Gofyniad i ddangos ID mewn gorsafoedd pleidleisio
Summary
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gofyniad newydd sef y bydd rhaid i bleidleiswyr ddangos math o ID ffotograffig a dderbynnir i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Roedd y gofyniad hwn yn gymwys am y tro cyntaf yn yr etholiadau lleol a gynhaliwyd yn Lloegr ym mis Mai 2023.
Gwybodaeth i bleidleiswyr
Dysgwch ragor am yr ID Pleidleisiwr, gan gynnwys y mathau o ID a dderbynnir a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Newidiadau
Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i'r canlynol:
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
- Etholiadau lleol ac is-etholiadau yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Is-etholiadau Senedd y DU
- Deisebau adalw
Nid oes angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu etholiadau cynghorau lleol.
Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yn yr Alban ddangos ID ffotograffig yn etholiadau Senedd yr Alban neu mewn etholiadau cynghorau lleol.
Os nad oes gan bleidleiswyr ID ffotograffig a dderbynnir, gallant wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim. Fe’i gelwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Mae'n ofynnol i bleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon ddangos ID wrth bleidleisio ers 1985, ac ID ffotograffig ers 2002. Nid yw'r gofyniad newydd yn newid hyn.
Ein rôl
Cymorth i bleidleiswyr
Fel rhan o'n dyletswydd i roi gwybod i bleidleiswyr am ddemocratiaeth ac etholiadau, rydym yn gyfrifol am sicrhau bod pleidleiswyr yn gwybod bod angen iddynt ddod ag ID ffotograffig a dderbynnir i bleidleisio.
Lansiwyd ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus newydd ym mis Ionawr 2024 yng Nghymru a Lloegr ar gyfer etholiadau lleol mis Mai 2024 yn Lloegr, ac ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Gan ategu'r ymgyrch yn Lloegr ers y llynedd, mae'n esbonio y bydd angen i bleidleiswyr ddangos math o ID ffotograffig a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio, a'r mathau o ID ffotograffig y gallant eu defnyddio. Mae hefyd yn esbonio sut a phryd y gall pleidleiswyr wneud cais am y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim, os nad oes ganddynt math o ID a dderbynnir.
Er nad oes etholiadau ym mis Mai yn yr Alban, rydym yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd sy'n annog pleidleiswyr yr Alban i wneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer newidiadau o ran sut i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Byddwn yn cynnal ein hymgyrch cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymdeithas sifil i gynhyrchu adnoddau wedi'u teilwra ar gyfer pleidleiswyr y gwyddom eu bod yn llai tebygol o feddu ar yr ID sydd ei angen arnynt i bleidleisio.
Cymorth i awdurdodau lleol
Rydym wedi darparu adnoddau a chanllawiau diwygiedig er mwyn helpu gweinyddwyr etholiadol i gyflawni'r gofyniad newydd i bleidleiswyr ddangos ID. Mae ein canllawiau yn cynnwys sut i reoli a phrosesu ceisiadau am y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, a gweithdrefnau i staff gorsafoedd pleidleisio eu dilyn.
Rydym hefyd yn helpu timau cyfathrebu awdurdodau lleol drwy ddarparu amrywiaeth o adnoddau, megis datganiadau i'r wasg a chynnwys cyfryngau cymdeithasol enghreifftiol, i'w helpu i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad i ddangos prawf adnabod ymhlith eu preswylwyr.
Pleidiau gwleidyddol
Defnyddiwyd amrywiaeth o sianeli gennym i sicrhau bod pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn ymwybodol o'r gofyniad newydd i ddangos ID, a sut y gall pleidleiswyr wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. Roedd hyn yn cynnwys diweddariadau i'r cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr.
Adrodd ar etholiadau lleol mis Mai 2023 yn Lloegr
Adrodd ar etholiadau lleol Mai 2023 yn Lloegr
Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n edrych ar etholiad lleol mis Mai 2023 yn Lloegr, ac is-etholiadau diweddar Senedd y DU, gan gynnwys sut y gweithredwyd y gofyniad ID pleidleisiwr:
- Adroddiad ar etholiadau lleol mis Mai 2023 yn Lloegr
- ID pleidleisiwr yn etholiadau lleol mis Mai 2023 yn Lloegr: dadansoddiad dros dro
- Is-etholiadau Senedd y DU yn 2023 | Comisiwn Etholiadol
Rhagor o wybodaeth am ID Pleidleisiwr.