Newidiadau i drefniadau pleidleisio drwy’r post
Summary
Mae newidiadau i bleidleisio drwy'r post a gwneud cais i bleidleisio drwy'r post.
Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar bleidleiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr.
Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post mewn rhai etholiadau. Mae angen i chi hefyd brofi pwy ydych chi fel rhan o'r broses ymgeisio a bydd angen i chi ailymgeisio am bleidlais bost bob tair blynedd.
Bydd pleidleisiau post hirdymor presennol y gwnaed cais amdanynt cyn 31 Hydref 2023 bellach yn dod i ben ar 31 Ionawr 2026.
Newidiadau i bleidleiswyr
Mae’r newidiadau'n cynnwys:
- Gallwch wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post
- Rhaid i chi brofi pwy ydych chi fel rhan o'r broses ymgeisio. Mae angen dilysu ID ar gyfer ceisiadau ar-lein ac ar bapur.
- Gallwch gynnal pleidlais bost am uchafswm o dair blynedd. Mae angen i chi ailymgeisio ar ddiwedd yr amser hwnnw.
Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau Senedd y DU (ac eithrio Gogledd Iwerddon), gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Ni allwch wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy’r post ar gyfer unrhyw etholiadau yng Ngogledd Iwerddon, etholiadau’r Senedd, etholiadau Senedd yr Alban, ac etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban.
Nid oes angen i chi brofi pwy ydych wrth wneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd, etholiadau Senedd yr Alban, ac etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban.
Gallwch wneud cais am bleidlais bost barhaol ar gyfer etholiadau yng Ngogledd Iwerddon, etholiadau Senedd yr Alban, etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban.
Ein rôl yn y newidiadau i bleidleiswyr
Rydym wedi darparu canllawiau wedi’u diweddaru a chymorth i weinyddwyr etholiadol i'w helpu i ddeall a chyflawni'r newidiadau.
Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i gyfleu’r newidiadau i bleidleiswyr sydd am wneud cais am bleidlais bost, gan gynnwys amlygu iddynt yr opsiwn i wneud cais ar-lein. Rydym hefyd wedi diweddaru'r ffurflenni cais am bleidlais bost.
Rydym wedi dweud wrth bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr am y newidiadau i bleidleisiau post.
Ymdrin â phleidleisiau post a chyfrinachedd
Mae cyfyngiadau newydd ar ymdrin â phleidleisiau post, gan gyfyngu ar nifer y pleidleisiau post y gall pleidleisiwr eu cyflwyno mewn gorsafoedd pleidleisio.
Newidiadau i ymdrin â phleidleisiau post a chyfrinachedd
Bydd gwaharddiad a throsedd newydd yn eu lle i atal pleidiau ac ymgyrchwyr rhag ymdrin â rhai amlenni pleidleisiau post a phleidleisiau post wedi'u cwblhau.
Ni chaniateir i bleidleiswyr gyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post (yn ogystal â'u pecynnau pleidleisio eu hunain). Wrth gyflwyno pleidleisiau post, bydd angen i bleidleiswyr lenwi ffurflen. Bydd angen i bleidleiswyr gynnwys eu henw a'u cyfeiriad, faint o bleidleisiau post y maent yn eu cyflwyno a pham eu bod yn cyflwyno'r pleidleisiau post hynny. Bydd pleidleisiau post yn cael eu gwrthod os na chaiff y ffurflen ei chwblhau, neu os byddant yn cyflwyno mwy o bleidleisiau post na'r hyn a ganiateir.
Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau lleol ac etholiadau'r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon.
Ein rôl yn y newidiadau i ymdrin â phleidleisiau post a chyfrinachedd
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau i weinyddwyr etholiadol a staff gorsafoedd pleidleisio i'w helpu i ddeall y newidiadau.
Rydym hefyd wedi darparu canllawiau wedi'u diweddaru i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i'w helpu i gydymffurfio â'r newidiadau ar ymdrin â phleidleisiau post, sy'n ffurfioli rhan allweddol o'n cod ymddygiad presennol ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr.