn o amheuaeth ynghylch gwybodaeth wleidyddol ar-lein gyda llawer mwy o bobl (46%) yn cytuno nad yw'r wybodaeth y maent yn ei darllen yn ddibynadwy, o gymharu â 12% yn cytuno ei bod yn ddibynadwy. Roedd ychydig llai na hanner y bobl (46%) yn cytuno bod ymgyrchoedd gwleidyddol ar-lein yn anwir neu'n gamarweiniol, ac roedd 10% yn anghytuno â hyn.
Gwybodaeth am etholiadau
- Gwybodaeth am Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon sydd ar y lefel uchaf. Dywed 87% ledled y DU eu bod yn gwybod ychydig o leiaf am etholiad Senedd y DU, a dywed yr un ganran yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eu bod yn gwybod ychydig o leiaf am Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, yn y drefn honno.
- Mae lefel y wybodaeth am etholiadau'r Senedd yng Nghymru yn is, gyda 71% yn dweud eu bod yn gwybod ychydig o leiaf am yr etholiadau hyn.
- Dywed 25% o bobl yng Nghymru eu bod yn gwybod bod etholiadau'r Senedd yn digwydd ond nad oeddent yn gwybod mwy amdanynt. Mae hyn yn cymharu ag 11% yn yr Alban a 10% yng Ngogledd Iwerddon, mewn perthynas â'u senedd/cynulliad perthnasol. Ar gyfer Senedd y DU, 11% oedd y ffigur.
- Ar gyfer etholiad maerol Llundain, dywedodd cyfran fawr o bobl Llundain (84%) eu bod yn gwybod ychydig o leiaf am yr etholiad, a honnodd ychydig dros hanner y bobl yn Lloegr, ac eithrio Llundain (54%) eu bod yn gwybod ychydig am etholiadau Maerol eraill.
- Dywed llai na hanner yr etholaeth ledled Cymru a Lloegr mewn ardaloedd sydd ag Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (38% yng Nghymru a 41% yn Lloegr) eu bod yn gwybod ychydig neu lawer am yr etholiadau hyn.
Dylanwad dros wleidyddiaeth a materion cyhoeddus
- Hanerodd nifer y bobl a oedd yn teimlo bod ganddynt lawer o ddylanwad/dylanwad teg dros wleidyddiaeth a materion cyhoeddus o 22% yn 2020 (cyn y pandemig) i 11% yn 2021. Yng Nghymru a Lloegr roedd y duedd hon i'w gweld fwyaf.
Canfyddiadau o'r Comisiwn Etholiadol
- Mae 35% naill ai wedi clywed llawer iawn neu gryn dipyn am y Comisiwn (cynnydd o gymharu â 29% yn 2020, ond yn gyson â'r ffigurau yn 2018 a 2019).
- Pan ofynnir yn benodol a ydynt wedi clywed am y Comisiwn yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r ffigur hwn wedi gostwng o 26% i 20%.
- ‘Annibynnol’ yw'r gair y mae pobl yn ei gysylltu fwyaf â'r Comisiwn o hyd (dewisodd 24% hwn). ‘Biwrocrataidd’ yw'r ail air a gaiff ei gysylltu fwyaf â'r Comisiwn bellach ar 20% (o gymharu ag 16% yn 2020). Mae ‘Pwysig’ wedi disgyn i'r trydydd safle, gan ostwng o 25% yn 2020 i 19% yn 2021. Gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy'n dweud nad ydynt yn gwybod pa air neu eiriau i'w cysylltu â'r Comisiwn Etholiadol, o 20% yn 2020 i 32% yn 2021.
Methodoleg
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil ar-lein rhwng 29 Ionawr a 18 Chwefror 2021. Roedd gennym sampl o 3418 o ymatebwyr, gyda 500 o ymatebwyr yr un o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd, cynyddwyd maint y sampl fel bod gennym 500 o ymatebwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Cafodd y rhain i gyd eu pwysoli er mwyn cynrychioli poblogaeth y DU. Ar ôl ystyried y prosesau pwysoli, roedd gennym sampl o 2002 o ymatebwyr i bob pwrpas.
byrddau
- 1. Gwnaethom roi rhestr o bryderon posibl i'r ymatebwyr: Rhwystrau i gyfranogiad democrataidd i grwpiau lleiafrifol, Rhwystrau i gyfranogiad democrataidd i bobl anabl, Bygwth ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, Twyll etholiadol, Dylanwad tramor ar ganlyniadau etholiadau yn y DU, Mesurau annigonol i reoleiddio'r arian y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei wario ar eu hymgyrchoedd etholiadol, Mesurau annigonol i reoleiddio gweithgareddau gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, Niferoedd llai yn pleidleisio mewn etholiadau, Tuedd yn y cyfryngau ↩ Back to content
- 1. Pa rai o'r mathau canlynol o brawf adnabod â llun sydd gennych? Dewiswch bob un sy'n gymwys. Pasbort (Prydeinig/ y Gymanwlad/ yr Ardal Economaidd Ewropeaidd), Trwydded yrru cerdyn-llun, Cerdyn adnabod etholiadol Gogledd Iwerddon/ SmartPass Translink â llun, Dogfen mewnfudo fiometrig y DU, Cerdyn Adnabod yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Cerdyn cynllun PASS (prawf oedran swyddogol), Cerdyn adnabod â llun y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cerdyn Teithio Rhatach, Cerdyn Oyster 60+, Cerdyn parcio Bathodyn Glas â llun, Nid oes gennyf unrhyw un o'r mathau hyn o brawf adnabod, Ddim yn gwybod DS. Ystyriwyd bod gan unrhyw un a ddewisodd unrhyw fath o brawf adnabod yn y cwestiwn hwn brawf adnabod pleidleisiwr (felly unrhyw ateb heblaw am Ddim yn gwybod neu Nid oes gennyf unrhyw un o'r mathau hyn o brawf adnabod). ↩ Back to content
Tagiau cysylltiedig
- Journalist
- Research
- UK wide
- Voter