Deisebau adalw
Rhagarweiniad
Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i roi atebion i gwestiynau allweddol ar ddeisebu adalw. Gallwch ddefnyddio’r blwch cynnwys i neidio’n hawdd i adrannau gwahanol y dudalen we hon, a chlicio ar gwestiynau’r gwymplen i weld yr atebion.
Trosolwg
Deiseb adalw yw'r broses lle gall AS golli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.
Pan fydd wedi agor, bydd gan etholwyr chwe wythnos i lofnodi deiseb adalw, er mwyn dweud eu bod yn credu y dylai eu AS golli ei sedd. Dim ond y rheini sydd am weld yr AS yn colli ei sedd ddylai lofnodi'r ddeiseb. Os bydd o leiaf 10% o'r etholaeth yn llofnodi'r ddeiseb, bydd yr AS yn colli ei sedd a chaiff isetholiad ei gychwyn. Gall yr AS a gafodd ei adalw sefyll fel ymgeisydd yn yr isetholiad.
Cyflwynwyd y broses deiseb adalw gan Ddeddf Adalw ASau 2015.
Bydd deiseb adalw yn cychwyn os bydd AS:
- wedi cael ei euogfarnu o drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (yn cynnwys dedfryd wedi'i hatal) neu wedi'i orchymyn i gael ei gadw yn y ddalfa, heblaw o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl yn unig
- wedi cael ei wahardd o Dŷ'r Cyffredin am 10 diwrnod eistedd neu 14 o ddiwrnodau calendr, neu
- wedi cael ei euogfarnu o ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar gyfer hawliadau lwfans o dan Ddeddf Safonau Seneddol 2009.
Yn achos cyhuddiad, dim ond os na fydd yr euogfarn, y ddedfryd neu'r gorchymyn wedi cael eu gwrthdroi yn ystod y cyfnod apelio neu heb i unrhyw apêl gael ei chlywed a'i gwrthod y caiff y ddeiseb adalw ei hagor.
Ni chaiff deiseb adalw ei hagor:
- os caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gynnal o fewn y chwe mis nesaf
- os yw deiseb adalw eisoes yn cael ei chynnal mewn perthynas â'r AS, neu
- os yw sedd yr AS eisoes yn wag
Agor deiseb adalw
Bydd y Swyddog Deisebau yn agor deiseb adalw ar ôl i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin ei hysbysu bod AS wedi bodloni'r amodau uchod. Y Swyddog Deisebau yw'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer yr etholaeth (yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Canlyniadau Dros Dro yw hwn).
Rhaid i'r Swyddog Deisebau neilltuo hyd at 10 o fannau llofnodi yn yr etholaeth lle gall pobl lofnodi'r ddeiseb.
Rhaid i'r mannau llofnodi fod ar agor dros chwe wythnos y ddeiseb adalw o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Fodd bynnag, mae gan y Swyddog Deisebau ddisgresiwn i ymestyn yr oriau hyn.
Rhaid i'r Swyddog Deisebau hefyd nodi dyddiad agor y ddeiseb. Fel arfer, bydd hyn ar y 10fed diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei hysbysu gan y Llefarydd.
Pan fydd y Swyddog Deisebau wedi neilltuo'r mannau llofnodi a'r dyddiad ar gyfer agor y ddeiseb, rhaid iddo anfon hysbysiad i bob pleidleisiwr sy'n gymwys i lofnodi'r ddeiseb. Mae hyn yn debyg i gerdyn pleidleisio mewn etholiadau a bydd yn dweud wrth bleidleiswyr beth yw testun y ddeiseb a pha fan llofnodi sydd wedi'i neilltuo iddynt ynghyd â'i oriau agor. Gall pleidleiswyr post cofrestredig lofnodi'r ddeiseb drwy'r post.
