Prif Weithredwr newydd y Comisiwn Etholiadol wedi’i benodi
Prif Weithredwr newydd y Comisiwn Etholiadol wedi’i benodi
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi heddiw mai Shaun McNally CBE fydd Prif Weithredwr newydd y sefydliad, a bydd yn dechrau’r swydd ym mis Ebrill 2022.
Gyda dros 35 o flynyddoedd o fewn system gyfiawnder y DU, yn gynt yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ac fel Prif Weithredwr yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, mae gan Shaun brofiad sylweddol o arwain sefydliadau proffil uchel, cymhleth.
Mae Shaun yn ymuno â’r Comisiwn o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, lle mae’n arwain ar hyn o bryd ar brosesau cynllunio, paratoadau ac ymateb yr Adran i ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys diwedd cyfnod pontio’r UE a Covid-19.
Bydd Shaun yn ymuno â’r Comisiwn cyn yr etholiadau ym mis Mai ac ar ddechrau cynllun corfforaethol newydd ar gyfer y sefydliad. Dros rychwant pum mlynedd y cynllun, bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar gynyddu ymgysylltu â phleidleiswyr a hyder; ar gefnogi hydwythedd gweinyddu etholiadol a chyfranogiad pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr; ac ar sicrhau tryloywder ymgyrchu gwleidyddol.
Daw’r penodiad â phroses recriwtio gynhwysfawr a chystadleuol i ben. Lansiwyd y broses yn ystod yr haf yn dilyn penderfyniad y Prif Weithredwr presennol, Bob Posner, i ymddeol.
Dywedodd John Pullinger, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
“Rwy’n falch i gyhoeddi y bydd Shaun yn arwain y Comisiwn, a bydd yn dod â phrofiad eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid, cynllunio gweithredol a dull
digidol yn gyntaf gydag ef. Gan weithio gyda phleidleiswyr, pleidiau, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol, bydd yn goruchwylio rôl y Comisiwn wrth ddarparu tryloywder a hyder yn ein prosesau democrataidd.
“Mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Shaun ar flaenoriaethau’r Comisiwn a chefnogi cyflawni etholiadau a refferenda llwyddiannus.”
Sylw Shaun McNally CBE oedd:
“Mae wir yn anrhydedd i mi gael y swydd hon yn y Comisiwn Etholiadol. Does dim byd pwysicach na sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y prosesau a’r systemau sy’n cynnal ein democratiaeth. Rwy’n edrych ymlaen at feithrin perthnasau gyda’r rheiny i gyd sydd â rhan yn ein system etholiadol, ac at arwain tîm ymroddedig a thalentog y Comisiwn ar adeg mor hanfodol.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.