Ymgynghoriad ar ganllawiau diweddaraf i Swyddogion Canlyniadau: Cymorth gyda phleidleisio i bobl anabl

Ni ddylai unrhyw beth rwystro pobl anabl rhag pleidleisio. Dylai pawb gael yr hawl i bleidleisio ar eu pen eu hun ac yn gyfrinachol.

Dan ddarpariaethau Deddf Etholiadau 2022, mae’n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu cyfarpar rhesymol i alluogi neu ei gwneud hi’n haws hi bobl anabl bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Hefyd, mae’n ofynnol i’r Comisiwn ddarparu arweiniad i gefnogi swyddogion canlyniadau i gyflawni’r newidiadau hyn, y mae’n rhaid iddyn nhw ei ystyried.

Cyn etholiad mis Mai 2023 ac yn dilyn ymgynghoriad statudol fe ddatblygon ni ganllawiau hygyrchedd newydd i adlewyrchu'r newidiadau o ran cynorthwyo gyda phleidleisio i bobl anabl. Mae hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cyn etholiadau mis Mai 2026, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno deddfwriaeth i wneud y darpariaethau hygyrchedd ar gyfer etholiadau’r Senedd a Senedd yr Alban yn gydnaws â’r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd deddfwriaeth yn dilyn ac yn cwmpasu etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban. Bydd Rheol 37 (14) o reolau etholiad Senedd Cymru yn Atodiad 5 drafft Gorchymyn 2025 Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) ac erthygl 14 o ddrafft Gorchymyn 2025 Senedd yr Alban (Etholiadau ac ati) (Addasiadau Amrywiol) yn alinio’r darpariaethau hyn ar gyfer etholiadau’r Senedd a Senedd yr Alban, gan gynnwys y gofyn i’r Comisiwn ymgynghori ar y canllawiau.

Gan ei bod yn bwysig inni gynhyrchu un set gyson o ganllawiau ar gyfer pob pleidlais ar draws y DU, rydym hefyd wedi cymryd y cyfle i ystyried a oes angen diweddariadau pellach, gan dynnu ar y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'n gwaith yn monitro a gwerthuso'r pedair set o etholiadau a gynhaliwyd ar draws y DU ers cyflwyno'r newidiadau yn y lle cyntaf.

Hoffem glywed eich safbwyntiau ar ein canllawiau diweddaraf i gefnogi Swyddogion Canlyniadau i wneud trefniadau hygyrchedd a all gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar bleidleiswyr anabl yn etholiadau Mai 2026 a thu hwnt.

Ar ôl inni ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad statudol hwn, ein bwriad yw cyhoeddi’r canllawiau diweddaraf tuag at ddiwedd 2025, ynghyd ag ymateb llawn i’r ymgynghoriad, gyda manylion am yr adborth sydd wedi ein cyrraedd a sut ymdrinnir ag ef. Bydd hyn yn galluogi Swyddogion Canlyniadau i ystyried unrhyw newidiadau o ran eu cynllunio ymhell cyn pleidleisiau Mai 2026.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon hefyd ar gael mewn fformatau hawdd eu darllen a IAP.