Heb fod yn hwyrach na thri diwrnod gwaith ar ôl cael ei hysbysu gan y Llefarydd, rhaid i'r Swyddog Deisebau gyhoeddi:
- nifer y bobl sydd â hawl i lofnodi'r ddeiseb,
- nifer y bobl y byddai angen iddynt lofnodi'r ddeiseb er mwyn iddi fod yn llwyddiannus.
Byddai'r hysbysiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor fel arfer.
Rhaid i'r Swyddog Deisebau gyhoeddi hysbysiad yn nodi:
- enw'r AS sy'n destun proses y ddeiseb
- yr amodau sydd wedi cychwyn y ddeiseb ar gyfer yr AS hwnnw
- dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod llofnodi
- lleoliad ac oriau agor pob man llofnodi
- pwy sy'n gymwys i lofnodi'r ddeiseb
Llofnodi'r ddeiseb
Er mwyn llofnodi'r ddeiseb, rhaid i berson fod wedi cofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad yn yr etholaeth berthnasol ar gyfer Senedd y DU, a bod:
- yn 18 oed neu drosodd (neu'n cael ei ben-blwydd yn 18 oed cyn diwedd y cyfnod llofnodi o chwe wythnos)
- yn ddinesydd y DU, yn ddinesydd Gwyddelig, neu'n ddinesydd cymwys yn un o wledydd y Gymanwlad
Na all. Er mwyn llofnodi'r ddeiseb, rhaid bod person wedi'i ychwanegu at y gofrestr dri diwrnod cyn i'r ddeiseb agor. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw geisiadau newydd i gofrestru fod wedi'u gwneud ar neu cyn y dyddiad y bydd y Llefarydd yn hysbysu am y ddeiseb er mwyn iddynt fod yn gymwys (sydd fel arfer deg diwrnod cyn i’r ddeiseb agor).
Mae'r daflen lofnodi wedi'i nodi yn y gyfraith a bydd yn edrych fel hyn yng Nghymru:
Bydd y daflen llofnodi yn edrych fel hyn yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon:
Llofnodi’n bersonol
Bydd pleidleiswyr cymwys sydd am lofnodi'r ddeiseb yn mynd i'r man llofnodi a neilltuwyd ar eu cyfer. Bydd y Swyddog Deisebau yn anfon manylion ac oriau agor y lleoliad ato.
Bydd angen i bleidleiswyr ddod â dull a dderbynnir o ID ffotograffig er mwyn llofnodi'r ddeiseb mewn man llofnodi.
Caiff y man llofnodi ei drefnu mewn ffordd debyg i orsaf bleidleisio.
Pan fydd pleidleisiwr yn cyrraedd man llofnodi, bydd aelod o'r staff yn:
- Gofyn am ei enw a'i gyfeiriad fel y gellir dod o hyd iddo ar y gofrestr etholiadol
- Gofyn am ei ID ffotograffig, a gwirio a yw'n dderbyniol
- Os caiff ei ID ei dderbyn, bydd yn rhoi ei daflen lofnodi iddo
- Pan fydd y pleidleisiwr wedi llofnodi'r daflen, bydd yn ei rhoi yn y blwch pleidleisio.
Ar ddiwedd pob diwrnod y bydd y ddeiseb ar agor, caiff y blwch pleidleisio ei agor a chaiff y taflenni llofnodi eu dilysu. Mae hyn yn golygu gwirio bod cyfanswm y taflenni llofnodi yn cyfateb i'r cofnod o nifer y taflenni llofnodi a gyflwynwyd yn y man llofnodi hwnnw. Yna, caiff y taflenni llofnodi eu storio'n ddiogel tan ddiwedd y cyfnod llofnodi.
ID Pleidleisiwr: Prydain Fawr
Ymysg y mathau o ID a dderbynnir mae pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; trwydded yrru y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; a rhai cardiau teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Mae'r rhestr lawn o'r mathau o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Gall y sawl nad oes ganddynt fathau a dderbynnir wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim.
Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.
