Canllawiau drafft ar gyfer Swyddogion Canlyniadau: Cymorth gyda phleidleisio ar gyfer pleidleiswyr anabl (ymgynghoriad statudol)
Summary
Dylai pob person allu cofrestru a phleidleisio heb wynebu rhwystrau.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnig gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â'r camau y gallwch chi a'ch staff eu cymryd i helpu dileu rhai o’r rhwystrau a’r heriau y gall pleidleiswyr anabl eu hwynebu wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Maent hefyd yn ceisio eich helpu i nodi a darparu cyfarpar ar gyfer gorsafoedd pleidleisio a fydd yn helpu i wneud pleidleisio yn haws i bleidleiswyr anabl.
Rydym wedi ymgynghori gydag ystod eang o sefydliadau sy’n cynrychioli pobl anabl wrth ddrafftio’r canllawiau hyn. Rhoddodd yr ymatebion a gawsom wybod i ni sut oedd y profiad pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio i bleidleiswyr anabl a beth oedd yr arferion a’r cyfarpar a allai helpu i wella’u profiad. Mae’r canllawiau’n adlewyrchu’r adborth a gafwyd gan yr unigolion a’r sefydliadau hynny cyn belled ag sy’n bosibl o fewn cwmpas y canllawiau a’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Drwy gydol y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio'r gair ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a'r gair ‘dylai’ ar gyfer arfer a argymhellir.
Fel Swyddog Canlyniadau, mae'n rhaid i chi ystyried y canllawiau ar gyfarpar y bydd angen ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio1 fel rhan o'ch dyletswyddau ehangach i ystyried anghenion pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio, gwneud addasiadau rhesymol a darparu cyfarpar.
Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd, gan gynnwys mewn perthynas â’r cyfarpar a ddylai gael ei ddarparu fel gofyniad sylfaenol, ac unrhyw gyfarpar a chymorth ychwanegol. Byddwn yn gofyn am adborth gan bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol ar y cyfarpar a ddarparwyd i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fel rhan o’n hadrodd ar etholiadau ac i helpu gydag adnabod a rhannu arfer da.
Sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch
Dylai pob pleidleisiwr gael yr hawl i bleidleisio ar eu pen eu hunain ac yn gyfrinachol.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod pobl anabl yn wynebu rhwystrau i bleidleisio sy’n cynnwys:
- nid yw eu hawliau pleidleisio’n cael eu cyfathrebu mewn modd hygyrch
- dydnt ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt wrth gofrestru i bleidleisio neu bleidleisio
- rhwystrau ffisegol, rhwystrau seicolegol a rhwystrau o ran gwybodaeth wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio cael anabledd fel cael cyflwr ffisegol neu feddyliol sydd ag effeithiau sylweddol a hirdymor ar allu rhywun i gyflawni gweithgareddau beunyddiol arferol. Gall anabledd fod o ganlyniad i gyflwr meddygol: er enghraifft, mae'n bosibl na fydd rhywun sydd ag arthritis yn ei ddwylo yn gallu gafael mewn pethau heb ddefnyddio teclyn cynorthwyol. Ond nid oes rhaid i anabledd fod yn gyflwr meddygol â diagnosis, gall gynnwys namau corfforol neu seicolegol a all fod yn weladwy ac yn anweladwy. Er enghraifft, os bydd person yn dioddef gorbryder, mae'n bosibl y bydd yn cael anhawster canolbwyntio - yn ogystal â namau corfforol, megis blinder difrifol.
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ystyried rhwystrau i bleidleisio, sut y gallwch sicrhau eich bod chi a'ch staff yn ymwybodol ohonynt, a sut y gallwch nodi pa gymorth a chyfarpar y bydd angen eu darparu mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl i bawb.
Mae’r gofyniad yn Neddf Etholiadau 2022 i Swyddogion Canlyniadau roi cyfarpar rhesymol er mwyn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol yn disodli’r gofynion blaenorol oedd yn gyfyngedig ac yn.gyfarwyddol. Mae’r gofyniad hwn yn eistedd o fewn y fframwaith cyfreithiol ehangach o hawliau ac amddiffyniadau i bobl anabl a darpariaethau penodol mewn cyfraith etholiadol er mwyn helpu i ddiogelu a gwella profiad pleidleiswyr anabl.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Ers cyflwyniad Deddf Cydraddoldeb 2010, mae dyletswydd ar Swyddogion Canlyniadau ym Mhrydain Fawr i ragweld anghenion pleidleiswyr anabl a gwneud addasiadau rhesymol i ddileu anfanteision sylweddol i’r pleidleiswyr hyn. Mae hyn yn golygu bod angen i Swyddogion Canlyniadau feddwl am a rhagweld y mathau o addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen ar bob pleidleisiwr - nid dim ond y rheini sy’n hysbys iddynt - sydd â mathau gwahanol o ofynion o ran anabledd, cymorth a hygyrchedd.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi gwybodaeth am y ddyletswydd a’r meini prawf disgwylgar ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Er nad yw wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, mae’n cynnig canllawiau defnyddiol ar beth mae’r ddyletswydd ddisgwylgar a gwneud addasiadau rhesymol yn ei olygu, yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol o wneud addasiadau rhesymol.
