Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu adroddiad PACAC ar waith y Comisiwn
Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu adroddiad PACAC ar waith y Comisiwn
Mae Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol (PACAC) Senedd y DU wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar waith y Comisiwn Etholiadol, yn dilyn ymchwiliad a lansiwyd ym mis Medi 2020.
Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion yn ymwneud â gwaith, effeithiolrwydd, a phwerau’r Comisiwn, gan gynnwys yr angen i lywodraethau’r DU fynd i’r afael â chymhlethdod cynyddol cyfraith etholiadol.
Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd John Pullinger, Cadeirydd y Comisiwn:
“Rydym yn croesawu canfyddiadau’r Pwyllgor ar yr angen dybryd am gydgrynhoi, diweddaru a gwella cyfraith etholiadol. Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion i sicrhau bod y Comisiwn yn parhau i allu ymateb i'r heriau y mae'r system etholiadol yn eu hwynebu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethau a seneddau’r DU, i ystyried sut i gyflwyno’r newidiadau hyn.
“Croesawyd hefyd gydnabyddiaeth y Pwyllgor o’r gefnogaeth rydym yn ei darparu i sicrhau bod etholiadau yn y DU yn cael eu rhedeg yn dda. Rydym wedi gwrando ar yr amrywiaeth o safbwyntiau a rannwyd gyda’r Pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad, ac rydym eisoes yn ymateb mewn nifer o feysydd. Mae hyn yn cynnwys gwella ein cefnogaeth i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, adolygu ein dull gorfodi, a gweithio'n agos gyda'n cymuned a reoleiddir ar ddatblygu canllawiau.
“Byddwn yn ystyried yn ofalus yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad hwn ac unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i gynnal hyder pobl yn y Comisiwn a’r rôl y mae’n ei chwarae yn y system ddemocrataidd.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
1. Mae tystiolaeth ysgrifenedig y Comisiwn i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2022, sy’n nodi’r cynnydd a wnaed ers lansio’r ymchwiliad, ar gael ar wefan PACAC.
2. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.