Mae angen diwygiadau brys er mwyn cael miliynau o bobl i gofrestru i bleidleisio

Intro

Mae bron i 8 miliwn o bobl ledled y Deyrnas Unedig naill ai wedi’u cofrestru i bleidleisio yn anghywir neu ar goll yn gyfan gwbl, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn fwy na phoblogaeth oedolion Cymru a'r Alban gyda’i gilydd, a byddai'n cyfateb i fwy na 100 o etholaethau Senedd y DU.

Gwnaeth yr ymchwil ganfod bod pobl ifanc, pobl sy’n rhentu’n breifat a'r rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn parhau i fod yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru i bleidleisio yn gywir.

Mae'r canfyddiadau'n dangos nad yw'r system gofrestru etholiadol bresennol yn gweithio'n dda i bleidleiswyr na'r rhai sy'n cynnal etholiadau, a bod angen diwygiadau brys i alluogi defnyddio data cyhoeddus i hwyluso cofrestru pleidleiswyr, yn enwedig i'r rhai sy'n llai tebygol o gael eu cofrestru'n gywir.

Mae'r Comisiwn yn galw ar lywodraethau’r DU i basio deddfwriaeth i greu pyrth cyfreithiol clir i adrannau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus rannu data ar bleidleiswyr a allai fod yn gymwys gyda gweinyddwyr etholiadol. Byddai hyn yn galluogi swyddogion cofrestru etholiadol i gofrestru pleidleiswyr yn uniongyrchol, neu anfon gwahoddiadau i gofrestru atynt.

Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil:

“Mae miliynau o bobl ledled y DU heb eu cofrestru i bleidleisio'n gywir Er efallai nad yw rhai eisiau cymryd rhan mewn etholiadau, i lawer o bobl, mae'n ganlyniad i system gofrestru hen ffasiwn sy'n effeithio'n anghymesur ar rentwyr preifat a phobl ifanc.

"Heb weithredu, byddwn yn parhau i weld nifer fawr o bobl yn methu â chymryd rhan mewn etholiadau. Mae angen cynllun clir ar y gymuned etholiadol i sicrhau bod prosesau cofrestru etholiadol yn cael eu moderneiddio fel bod pobl yn cael eu cofrestru ac yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio. Fel rhan o'r cynllun hwn, bydd angen i lywodraethau basio deddfwriaeth i alluogi data i gael ei rannu gyda gweinyddwyr etholiadol.

"Rydyn ni'n barod i weithio gyda llywodraethau a gweinyddwyr etholiadol y DU i wella'r system a sicrhau bod cymaint o bobl â phosib wedi'u cofrestru i bleidleisio."

Yn ogystal â gwella'r profiad i bleidleiswyr, byddai'r newidiadau hyn yn mynd i'r afael â'r beichiau presennol a wynebir gan weinyddwyr etholiadol, y mae'n ofynnol iddynt ddefnyddio’u hadnoddau a'u capasiti cyfyngedig ar yr adeg fwyaf tyngedfennol cyn etholiadau mawr i reoli nifer uchel o geisiadau i gofrestru i bleidleisio.

Mae'r adroddiad llawn yn dangos cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ledled y DU, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl gwlad, oedran a rhywedd. Mae hefyd yn nodi ystod o opsiynau ar gyfer sut y gellid defnyddio ffynonellau data penodol i wella'r system.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]

Notes to eds

Nodiadau i olygyddion

  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt
    • gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  • Mae’r Comisiwn yn cynnal astudiaethau cywirdeb a chyflawnrwydd i fesur ansawdd y cofrestrau etholiadol. Y tro diwethaf y gwnaethom gynnal yr ymchwil hon oedd yn 2019, ar gofrestrau etholiadol 2018.
  • Mae'r Comisiwn yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â than-gofrestru trwy ein gwaith ymgyrchu ymwybyddiaeth gyhoeddus parhaus, yr ydym yn ei ddiweddaru'n rheolaidd i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r mewnwelediadau diweddaraf am agweddau pleidleiswyr a phatrymau demograffig grwpiau sydd wedi’u tan-gofrestru.
  • Gwnaed gwaith maes a dadansoddi data gan Ipsos ar ran y Comisiwn Etholiadol. Cyflawnwyd 5,298 o gyfweliadau ar draws 127 o ardaloedd awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr a 1,015 o gyfweliadau mewn 100 o wardiau yng Ngogledd Iwerddon.
  • Disgwylir i etholiadau gael eu cynnal ledled Cymru a Lloegr ym mis Mai 2024, gan gynnwys yn Llundain a Birmingham lle na chafwyd etholiadau ym mis Mai 2023. Hefyd mae’n rhaid i etholiad cyffredinol Senedd y DU cael ei gynnal cyn diwedd mis Ionawr 2025. Rhaid i bawb fod wedi’u cofrestru i bleidleisio i gymryd rhan mewn etholiadau.