Deddf Gogledd Iwerddon 1998
Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu, gan gynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, hyrwyddo cyfle cyfartal ymhlith y rheini sydd ag anabledd a’r rheini sydd heb anabledd, wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau. Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys i ddatblygu polisi, gweithredu polisi a darparu gwasanaethau.
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, wneud addasiadau rhesymol i ddileu unrhyw anfantais sylweddol i bobl anabl.
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Mae yna ddarpariaethau penodol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy’n cefnogi hygyrchedd etholiadau ar gyfer pleidleiswyr anabl.
Adran 199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Mae'n rhaid i chi sicrhau y caiff hysbysiadau etholiad eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformatau eraill, pan fyddwch o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny. Gallwch eu paratoi:
- Mewn Braille2
- Mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg3
- Gan ddefnyddio lluniau4
- Mewn fformat sain5
- Gan ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch.6
Atodlen A1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Mae'n rhaid i chi ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio dichonadwy wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio.7 Rhaid i'r awdurdod perthnasol8 geisio sylwadau gan y rheini sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl sydd â mathau gwahanol o anabledd.9
Mae ein canllawiau adolygu dosbarthiadau etholiadol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd hon. Mae hefyd yn cynnwys rhestr wirio y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a phob gorsaf bleidleisio.
Deddf Etholiadau 2022
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddarpariaethau i helpu pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio.
Mae'r Ddeddf:
- yn creu gofyniad i chi ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pobl berthnasol10 i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn.
- yn ei gwneud yn ofynnol i chi ystyried canllawiau'r Comisiwn ar y cyfarpar y bydd angen ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio.11
- yn ehangu'r rheolau o ran pwy all fod yn gydymaith er mwyn cynnwys unrhyw un sydd dros 18 oed.12
Mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i'r mathau canlynol o etholiad:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Etholiadau maerol yn Lloegr
- Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
- Etholiadau'r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon.
Nid yw'r gofynion o dan y Ddeddf Etholiadau yn gymwys i etholiadau Senedd Cymru nac etholiadau Senedd yr Alban, nac i etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban. Fodd bynnag, mae'r dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy'n ymwneud â sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr anabl yn gymwys i’r etholiadau hynny.
Deall y rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl
Drwy nodi a deall y rhwystrau ffisegol a seicolegol y gall pobl anabl eu hwynebu, yn ogystal â rhwystrau o ran gwybodaeth, byddwch mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i’w helpu.
Mae rhai o'r rhwystrau a'r heriau a wynebir gan bleidleiswyr anabl yn cynnwys y canlynol:
- Ddim yn cael gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio
- Nid yw cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gael mewn Cymraeg neu Saesneg clir, neu fformat hawdd ei ddeall
- Diffyg gwybodaeth am allu cydymaith i gynorthwyo gyda phleidleisio
- Diffyg gwybodaeth am y profiad pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn achosi pryder am bethau fel:
- cyrraedd yr orsaf bleidleisio, yn enwedig os ydyw am y tro cyntaf
- bod yn gallu dod o hyd i’r orsaf bleidleisio a chael mynediad iddi
- gwybod beth fydd yn digwydd yno
- gwybod beth yw'r broses ar gyfer pleidleisio
- y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yno ar yr un pryd
- y posibilrwydd y bydd llawer o sŵn
- teimlo bod rhaid rhuthro i wneud penderfyniadau yn gyflym
- ciwio
- wedi cael profiad negyddol yn yr orsaf bleidleisio yn y gorffennol
- Yr adeilad/yr orsaf bleidleisio ddim yn hygyrch
- Er enghraifft, os oes grisiau neu os nad yw'r cynllun y tu mewn yn addas i bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn
- Cyfarwyddiadau hygyrch ddim ar gael i bobl sydd â’r canlynol:
- Nam ar y golwg neu ddallineb
- Nam ar y clyw neu golled clyw
- Dyslecsia
- Anawsterau dysgu
- Diffyg cymorth ar gael i alluogi cyfathrebu effeithiol gyda staff yr orsaf bleidleisio
- Nid oes teclynnau cynorthwyol ar gael bob amser i helpu pleidleiswyr defnyddio pen/pensil
- Trefniadau eistedd neu drefniadau eraill ddim ar gael i gynorthwyo’r rheini nad ydynt yn gallu sefyll mewn ciw
- Staff yr orsaf bleidleisio ddim yn ymwybodol o niwrowahaniaeth ac anableddau cudd
Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy'n galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn
Mae'r adran hon yn amlinellu'r cyfarpar a ddylai gael ei ddarparu bob amser mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau hysbys a sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl i bleidleiswyr anabl.
