intro

Heddiw mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi bod ei Brif Weithredwr, Shaun McNally, yn camu i lawr o’i rôl ar 30 Tachwedd 2023, gyda Rob Vincent, aelod presennol o Fwrdd y Comisiwn, yn ymgymryd â rôl Prif Weithredwr Interim o fis Rhagfyr. 

Bydd Rob yn arwain y Comisiwn hyd nes y gwneir penodiad parhaol, gan sicrhau bod y Comisiwn yn barod ar gyfer etholiadau mis Mai 2024. 

Dywedodd John Pullinger, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol: 

“Mae Shaun wedi cyflawni llawer yn ei 18 mis yn y Comisiwn, gan fynd i'r afael â'r materion pwysicaf yn gyflym ac yn fedrus. Mae wedi arwain y Comisiwn wrth i’r sefydliad draddodi Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU, gan fwrw ymlaen â’r gweithredu’n gyflym a chan roi ystyriaeth ofalus i bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr. Mae hefyd wedi ceisio buddsoddi yn nyfodol y Comisiwn, gan hyrwyddo buddsoddiad yn seilwaith TG y Comisiwn, seiber-ddiogelwch, a datblygu a chefnogi staff dawnus ac ymroddedig y Comisiwn. Rydw i’n ddiolchgar i Shaun am bopeth y mae wedi ei gyflawni yn ystod ei gyfnod gyda’r Comisiwn.” 

Mae Rob Vincent, a fydd yn ymgymryd y rôl interim ym mis Rhagfyr, wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd y Comisiwn Etholiadol ers Ionawr 2016, sydd â dealltwriaeth drylwyr o waith y Comisiwn. Roedd Rob yn Gyfarwyddwr Anweithredol DCLG rhwng 2008 a 2010, ac yn Brif Weithredwr Cyngor Kirklees rhwng 2004 a 2010. 

Ychwanegodd John: 
“Gwn fod Rob yn rhannu fy ymrwymiad ac ymrwymiad y Bwrdd, i baratoi y Comisiwn at y sialensiau o’m blaenau, a chefnogi pleidleiswyr, gweinyddwyr, pleidiau ac ymgyrchwyr wrth i ni baratoi tuag at etholiadau mis Mai a thu hwnt.”