Monthly update - concluded investigations (Mehefin 2019)

Summary

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi'r manylion am yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf heddiw,  sy'n rhan bwysig o sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU.

Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau:

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endidYr hyn yr ymchwiliwyd iddoPenderfyniadCanlyniad
Y Blaid Lafur (plaid gofrestredig)Adroddiadau rhoddion chwarterol anghywir2 x £500 mewn cosbau ariannol amrywiadwyTalwyd 13 Mehefin 2019
Y Blaid Lafur (plaid gofrestredig)Ffurflen gwariant anghywir ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2017 (yn ymwneud â thaliadau o £21,471 ac anfonebau gwerth £9,450)£500 a £250 mewn cosbau ariannol amrywiadwyTalwyd 13 Mehefin 2019
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (uned gyfrifyddu Wakefield)Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyrCosb ariannol benodedig o £200Talwyd 23 Mai 2019

Wrth roi sylwadau ar ddirwyon y Blaid Lafur, dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn, Louise Edwards:

"Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae'n bob amser yn siomedig gweld pleidiau yn methu â darparu adroddiadau cywir, yn enwedig y rhai sydd â digon o adnoddau. Mae'n hollbwysig bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data cywir a chyflawn ar darddiad arian y pleidiau a sut y caiff ei wario mewn etholiadau.

“Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid a phob ymgyrchydd er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.”

Further information

Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac na roddwyd sancsiynau:

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid

Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo

Penderfyniad

Canlyniad

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (uned gyfrifyddu Skipton a Ripon)

Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr

Dim sancsiwn

Wedi cau heb gamau pellach

Diwedd  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
    Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
  2. Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.