Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu adroddiad Y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar gyfundrefn cyllid etholiadau
Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu adroddiad Y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar gyfundrefn cyllid etholiadau
Heddiw mae'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus wedi cyhoeddi adroddiad ar Reoleiddio Cyllid Etholiadau. Mae'r adroddiad hwn yn gwneud nifer o argymhellion i fynd i'r afael ag arferion ymgyrchu modern, sicrhau mwy o dryloywder a darparu mesurau diogelwch cryfach mewn perthynas â ffynhonnell unrhyw arian a roddir.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd John Pullinger, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
“Mae hwn yn adolygiad pwysig a gwerthfawr gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Rydym yn cytuno ei bod yn hanfodol sicrhau bod y system reoleiddio yn parhau'n dryloyw, yn gydlynol ac yn gymesur. Mae'r fframwaith rheoleiddio presennol yn gweithio'n dda ar y cyfan, ond dylai'r rheolau adlewyrchu arferion modern.
“Mae'r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ymarferol er mwyn gwella tryloywder a hyder. Mae llawer o'r rhain yn gyson â'r newidiadau a gynigiwyd gan y Comisiwn, megis rheolaethau rhoddion mwy llym, mwy o dryloywder ynghylch gwariant ar ymgyrchoedd digidol a diwygiadau i gyfundrefn cyllid ymgeiswyr. Rydym yn edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth y DU maes o law a thrafod sut y gellir rhoi'r newidiadau ar waith.
“Byddwn yn ystyried yr argymhellion a'r sylwadau eraill a wnaed gan y Pwyllgor yn ofalus, yn ogystal ag unrhyw gamau y gallwn eu cymryd er mwyn gwella ein ffordd o weithio a'n cefnogaeth i'r gyfundrefn reoleiddio. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i ddeall y gyfraith etholiadol, i'w rhoi ar waith ac i gydymffurfio â hi. Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn a gwaith craffu'r Pwyllgor, ac yn arbennig y ffaith ei fod yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y Comisiwn yn annibynnol, er mwyn i ni allu parhau i gyflawni'r cyfrifoldebau a roddwyd i ni a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
2. Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.