Pleidiau gwleidyddol yn derbyn rhoddion o bron i £21 miliwn yn chwarter cyntaf 2023

Pleidiau gwleidyddol yn derbyn rhoddion o bron i £21 miliwn yn chwarter cyntaf 2023

Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £20,887,106 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod chwarter cyntaf 2023, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. 

Mae hyn yn cymharu â £12,792,415 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2022 (mis Ionawr i fis Mawrth).

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol y Comisiwn Etholiadol: 

“Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion hyn fel bod pleidleiswyr yn deall sut y caiff pleidiau gwleidyddol eu cyllido. Rydym yn gwybod bodd tryloywder cyllid pleidiau ac ymgyrchwyr yn bwysig i bobl ond mae ein hymchwil yn nodi mai dim ond 24 y cant o bobl sy’n credu bod cyllid pleidiau yn dryloyw. 

“Mae’n glir nad yw cyhoeddi’r wybodaeth hon yn ddigon. Rydym yn parhau i argymell i Lywodraeth y DU ei bod yn diwygio’r system, er mwyn helpu i amddiffyn pleidiau rhag y rheiny sydd am osgoi’r gyfraith, a rhoi mwy o hyder i bleidleiswyr. "

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
•    rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (dros £1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
•    rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
•    rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

Gall pleidiau hefyd adrodd rhoddion a ddylai fod wedi cael eu hadrodd mewn chwarteri blaenorol. 

Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd roddion yn Ch1 2023, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:

Plaid Cyfanswm a adroddwyd  Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon £51,281 £15,000 £36,281 £51,281
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) £12,277,478 £12,143,082 £134,396 £12,277,478
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P £87,165 £0 £87,165 £87,165
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) £215,704 £168,926 £46,778 £215,704
Y Blaid Lafur £5,893,841 £4,407,459 £1,435,826 £5,843,285
Y Democratiaid Rhyddfrydol £1,669,749 £1,335,433 £302,044 £1,637,477
Plaid Cymru  £30,467 £0 £30,467 £30,467
Plaid Werdd yr Alban £9,479 £0 £9,479 £9,479
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) £291,339 £4,000 £287,339 £291,339
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) £50,140 £0 £50,140 £50.140
Sinn Féin £182,697 £100,000 £82,697 £182,697
The Reclaim Party £75,000 £75,000 £0 £75,000
True & Fair Party £87,500 £87,500 £0 £87,500
Plaid Unoliaethwyr Ulster £18,095 £0 £18,095 £18,095
Plaid Cydraddoldeb Menywod £30,000 £30,000 0 £30,000
Cyfansw £20,969,934 £18,366,400 £2,520,706 £20,887,106

Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a / neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir. 

Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.

Methodd tair plaid â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.

Benthyca

Cafodd £156,406 o fenthyciadau newydd eu hadrodd yn chwarter cyntaf 2023. Cafodd benthyciadau â gwerth o £505,000 eu talu’n llawn.

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch1 2023 

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Yn chwarter cyntaf 2023, derbyniwyd £1,145,095 mewn rhoddion gan 93 o dderbynwyr a reoleiddir. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn y rhoddion arian parod a’r rhoddion nad ydynt yn arian parod ar gael ar ein gwefan. 

Math o dderbyniwr a reoleiddir Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd     Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd 
Maer £70,136 £0 £70,136
Aelod o Blaid Wleidyddol Gofrestredig £10,000 £0 £10,000
Cymdeithas Aelodau £357,750 £0 £357,750
MLA - Aelod o Awdurdod Deddfwriaethol Gogledd Iwerddon £0 £1,989 £1,989
AS - Aelod Seneddol £423,898 £2,792 £2,792
ASA - Aelod o Senedd yr Alban £0 £2,792 £2,792
Cyfansymiau £861,784 £283,311 £1,145,095

Rhagor o wybodaeth

Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn. 


Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch1 2023 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
 

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi argymell ers tro y dylai Llywodraeth a Senedd y DU ystyried gyda ni sut y gellir gwella’r rheolau ar roddion a benthyciadau er mwyn atal arian tramor rhag cael ei ddefnyddio yng ngwleidyddiaeth y DU. Rydym yn parhau i argymell diwygiadau a fyddai’n rhoi i bleidleiswyr mwy o hyder yng nghyllid gwleidyddol y DU, gan gynnwys:
         o    cyflwyno dyletswydd ar bleidiau am ddiwydrwydd dyladwy ac asesiad risg gwell o ran rhoddion, sydd wedi’i addasu o reoliadau gwyngalchu arian
         o    cyflwyno cyfreithiau i sicrhau na all pleidiau dderbyn arian gan gwmnïau nad ydynt wedi gwneud digon o arian yn y DU i ariannu eu rhodd neu fenthyciad
  2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr. Unwaith y bydd y blaid ganolog wedi adrodd rhodd neu gydgrynhoi rhodd o dros £7,500 mae’n rhaid iddynt adrodd bob rhodd dilynol o fwy na £1,500 o’r ffynhonnell hwnnw. 
  3. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  4. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd. 
  5. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
  6. Roedd 350 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod chwarter cyntaf 2023. Roedd gofyn bod 48 ohonynt yn cyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a bod 32 ohonynt yn cyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad. 
  7. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau. Yna mae’r cofrestrydd yn anfon y manylion hyn i’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn nodi unrhyw roddion sydd yn disgyn o fewn y rheolau ar dderbynwyr a reoleiddir ac rydym yn cyhoeddi’r rhain. Mae gan y Comisiwn rôl o reoleiddio mewn perthynas â rhoddion a ganiateir. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.  
  8. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.
  9. Mae’r ymchwil wnaeth canfod fod 24 y cant o bobl o’r farn bod cyllido pleidiau yn dryloyw ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol: Ymchwil agweddau’r cyhoedd ar draws y DU 2023.