Mae hefyd yn cyfeirio at gyfarpar ychwanegol pellach y gall fod yn briodol ei ddarparu os byddwch yn nodi neu'n cael gwybod am anghenion penodol pleidleiswyr anabl.
Gwybodaeth i bleidleiswyr
Er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y broses bleidleisio a sut i farcio eu papur pleidleisio, mae'n rhaid i chi ddarparu'r canlynol:
- Hysbysiad y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio sy'n rhoi cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio yn yr etholiad.13
- Hysbysiad ym mhob bwth pleidleisio sy'n rhoi gwybodaeth am sut i farcio'r papur pleidleisio yn yr etholiad.14
- Rhaid arddangos o leiaf un copi sampl mawr o'r papur pleidleisio y tu mewn i'r orsaf bleidleisio15 , yn ddelfrydol mewn man â digon o olau lle y gall pleidleiswyr ei weld yn hawdd cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd arddangos sampl o bapurau pleidleisio print mawr yn yr orsaf yn helpu pleidleiswyr sy'n rhannol ddall a hefyd pleidleiswyr a hoffai gael rhywfaint o amser i edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i mewn i'r bwth.
- Copi llaw wedi'i chwyddo o'r papur pleidleisio. Gall pleidleiswyr sy'n rhannol ddall fynd â hwn gyda nhw i'r bwth pleidleisio er mwyn cyfeirio ato wrth farcio eu papur pleidleisio.
Mae'n rhaid i chi ystyried a yw'n briodol gwneud yr hysbysiadau hyn yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bleidleiswyr16 drwy eu darparu mewn ieithoedd a fformatau amgen, e.e. mewn Braille, mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, ar ffurf darluniau17 neu ar ffurf sain.18 Rydym yn datblygu adnodd i’ch cynorthwyo chi gyda dylunio a chynhyrchu hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio rhagnodedig mewn fformatau hygyrch, a byddwn yn diweddaru’r canllawiau drwy gynnwys dolen unwaith bydd yr adnodd ar gael.
Yn ogystal â bodloni’r gofynion statudol sylfaenol, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gopïau sampl ychwanegol a chopïau wedi’u chwyddo o’r adnoddau papur pleidleisio yn weladwy ac ar gael yn hawdd yn yr orsaf bleidleisio – bydd eu cadw yn y golwg ac wedi’u marcio’n glir yn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu eu cyrchu’n hawdd.
Cyfarpar i helpu pleidleiswyr i gymryd rhan
Mae dyletswydd arnoch i ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pobl berthnasol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn.19
Mae gennym ddyletswydd i roi arweiniad mewn perthynas â'ch dyletswydd i ddarparu'r cyfarpar hwn.20
Mae’n rhaid i chi ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni’ch dyletswydd i ddarparu cyfarpar addas ond yn y pen draw eich cyfrifoldeb chi fel Swyddog Canlyniadau yw penderfynu ar y trefniadau a'r cyfarpar sy’n rhesymol i alluogi pleidleiswyr anabl yn eu hardal i fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
Nod y canllawiau yw eich cynorthwyo chi drwy amlygu’r mathau o gyfarpar a allai helpu i ddileu rhwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. Gall ffactorau sy'n unigryw i’ch ardal leol – sy’n ymwneud â maint a graddfa gorsafoedd pleidleisio neu ofynion penodol eich etholwyr lleol – lywio’r dull y byddwch yn penderfynu ei gymryd.
Dylai penderfyniadau ynghylch cyfarpar priodol cael eu hystyried yn ofalus, bod yn dryloyw a’u hadolygu’n rheolaidd.
Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i chi gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i helpu gyda chynnal etholiadau hygyrch. Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi rhagor o fanylion a chanllawiau ynglŷn â sut y caiff y cyllid ei ddarparu, gan gynnwys ar gyfer etholiadau cenedlaethol, maes o law.
Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau, rydym wedi nodi ystod o gyfarpar a all helpu i oresgyn y rhwystrau hysbys a wynebir gan bobl anabl. Mae llawer o'r eitemau hyn ar gael yn hawdd, heb gostio llawer, a gallant gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar brofiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio. Fel gofyniad sylfaenol, dylai'r cyfarpar canlynol gael ei ddarparu ym mhob gorsaf bleidleisio er mwyn cefnogi pleidleiswyr anabl:
- Cadair/rhywle i eistedd – mae hyn yn cynnig lle i bleidleiswyr orffwys os na allant sefyll am gyfnodau hir a sedd i bleidleiswyr a hoffai dreulio ychydig o amser yn meddwl cyn mynd i mewn i'r bwth pleidleisio.