Gall unrhyw un sydd heb fath o ID a dderbynnir wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim yn gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr, neu drwy ofyn am ffurflen bapur o'u swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yw 5pm chwe diwrnod gwaith cyn cau'r ddeiseb.
Os bydd pleidleiswyr yn colli eu math presennol o ID, neu os caiff ei ddwyn neu ei ddifrodi a bod y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr wedi mynd heibio, gall pobl benodi dirprwy brys i lofnodi ar eu rhan hyd at 5pm ar ddiwrnod olaf y cyfnod llofnodi.
ID Pleidleisiwr: Gogledd Iwerddon
Ymysg y mathau o ID a dderbynnir mae trwydded yrru'r DU, Iwerddon neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu basport y DU, Iwerddon neu'r UE (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Iwerddon). Mae'r rhestr lawn o fathau o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Gall y sawl nad oes ganddynt fathau a dderbynnir wneud cais am Gerdyn Adnabod Etholiadol.
Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.
Gall unrhyw un sydd heb fath o ID a dderbynnir wneud cais i Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon i gael Cerdyn Adnabod Etholiadol am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais ar wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI)
Pleidleisio absennol
Bydd pleidleiswyr post presennol yn cael taflen lofnodi drwy'r post. Rhaid iddynt sicrhau bod y daflen lofnodi wedi'i chwblhau yn cael ei dychwelyd at y Swyddog Deisebau cyn diwedd y cyfnod llofnodi er mwyn i'w taflen lofnodi gael ei chyfrif.
Gall unrhyw un nad ydynt yn bleidleisiwr post presennol ond nad ydynt am fynd i fan llofnodi neu na allant wneud hynny wneud cais i'w swyddfa cofrestru etholiadol i gael pecyn llofnodi drwy'r post ar gyfer y ddeiseb. Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi.
Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post a ffurflenni cais pleidleisio drwy'r post.
Gall pleidleiswyr gofrestru ar gyfer 'pleidlais drwy ddirprwy’. Mae hyn yn golygu eu bod yn gofyn i rywun y maent yn ymddiried ynddo lofnodi ar eu rhan. Bydd angen iddynt gwblhau a llofnodi ffurflen gais drwy ddirprwy a'i dychwelyd i'w swyddfa cofrestru etholiadol leol erbyn 5pm chwe diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi (yng Ngogledd Iwerddon mae hyn 11 diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi).
Bydd angen i'w dirprwy ddangos math o ID a dderbynnir yn y man llofnodi cyn y gall lofnodi.
Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy a ffurflenni cais pleidleisio drwy ddirprwy.
Cau'r cyfnod llofnodi a chanlyniad y ddeiseb
Rhaid i'r Swyddog Deisebau gymryd camau rhesymol i gyfrif y llofnodion cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi, a heb fod yn hwyrach na diwrnod wedyn.
Yr unig bobl a all fod yn bresennol pan gaiff y llofnodion eu cyfrif yw'r Swyddog Deisebau a'i staff ac unrhyw gynrychiolydd i'r Comisiwn Etholiadol neu arsylw a achredwyd gan y Comisiwn Etholiadol.
Nid oes hawl gan y cyfryngau fod yn bresennol yn y cyfrif.
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid i'r Swyddog Deisebau wneud y canlynol:
- penderfynu a yw'r ddeiseb adalw yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus.
- hysbysu'r Llefarydd am y canlyniad, a
- rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r canlyniad.
Os bydd o leiaf 10% o'r etholwyr cymwys wedi llofnodi'r ddeiseb, bydd y ddeiseb yn llwyddiannus. Daw sedd yr AS yn wag ar y dyddiad y bydd y Swyddog Deisebau yn hysbysu'r Llefarydd am y canlyniad.
