Atal dylanwad gormodol
Summary
Mae newidiadau wedi'u gwneud i symleiddio ac egluro'r drosedd o ddylanwad gormodol. Dylanwad gormodol yw pan fo rhywun yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym neu drais i orfodi rhywun i bleidleisio mewn ffordd benodol, neu beidio â phleidleisio o gwbl.
Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau lleol yn Lloegr, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, etholiadau lleol ac etholiadau'r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiadau cyffredinol yn y DU gan gynnwys deisebau adalw. Nid yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau'r Senedd nac etholiadau Senedd yr Alban, nac i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a’r Alban.
Newidiadau
Mae'r newidiadau yn symleiddio'r drosedd o ddylanwad gormodol, yn ei gwneud yn fwy eglur ac yn diffinio'r mathau o ymddygiad anghyfreithlon a ddefnyddir i ddylanwadu'n annheg ar bleidlais rhywun. Dylai hyn ei gwneud yn haws i'r heddlu weithredu pan fo honiadau o ddylanwad gormodol.
Mae hyn yn cynnwys y troseddau o ddylanwad gormodol uniongyrchol ac anuniongyrchol, a'r rhai sy'n digwydd cyn ac ar ôl etholiad.
Mae'r newidiadau'n berthnasol i bob math o weithgarwch ymgyrchu, gan gynnwys deunyddiau argraffedig, ac yn ymestyn i unrhyw un sy'n ceisio codi ofn ar bleidleisiwr y tu mewn neu'r tu allan i orsaf bleidleisio.
Mae opsiwn dedfrydu ychwanegol, yn ogystal â rhoi cosbau troseddol megis dedfryd o garchar neu ddirwy, er mwyn atgyfnerthu'r ymdrechion i atal pobl rhag codi ofn ar ymgeiswyr ac ymgyrchwyr. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad gelyniaethus tuag at rywun oherwydd eu cydberthynas ag ymgyrchydd (er enghraifft, aelod o deulu'r ymgyrchydd) hefyd.
Ein rôl
Rydym wedi cefnogi’r gymuned etholiadol drwy ddiweddaru ein canllawiau ar gyfer gweinyddwyr etholiadol, a staff gorsafoedd pleidleisio, gan nodi pa ymddygiad a ganiateir ac na chaniateir mewn gorsafoedd pleidleisio.
Rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd cyn etholiadau. Mae ein hymgyrch ‘Eich pleidlais chi yn unig’, a gyflwynir mewn partneriaeth â Crimestoppers, yn grymuso pleidleiswyr i amddiffyn eu pleidlais. Rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau i awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio, er mwyn helpu i sicrhau nad oes unrhyw un yn teimlo dan bwysau i bleidleisio mewn ffordd benodol.
Rydym eisoes yn cyhoeddi canllawiau ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, a'r Coleg Plismona, er mwyn helpu ymgeiswyr i adnabod ymddygiad bygythiol ac ymateb iddo. Byddwn yn parhau i adolygu'r canllawiau hyn, gyda'r partneriaid hynny, ac yn eu diweddaru'n briodol.