Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben
Electoral Commission publishes concluded investigation update
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cwblhau ymchwiliad i Blaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon. Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.
| Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon (plaid wleidyddol) | Methiant i gyflwyno datganiad o gyfrifon ar gyfer 2023 erbyn y dyddiad cau | Un drosedd | Dirwy o £350, a dalwyd ar 13 Chwefror 2026 |
Dywedodd Cahir Hughes, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Ngogledd Iwerddon:
“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydyn ni’n eu gorfodi yn bodoli i sicrhau tryloywder o ran cyllid pleidiau gwleidyddol a chynyddu hyder y cyhoedd yn ein system. Mae'n bwysig bod pleidiau yng Ngogledd Iwerddon yn cydymffurfio â'r gofynion i gyflwyno gwybodaeth ariannol ac adrodd i ni mewn modd amserol.
“Fel rheoleiddiwr, rydym yn ymddwyn yn gymesur ac yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniadau, fel y nodwyd yn ein Polisi Gorfodi. Ein blaenoriaeth bob amser yw helpu cyrff a reoleiddir i gydymffurfio â’r cyfreithiau a sicrhau tryloywder.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau.
defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae’r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau’r Comisiwn. Dyma ran bwysig o’i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi’n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi’u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i’r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.
- Mae ymgyrchwyr trydydd parti neu ymgyrchwyr di-blaid yn unigolion sy'n ymgyrchu cyn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr. Mae rheolau y mae'n rhaid i ymgyrchwyr di-blaid eu dilyn ar wariant ymgyrchu, rhoddion ac adrodd ac mae’r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio rhain. Mae canllawiau ynghylch ymgyrchwyr trydydd parti ar gael ar ein wefan.