Fel gydag unrhyw is-etholiad Senedd y DU, caiff y gwrit ar gyfer y sedd wag ei gyflwyno gan y sawl a arferai fod yn ddeiliad y sedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Brif Chwip y blaid hysbysu Llefarydd Tŷ'r Cyffredin bod yn rhaid iddo gyflwyno cynnig i ASau, ac os cytunir arno, bydd y Llefarydd yn hysbysu'r Swyddog Canlyniadau perthnasol. Nid oes unrhyw gyfyngiad amser statudol ar gyfer cyflwyno'r gwrit.
Mae rhagor o wybodaeth am brosesau is-etholiadau i'w gweld ar wefan y Senedd.
Dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y ellir cau deiseb cyn diwedd y cyfnod llofnodi o chwe wythnos:
- bydd sedd yr AS yn mynd yn wag am unrhyw reswm arall (fel ymddiswyddiad)
- caiff euogfarn, dedfryd o garchar neu orchymyn cadw yr AS ei (g)wrthdroi, neu
- bydd y Senedd yn galw etholiad cyffredinol Senedd y DU yn gynnar a gaiff ei gynnal o fewn chwe mis i hysbysiad y Llefarydd.
Y cyfryngau yn adrodd yn ystod cyfnod y ddeiseb
Mae cyfraith etholiadol yn darparu na ellir cyhoeddi unrhyw ddatganiad a allai ddynodi a yw unigolyn wedi llofnodi'r ddeiseb ai peidio; unrhyw ragolygon am ganlyniad y ddeiseb; ac arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio a gyhoeddir cyn diwedd diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.
Byddai unrhyw un sy'n gwneud datganiad ar y nifer a bleidleisiodd neu ar unigolion sy'n llofnodi'r ddeiseb yn euog o drosedd.
Ymgyrchu yn y ddeiseb
Efallai y bydd pobl neu sefydliadau yn awyddus i ymgyrchu o blaid neu yn erbyn y ddeiseb adalw. Mae rheolau ar gyfer gwariant a rhoddion ar ymgyrchoedd deisebau. Mae cyfnod penodol o amser, neu ‘gyfnod a reoleiddir’ pan fydd y rheolau ar wariant a rhoddion yn gymwys. Bydd y cyfnod a reoleiddir:
- yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin hysbysu'r Swyddog Deisebau bod yr amodau ar gyfer agor deiseb wedi cael eu bodloni ac
- yn dod i ben ar y diwrnod y bydd y Swyddog Deisebau yn hysbysu Llefarydd Tŷ'r Cyffredin am ganlyniad y ddeiseb.
Mae dau fath o ymgyrchwyr; ‘ymgyrchwyr 'cofrestredig' ac 'anghofrestredig'. Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae'r terfynau gwariant fel a ganlyn:
- £500 ar gyfer ymgyrchwyr anghofrestredig
- £10,000 ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig
Gall unigolyn neu sefydliad cymwys ddod yn gofrestredig drwy hysbysu'r Swyddog Deisebau yn ysgrifenedig. Dim ond y canlynol all fod yn ymgyrchydd cofrestredig:
- unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, neu sy'n preswylio yn y DU
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru yn y DU (gan gynnwys pleidiau 'llai')
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas lesiant, cymdeithas ddiwydiannol neu gymdeithas ddarbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'i busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig hefyd hysbysu'r Swyddog Deisebau am ‘unigolyn cyfrifol’. Yr unigolyn hwn sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig yn dilyn y rheolau ar wariant, rhoddion a chofnodi.
Os bydd ymgyrchydd yn mynd i wariant fel rhan o gynllun gydag un ymgyrchydd arall neu fwy, bydd y gwariant hwnnw yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant ar gyfer pob ymgyrchydd sy'n rhan o'r trefniant.
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig gyflwyno ffurflen gwariant i'r Swyddog Deisebau gyda manylion rhoddion a gwariant. Rhaid i'r ffurflen gael ei chyflwyno o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod ar ôl i'r Swyddog Deisebau hysbysu Llefarydd Tŷ'r Cyffredin am ganlyniad y ddeiseb.
Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau ar wariant ar gael yn ein canllawiau ar wariant a rhoddion.
Mae ymgyrchwyr cofrestredig yn agored i reolau ar roddion a dderbynnir ganddynt tuag at wariant ar ymgyrchoedd deisebau. Rhaid i roddion dros £500 ddod o ffynhonnell a ganiateir. Y ffynonellau a ganiateir yw:
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru yn y DU (gan gynnwys pleidiau 'llai')
- unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholwyr y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a'r rhai sy'n gadael cymynroddion
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas lesiant sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn y DU
Mae gan ymgyrchwyr 30 diwrnod ar ôl iddynt dderbyn y rhodd i benderfynu a ganiateir iddynt ei derbyn. Rhaid i ymgyrchwyr ddychwelyd rhoddion nas caniateir. Os na fydd ymgyrchydd yn dychwelyd y rhodd o fewn y cyfnod hwn, tybir ei fod wedi'i derbyn, a gellir dwyn camau gorfodi yn ei erbyn, gan gynnwys fforffedu'r rhodd.
Ni fydd ymgyrchwyr cofrestredig sy'n bleidiau gwleidyddol cofrestredig (ac eithrio pleidiau llai) yn rhoi gwybod i'r Swyddog Deisebau am roddion am eu bod yn rhoi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am eu rhoddion nhw. Rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig arall roi gwybod i'r Swyddog Deisebau am roddion o fwy na £500, gan gynnwys rhoddion nas caniateir, yn y ffurflen gwariant.
Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau ar roddion i'w gweld yn ein canllawiau ar wariant a rhoddion.
Deisebau adalw blaenorol
Cafwyd tair deiseb adalw hyd yma:
Cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad ar y cyd ar y ddwy ddeiseb adalw a gafwyd yn 2019 ac adroddiad ar wahân ar ddeiseb adalw North Antrim.
Rolau a chyfrifoldebau
Rôl y Swyddog Deisebau yw:
- agor deiseb adalw
- hysbysu pleidleiswyr bod deiseb adalw wedi'i hagor
- goruchwylio'r gwaith o weinyddu'r ddeiseb, gan gynnwys cyhoeddi cofrestr o bleidleiswyr a all lofnodi'r ddeiseb a hysbysu'r pleidleiswyr hynny am y ddeiseb
- cyhoeddi’r canlyniad, yn cynnwys hysbysu Llefarydd Tŷ'r Cyffredin
- derbyn ffurflenni rhoddion a gwariant a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Yr un yw'r Swyddog Deisebau a'r Swyddog Canlyniadau mewn etholiad.
Rôl y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw:
- cynnal y gofrestr etholwyr a'r rhestr o bleidleiswyr absennol (pleidleiswyr post a phleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy)
Rôl yr heddlu yw:
- ymchwilio i achosion o dorri'r gyfraith
- gorfodi cydymffurfiaeth â'r gyfraith
Rôl y Comisiwn Etholiadol yw:
- rhoi cyngor a chanllawiau er mwyn helpu pobl i ddeall y rheolau
- fforffedu rhoddion nas caniateir, os bydd yn angenrheidiol yn ôl gorchymyn llys
- cyhoeddi adroddiad ar unrhyw faterion yn ymwneud â gweinyddu deiseb adalw a'r fframwaith ar gyfer gwariant ar ymgyrchu a rhoddion yn y digwyddiadau hyn.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r daflen ffeithiau hon yn esbonio'r prif reolau. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau llawn ar gyfer ymgyrchwyr deisebau ar wariant a rhoddion ac argraffnodau.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i Swyddogion Deisebau.
E-bost: [email protected]
Lloegr, Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon: 020 7271 0704
Yr Alban: 0131 225 0211
Cymru: 029 2034 6824
Oriau y tu allan i'r swyddfa (ar gyfer galwadau'r cyfryngau yn unig): 07789 920 414