Newidiadau ar gyfer dinasyddion yr UE
Summary
O 7 Mai 2024 ymlaen, ni fydd rhai o ddinasyddion yr UE yn gallu pleidleisio a sefyll fel ymgeisydd mewn rhai etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bydd dinasyddion yr UE yn parhau i allu pleidleisio tra byddant yn aros ar y gofrestr, ond ni fyddant yn gallu ailgofrestru unwaith y cânt eu tynnu oddi ar y gofrestr ar ôl mis Mai 2024.
Newidiadau
Mae'r Ddeddf yn diddymu hawliau rhai o ddinasyddion yr UE i bleidleisio a sefyll mewn rhai etholiadau. Mae'r newidiadau yn gymwys i'r canlynol:
- etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
- etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
- etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Ni fydd y newidiadau hyn yn gymwys i etholiadau lleol ac etholiadau datganoledig yng Nghymru a'r Alban.
Bydd dinasyddion yr UE, lle mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gytundebau ag aelod-wladwriaethau'r UE i ganiatáu i'w dinasyddion sy'n byw yn y DU bleidleisio, yn gyfnewid am yr un hawl i ddinasyddion y DU sy'n byw yn y wlad honno, yn gallu pleidleisio a sefyll mewn etholiadau o hyd.
Hyd yma, ymrwymwyd i'r cytundebau hyn â'r canlynol:
- Sbaen
- Portiwgal
- Lwcsembwrg
- Gwlad Pwyl
- Denmarc
Bydd dinasyddion eraill yr UE a oedd yn byw yn y DU cyn diwedd Cyfnod Gweithredu'r Cytundeb Ymadael â'r UE (hyd at 1 Ionawr 2021) yn gallu parhau i bleidleisio a sefyll mewn etholiadau hefyd.
Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon na dinasyddion gwledydd y Gymanwlad.
Ein rôl
Rydym yn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau i ddiweddaru'r cofrestrau etholiadol ac yn darparu canllawiau ar bwy sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio a phwy nad yw'n gymwys.
Rydym yn cyfathrebu â dinasyddion yr UE mewn ffyrdd gwahanol er mwyn sicrhau eu bod yn deall a allant bleidleisio mewn etholiadau ai peidio. Rydym hefyd wedi diweddaru'r ffurflenni cais papur i gofrestru a gohebiaeth ganfasio er mwyn adlewyrchu'r newidiadau hyn, ac er mwyn sicrhau eu bod yn glir ac yn syml i bleidleiswyr eu defnyddio.
Rydym yn cyfathrebu ag ymgeiswyr, drwy sianeli cyfathrebu â phleidiau a grwpiau ymgyrchu, i wneud yn siŵr eu bod yn deall sut mae'r newid hwn yn effeithio ar eu cymhwysedd i sefyll etholiad.