Gwella hygyrchedd etholiadau
Summary
Mae newidiadau wedi'u gwneud i gynnig mwy o hyblygrwydd a dewis o ran sut y caiff pleidleiswyr anabl eu cefnogi i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.
Mae'r newidiadau yn gymwys i etholiadau lleol yn Lloegr, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, ac etholiadau cyffredinol yn y DU, gan gynnwys deisebau adalw. Nid ydynt yn berthnasol i etholiadau Senedd yr Alban nac etholiadau'r Senedd, nac i etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban.
Newidiadau
Gall pleidleiswyr anabl ddewis unrhyw un dros 18 oed i fynd gyda nhw i'r orsaf bleidleisio i'w helpu i bleidleisio, gan gynnwys gofalwyr nad ydynt o bosibl yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad eu hunain.
Mae newidiadau i'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio hefyd. Mae angen i Swyddogion Canlyniadau gymryd pob cam rhesymol i roi cymorth i bleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio. Nod hyn yw gwella'r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael a'i ansawdd, a chyflymu'r broses o ddarparu cymorth ychwanegol lle bo angen.
Ein rôl
Ymgynghorwyd â sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, gweinyddwyr etholiadau, a'r Llywodraeth i ddiweddaru ein canllawiau i weinyddwyr etholiadau. Mae ein canllawiau yn argymell yr hyn y dylai Swyddogion Canlyniadau ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i bleidleiswyr anabl, fel eu bod yn cael y gwasanaeth y mae ganddynt yr hawl iddo.
Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid, rydym yn rhoi gwybod i bleidleiswyr anabl am y newidiadau a sut i gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eu cyngor lleol os bydd angen cymorth arnynt.
Adrodd ar etholiadau lleol Mai 2023 yn Lloegr
Adrodd ar etholiadau lleol Mai 2023 yn Lloegr
Etholiadau lleol Mai 2023 yn Lloegr oedd yr etholiadau cyntaf lle cafwyd mwy o hyblygrwydd o ran pa gymorth ac offer y gellid eu darparu mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi, neu i’w gwneud yn haws i, bobl anabl bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Darllenwch ein hadroddiad ar etholiadau lleol Mai 2023 yn Lloegr.