Y Comisiwn Etholiadol yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Ffyniant Bro ar y Datganiad Strategaeth a Pholisi
Dywedodd John Pullinger, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol, y canlynol am adroddiad y Pwyllgor Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyflwyno Datganiad Strategaeth a Pholisi (Yn agor mewn ffenestr newydd):
“Mae’r Comisiwn bob amser wedi cynnal bod datganiad strategaeth a pholisi - y gall y llywodraeth ei ddefnyddio i lywio gwaith comisiwn etholiadol - yn anghyson gyda’n rôl. Mae’r dystiolaeth a rannwyd gyda’r Pwyllgor yn amlygu pwysigrwydd cadw annibyniaeth y Comisiwn, sy’n hanfodol i weithrediad a chyfreithlondeb democratiaeth iach. Rydym yn cefnogi barn y Pwyllgor nad yw datganiad o’r fath yn angenrheidiol a dylai Llywodraeth y DU ailystyried ei gyflwyniad.”