Mae cyfraith newydd yn dangos pwy sydd y tu ôl i hysbysebion gwleidyddol i bleidleiswyr

Intro

Mae cyfraith newydd yn dangos pwy sydd y tu ôl i hysbysebion gwleidyddol i bleidleiswyr   
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi croesawu cyflwyno deddf tryloywder newydd ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol ar-lein a ddaw i rym heddiw. O heddiw ymlaen, bydd angen argraffnod ar y rhan fwyaf o ddeunydd ymgyrchu digidol yn dangos pwy dalodd amdano a'i gynhyrchu. Bydd hyn yn helpu pleidleiswyr i wybod pwy sydd y tu ôl i hysbysebion y maent yn eu gweld ar-lein a phwy sy'n talu i ddylanwadu ar eu pleidlais. 

Er ei bod eisoes yn ofynnol i bleidiau, ymgyrchwyr ac ymgeiswyr ychwanegu argraffnodau at ddeunydd ymgyrchu print, megis taflenni, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn galw am ymestyn y gofyniad hwn i ddeunydd digidol ers 2003.. Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i'w helpu i ddilyn y gyfraith.

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol: 

“Mae ymgyrchu yn hanfodol i system ddemocrataidd iach a gall ymgyrchu digidol fod yn bŵer dros ddaioni ac annog deialog wleidyddol. Ond gwyddom fod manteision ymgysylltu a thrafod ar-lein yn cael eu cysgodi gan bryderon ynghylch tryloywder hysbysebion gwleidyddol i lawer o bleidleiswyr. Ar ôl yr etholiad cyffredinol diwethaf, dangosodd ein hymchwil nad oedd 60% o bobl yn meddwl bod gwybodaeth sydd ar gael am wleidyddiaeth ar-lein yn ddibynadwy. 

“Gydag etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn y 15 mis nesaf, bydd y gofyniad argraffnod digidol newydd yn helpu i roi mwy o wybodaeth i bleidleiswyr ynghylch pwy sy'n ceisio eu cyrraedd ar-lein.

“Er y bydd hyn yn mynd peth o’r ffordd tuag at gynyddu hyder y cyhoedd mewn ymgyrchu, mae’r dirwedd ddigidol wedi esblygu’n gyflym ers i ni ddechrau galw am y gyfraith hon 20 mlynedd yn ôl. Mae angen diwygiadau ehangach arnom i’r deddfau cyllid gwleidyddol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer democratiaeth fodern.”

Mae’r Comisiwn wedi argymell ers peth amser bod Llywodraeth a Senedd y DU yn cyflwyno deddfau i wella’r rheolaethau ar roddion a benthyciadau. Yn dilyn etholiad cyffredinol 2015, argymhellodd hefyd y dylid diwygio categorïau gwariant i ddarparu gwybodaeth fwy defnyddiol am yr hyn y mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwario arian arno, gan gynnwys ar hysbysebu digidol. 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected] 
 

Notes to eds

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r gofynion argraffnodau digidol sy’n dod i rym heddiw yn rhan o Ddeddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU ac maent wedi’u cynllunio i gynyddu tryloywder ymgyrchu gwleidyddol ar-lein. Rhoddodd y Senedd ei gydsyniad yn 2022 i'r darpariaethau hyn fod yn berthnasol i etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Cyflwynodd Senedd yr Alban ei rheolau argraffnod digidol ei hun yn 2020, sy’n berthnasol i ddeunydd ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau’r Alban.   
  • Yn yr un modd â’r gyfraith ar gyfer deunydd ymgyrchu print, mae’r Comisiwn Etholiadol yn gyfrifol am orfodi’r cyfreithiau argraffnod digidol ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr, tra bod heddluoedd ar draws y DU yn gyfrifol am orfodi’r rheolau ar gyfer ymgeiswyr. 
  • Deunydd ymgyrchu digidol yw unrhyw gynnwys ymgyrchu sy'n electronig (ar-lein ac all-lein). Gallai'r cynnwys fod ar ffurf testun, sain neu weledol. Mae'n cynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion ar-lein, gwefannau, negeseuon ar apiau fel WhatsApp, Signal neu Telegram, a hysbysfyrddau electronig. Nid yw'n cynnwys galwadau ffôn, negeseuon SMS, grwpiau negeseuon preifat rhwng ffrindiau, ac e-byst a anfonir gan bartïon at eu haelodau.
  • Ni fydd angen argraffnod ar bob deunydd digidol. O dan y ddeddfwriaeth, mae gwahaniaethau rhwng deunydd y talwyd amdano neu beidio, y cyfeirir ato hefyd fel deunydd organig. Mae'r Comisiwn wedi datblygu canllawiau statudol sy'n amlinellu'r profion y mae angen i ymgyrchwyr eu hystyried i benderfynu a oes angen argraffnod ar eu deunydd.
    • Os talwyd arian i gyhoeddi hysbyseb o ddeunydd gwleidyddol, rhaid iddo gael argraffnod. Mae angen i ddeunydd na thelir amdano gynnwys argraffnod os caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran grwpiau penodol, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, ymgeiswyr, neu ymgyrchwyr refferendwm. 
    • Nid oes angen argraffnod ar ddeunydd a gyhoeddir ar wefan neu ap sydd â phrif ddiben newyddiaduraeth, oni bai bod y deunydd yn hysbyseb.
  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.