Mae’r nifer uchaf erioed a bleidleisiodd yn etholiad y Senedd yn amlygu hyder pleidleiswyr, ond mae angen gweithredu ar gamdriniaeth a chamwybodaeth

Yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol, pleidleisiodd y nifer uchaf erioed o bleidleiswyr yng Nghymru yn etholiad y Senedd yn 2026 ac maent yn parhau i fod yn fodlon iawn gyda’r broses bleidleisio.

51.7% oedd y nifer a bleidleisiodd, sef y nifer uchaf a gofnodwyd erioed mewn unrhyw etholiad y Senedd a’r tro cyntaf iddo ragori ar 50%. Mae hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yn parhau i fod yn uchel – gyda 94% o bleidleiswyr yng Nghymru yn fodlon ar y broses bleidleisio, ac 86% yn hyderus bod yr etholiadau wedi cael eu rhedeg yn dda. Dywedodd 99% ei bod yn hawdd cwblhau’r papur pleidleisio ac roedd 97% yn ymwybodol bod etholiadau’r Senedd yn digwydd.  

Daeth etholiad y Senedd â newidiadau sylweddol i bleidleiswyr gan gynnwys system bleidleisio newydd, etholaethau newydd a chynnydd yn nifer yr Aelodau o’r Senedd. Gweithiodd gweinyddwyr etholiadol yn ddiflino i gyflwyno’r newidiadau cymhleth hyn yn llwyddiannus. Gweithiodd y Comisiwn yn agos gyda rhanddeiliaid i gynnal rhaglen integredig o ymwybyddiaeth gyhoeddus, addysg a gwaith partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau hyn a chynyddu cyfranogiad yn yr etholiad.  

Er gwaethaf lefelau uchel o gyfranogiad, mae adroddiad y Comisiwn hefyd yn tynnu sylw at nifer o faterion y dylid mynd i’r afael â hwy ar gyfer etholiadau yn y dyfodol:

  • dywedodd 54% o ymgeiswyr eu bod wedi profi aflonyddu neu fygythiadau, gyda menywod yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth
  • gwelodd mwy na hanner o bobl gamwybodaeth cyn yr etholiadau, a gwelodd 12% ddeunydd ffugiadau dwfn
  • nid oedd 31% o bobl yn hyderus eu bod yn deall y system bleidleisio newydd ac nid oedd 17% yn ymwybodol bod y system wedi newid  
  • dim ond 35% o bobl 16–17 oed a adroddodd eu bod wedi dysgu unrhyw beth yn yr ysgol neu’r coleg cyn yr etholiad am bleidleisio, etholiadau, neu sut mae democratiaeth yn gweithio

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:  

“Mae’r duedd barhaus o fodlonrwydd uchel ymhlith pleidleiswyr o ran sut mae etholiadau’n cael eu rhedeg, a’r nifer uwch a bleidleisiodd, yn arwyddion calonogol. Gweithiodd partneriaid ar draws Cymru, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr, heddluoedd, elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil yn agos i sicrhau bod yr etholiadau hyn yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus a bod pleidleiswyr yn deall sut i gymryd rhan.

“Er y nifer uwch a bleidleisiodd, mae lefelau cynyddol o gam-drin ymgeiswyr a chamwybodaeth yn parhau i fod yn destun pryder. Heb welliannau i ddiogelwch ymgeiswyr, mae risg sylweddol y bydd pobl yn peidio â sefyll mewn etholiadau yn y dyfodol. Mae ein hadroddiad yn galw ar bleidiau i hyrwyddo ymgyrchu parchus, ac ar lywodraethau Cymru a’r DU a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gymryd camau i amddiffyn pleidleiswyr rhag camwybodaeth a chael gwared ar gynnwys camdriniol.”

“Mae pobl ifanc yn parhau i ddweud wrthym eu bod eisiau mwy o addysg ddemocrataidd yn yr ysgol er mwyn iddynt allu llywio tirwedd etholiadol sy’n newid a chymryd rhan yn effeithiol yn ein democratiaeth. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael mynediad at addysg ddemocrataidd ddiduedd o ansawdd uchel, ac yn gallu llywio camwybodaeth a thwyllwybodaeth.”

Gallwch weld yr adroddiad llawn ar wefan y Comisiwn.

Diwedd 

Notes to editors

Daw data barn y cyhoedd oddi wrth YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,771 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 8 Mai ac 1 Mehefin 2026. Cynhaliwyd yr arolwg ar lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o’r holl oedolion (16 oed+) yng Nghymru.

Cymerir data ar brofiadau ymgeiswyr o arolwg ymgeiswyr mis Mai 2026 y Comisiwn sy'n cael ei redeg mewn partneriaeth â Sofia Collignon a Dr. Wolfgang Rudig (Mile End Institute, Queen Mary University of London).

Mae datganiadau gwariant ymgeiswyr unigol o etholiad y Senedd hefyd wedi’u cyhoeddi heddiw, er mwyn rhoi tryloywder i bleidleiswyr ynghylch yr arian a wariwyd yn ystod yr ymgyrch. Gellir gweld y data ar wefan y Comisiwn. Roedd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr a safodd yn cynrychioli plaid wleidyddol, gyda dim ond 30 o ymgeiswyr unigol yn sefyll. Cyhoeddir datganiadau gwariant pleidiau ar ddyddiad diweddarach.

Mae adroddiadau ar etholiadau Senedd yr Alban 2026 ac etholiadau lleol Lloegr hefyd wedi’u cyhoeddi heddiw a gellir eu gweld ar wefan y Comisiwn.

Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:  

  • alluogi cynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch  
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau  
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth, ac eirioli drostynt
  • gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd  

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.