Ymateb y Comisiwn Etholiadol i gynlluniau llywodraeth y DU i gryfhau goruchwyliaeth Seneddol o'r Comisiwn
Ymateb y Comisiwn Etholiadol i gynlluniau llywodraeth y DU i gryfhau goruchwyliaeth Seneddol o'r Comisiwn
Mewn ymateb i fesurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw, i gryfhau goruchwyliaeth Seneddol o'r Comisiwn Etholiadol, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn:
“Mae goruchwyliaeth Seneddol o weithgareddau'r Comisiwn a phrosesau i graffu arnynt yn hanfodol i sicrhau bod gan bobl ymddiriedaeth a hyder yn y Comisiwn. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y Comisiwn yn parhau i fod yn annibynnol ac y gall barhau i gyflawni'r holl ddyletswyddau sy'n rhan o'i gylch gwaith, gan gynnwys dulliau gorfodi effeithiol. Bydd rhai o'r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn llyffetheirio'r Comisiwn ac yn cyfyngu ar ei weithgarwch. Byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth i archwilio'r meysydd hyn.
“Mae gwaith y Comisiwn yn sicrhau bod cyllid pleidiau ac etholiadau yn gywir ac yn dryloyw; bod etholiadau a refferenda yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn cynhyrchu canlyniadau a gaiff eu derbyn; a bod dealltwriaeth gyhoeddus o'r ffordd y mae ein prosesau democrataidd yn gweithio. Mae ei gyfraniad hanfodol yn y meysydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal democratiaeth gref y DU y gellir ymddiried ynddi.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.