Ymgynghoriad statudol ar ganllawiau i Swyddogion Canlyniadau: Cymorth gyda phleidleisio i bobl anabl

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben

Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau. Unwaith y byddwn wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad statudol hwn, byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau cyn gynted ag y gallwn i gynorthwyo Swyddogion Canlyniadau i baratoi a chynnal etholiadau Mai 2023.

Crynodeb

Crynodeb

Ni ddylai pobl anabl wynebu unrhyw rwystrau i bleidleisio. Dylai fod gan bawb hawl i bleidleisio ar ei ben ei hun neu ei phen ei hun ac yn gyfrinachol.

Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu'r cyfryw gyfarpar ag sy'n rhesymol er mwyn galluogi pobl anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu er mwyn ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.

Gan fod y ddeddfwriaeth sy'n deddfu'r darpariaethau hyn ar waith bellach, mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnal ymgynghoriad statudol ar ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau ar y darpariaethau newydd ynglŷn â chymorth i bleidleisio ar gyfer pobl anabl.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos cychwynnol ar y canllawiau drafft a chafwyd 67 o ymatebion gan aelodau o'r cyhoedd, gweinyddwyr etholiadol ac ystod eang o sefydliadau elusennol, cymdeithas sifil a thrydydd sector. Rydym bellach wedi diweddaru'r canllawiau, gan adeiladu ar yr adborth a gawsom fel rhan o'r ymgynghoriad cychwynnol.

Rydym am glywed eich barn ar ein canllawiau wedi'u diweddaru er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau i wneud trefniadau ynglŷn â hygyrchedd a all gael effaith wirioneddol a chadarnhaol i bleidleiswyr anabl ar gyfer etholiadau mis Mai 2023 a thu hwnt.

Unwaith y byddwn wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad statudol hwn, byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau i gynorthwyo Swyddogion Canlyniadau yn y gwaith o baratoi a chynnal etholiadau mis Mai 2023 cyn gynted ag y bo modd.

Ochr yn ochr â'r canllawiau hyn i Swyddogion Canlyniadau, byddwn hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol fel rhan o'n canllawiau a'n hadnoddau ehangach i weinyddwyr etholiadol ac i bleidleiswyr er mwyn helpu i sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch i bawb.

Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen a fformat BSL.