Newidiadau i drefniadau pleidleisio dramor
Summary
Bellach gall dinasyddion Prydeinig a dinasyddion Gwyddelig cymwys sy’n byw dramor gofrestru i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU, ni waeth pa mor bell yn ôl y gwnaethant adael neu y cawsant eu cofrestru ddiwethaf i bleidleisio yn y DU.
Mae datganiad tramor bellach yn ddilys am dair blynedd, yn para tan 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym (er enghraifft, os daw’r datganiad i rym ar 1 Mawrth 2024, bydd yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026).
Bellach gall dinasyddion Prydeinig a dinasyddion Gwyddelig cymwys sy’n byw dramor gofrestru a gwneud cais am bleidlais absennol ar-lein (ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon).
Newidiadau
Mae'r terfyn 15 mlynedd ar hawliau pleidleisio i ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor wedi'i ddiddymu, ac mae'r cyfnod cofrestru ar gyfer y pleidleiswyr hyn wedi'i estyn o flwyddyn i dair blynedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond bob tair blynedd y mae angen i bleidleiswyr tramor gofrestru i bleidleisio.
Mae gan unrhyw ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor sydd wedi byw yn y DU, neu sydd wedi'i gofrestru i bleidleisio yn y DU yn flaenorol, yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Caiff y pleidleiswyr hyn eu cofrestru yn yr etholaeth lle roeddent wedi'u cofrestru i bleidleisio ddiwethaf, neu ble roeddent yn byw os nad oeddent wedi'u cofrestru i bleidleisio o'r blaen.
Gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU roi rhoddion i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Mae estyn hawliau pleidleisio i fwy o ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor yn golygu y bydd hawl gan y pleidleiswyr newydd hyn i roi rhoddion i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn y DU hefyd.
Ein rôl
I gefnogi gweinyddwyr etholiadau, rydym wedi diweddaru ein canllawiau er mwyn adlewyrchu'r newid hwn.
Rydym hefyd wedi diweddaru cynllun ffurflenni cais papur i ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor gofrestru i bleidleisio er mwyn adlewyrchu'r rheolau a gofynion newydd a sicrhau eu bod mor glir a syml i'w cwblhau â phosibl.
Byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ein hymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr er mwyn sicrhau y bydd pleidleiswyr newydd sy'n byw dramor yn ymwybodol o'r newid hwn.
Byddwn hefyd yn siarad â phleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr am y newidiadau i hawliau pleidleisio pleidleiswyr sy'n byw dramor.