Press release

Mae bron i 400,000 o bobl ledled Cymru naill ai ar goll neu wedi’u cofrestru i bleidleisio yn anghywir, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Gwnaeth yr ymchwil ganfod bod pobl ifanc, pobl sy’n rhentu’n breifat a'r rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn parhau i fod yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru i bleidleisio yn gywir. 

Mae'r canfyddiadau'n dangos nad yw'r system gofrestru etholiadol bresennol yn gweithio'n dda i bleidleiswyr na'r rhai sy'n ei gweinyddu. Mae angen diwygiadau brys i alluogi defnyddio data cyhoeddus i hwyluso cofrestru pleidleiswyr, yn enwedig i'r rhai sy'n llai tebygol o gael eu cofrestru'n gywir. 

Amlinellodd Llywodraeth Cymru gynigion i foderneiddio cofrestru etholiadol mewn papur gwyn ar weinyddiaeth etholiadol a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'r Comisiwn nawr yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i gydweithio i basio deddfwriaeth i greu pyrth cyfreithiol clir i adrannau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus rannu data ar bleidleiswyr a allai fod yn gymwys gyda gweinyddwyr etholiadol. Byddai dull cyson rhwng y ddwy lywodraeth yn sicrhau bod newidiadau'n cael eu datblygu a'u cyflawni mewn ffordd sy'n sicrhau bod pleidleiswyr yn cael eu cynnwys yn gywir yn y cofrestrau ar gyfer pob math o etholiadau y maent yn gymwys i bleidleisio ynddynt.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:

“Mae miloedd o bobl ledled Cymru heb gofrestru i bleidleisio neu wedi’u cofrestru’n anghywir. Er efallai nad yw rhai eisiau cymryd rhan mewn etholiadau, i lawer o bobl, mae'n ganlyniad i system gofrestru hen ffasiwn sy'n effeithio'n anghymesur ar rentwyr preifat a phobl ifanc. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol yng Nghymru lle mae ein hetholfraint pleidleisio yn cynnwys pobl ifanc 16-17 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol. 

“Gallai math mwy awtomataidd o gofrestru pleidleiswyr weld ceisiadau'n cael eu gwneud ar yr un pryd â thasgau eraill, megis diweddaru'r cyfeiriad ar eich trwydded yrru neu wrth gofrestru yn y brifysgol. 

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlygu ei fwriad i weithio gydag awdurdodau lleol i beilota cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau datganoledig. Rydym yn croesawu’r cynigion hyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw a’r gymuned etholiadol ehangach i gefnogi datblygiad pellach y maes gwaith pwysig hwn.”

Yn ogystal â gwella'r profiad i bleidleiswyr, byddai'r newidiadau hyn yn mynd i'r afael â'r beichiau a wynebir gan weinyddwyr etholiadol, y mae'n ofynnol iddynt ddefnyddio eu hadnoddau a'u capasiti cyfyngedig ar yr adeg fwyaf tyngedfennol cyn etholiadau mawr i reoli nifer uchel o geisiadau i gofrestru i bleidleisio. 

Mae'r adroddiad llawn yn dangos cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ledled Cymru, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl oedran a rhywedd. Mae hefyd yn nodi ystod o opsiynau ar gyfer sut y gellid defnyddio ffynonellau data penodol i wella'r system. 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Uwch Gynghorydd Cyfathrebu, ar 029 2034 6824, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected].

Nodiadau i olygyddion

  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
     
  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson
  • newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt 
  • gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
     
  • Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  • Mae’r Comisiwn yn cynnal astudiaethau cywirdeb a chyflawnrwydd i fesur ansawdd y cofrestrau etholiadol. Y tro diwethaf y gwnaethom gynnal yr ymchwil hon oedd yn 2019, ar gofrestrau etholiadol 2018. 
  • Mae'r Comisiwn yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â than-gofrestru trwy ein gwaith ymgyrchu ymwybyddiaeth gyhoeddus parhaus, yr ydym yn ei ddiweddaru'n rheolaidd i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r mewnwelediadau diweddaraf am agweddau pleidleiswyr a phatrymau demograffig grwpiau sydd wedi’u tan-gofrestru.
  • Cyflawnwyd 5,298 o gyfweliadau ar draws 127 o ardaloedd awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr a 1,015 o gyfweliadau mewn 100 o wardiau yng Ngogledd Iwerddon.
  • Bydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Mai 2024. Hefyd mae’n rhaid i etholiad cyffredinol senedd y DU cael ei gynnal cyn diwedd mis Ionawr 2025. Rhaid i bawb fod wedi’u cofrestru i bleidleisio i gymryd rhan mewn etholiadau.