- Chwyddwydrau – mae'r rhain yn cynyddu maint y testun ar ddogfen gan gynorthwyo pleidleiswyr sydd â nam ar y golwg i bleidleisio'n annibynnol.
- Dyfais bleidleisio gyffyrddadwy – mae'r ddyfais hon yn helpu pleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir.
- Bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn – mae hwn yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn gyrraedd arwyneb ysgrifennu is fel y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth hygyrch.
- Bathodynnau staff mewn gorsaf pleidleisio – mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i adnabod yn haws pwy yn yr orsaf bleidleisio sy’n aelod o staff ac yn rhywun y gallant ofyn iddo am gymorth. Gellir teilwra’r math o fathodyn a’r testun a ddefnyddir i fod yn addas i amgylchiadau lleol unigol. Er enghraifft, gallech roi bathodyn i staff gorsafoedd pleidleisio sy’n nodi beth yw eu rôl a’u henw cyntaf ac sy’n datgan eu bod yn falch i helpu.
- Darn gafael ar gyfer pensil – gall y rhain helpu pleidleiswyr sydd â namau medrusrwydd afael mewn pensil yn haws a'i ddefnyddio'n annibynnol.
- Rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau) – mae'r rhain yn cefnogi mynediad i orsaf bleidleisio ar gyfer pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio grisiau.
- Teclynnau tynnu sylw dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau y mae angen eu cadw ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân) – mae'r rhain yn galluogi pleidleiswyr i roi gwybod i staff yr orsaf bleidleisio fod angen cymorth arnynt i agor y drws fel y gallant fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio. Nid oes rhaid i’r rhain gael eu gosod yn barhaol mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio, gellir eu rhoi dros dro ar lefel hygyrch ar fwrdd neu gadair nesaf i ddrysau sy’n gorfod aros ar gau.
- Goleuadau priodol – mae golau da mewn rhai gorsafoedd pleidleisio ond mae angen goleuadau ychwanegol wrth y ddesg mewn rhai eraill, er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau'r staff yn glir, ac yn y bythau pleidleisio, er mwyn helpu pleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg i allu darllen a chwblhau'r papur pleidleisio.
- Lleoedd parcio a gaiff eu cadw i bleidleiswyr anabl (os bydd lleoedd parcio ar gael yn y lleoliad) – mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos â phosibl at yr orsaf bleidleisio
Nid y cyfarpar a ddangosir yn y rhestr uchod yw'r unig gyfarpar y gallwch ei ddarparu ac, yn wir, ni ddylech leihau na symud unrhyw gyfarpar rydych wedi'i ddarparu i gefnogi pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal mewn etholiadau blaenorol.
Mae mathau eraill o gyfarpar a allai hefyd fod yn briodol eu darparu mewn gorsafoedd pleidleisio i gefnogi pleidleiswyr i gymryd rhan. Mae enghreifftiau o gyfarpar ychwanegol y gallech eu darparu yn cynnwys y canlynol:
- Dolen sain – mae'r rhain yn darparu cymorth i bleidleiswyr sy’n gwisgo cymhorthion clyw i gyfathrebu yn yr orsaf bleidleisio. Mae dolen sain wedi'i gosod fel mater o drefn mewn rhai adeiladau ac, os felly, dylech ei defnyddio. Os nad yw hyn ar gael, gellid defnyddio dolen sain gludadwy.
- Dyfeisiau sain – darnau o gyfarpar sy'n atgynhyrchu, yn recordio neu'n prosesu sain yw'r rhain. Gellir defnyddio dyfais sain ar y cyd â'r ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy gan alluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu'n rhannol ddall i wrando ar restrau o ymgeiswyr ac yna farcio eu papur pleidleisio yn annibynnol.
- Gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ddeall - mae hyn yn cyfeirio at gyflwyno testun mewn fformat hygyrch sy'n hawdd ei ddeall. Yn aml bydd y fformat hwn yn ddefnyddiol i bobl sydd ag anableddau dysgu, a gall fod yn fuddiol i bobl sydd â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar sut maent yn prosesu gwybodaeth hefyd.
Mae’n rhaid i’r cyfarpar a’r adnoddau a ddarparwch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl gael eu cadw yn y golwg a’u marcio’n glir fel bod modd iddynt gael eu nodi a’u cyrchu’n hawdd.
Gwneud penderfyniadau ynghylch darparu cymorth a chyfarpar ychwanegol i bleidleiswyr
Fel Swyddog Canlyniadau, mae'n bosibl y byddwch yn cael ceisiadau i ddarparu cymorth neu gyfarpar ychwanegol, y tu hwnt i’r hyn rydych eisoes yn ei ddarparu neu’n bwriadu ei ddarparu.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael gwybod gan bleidleisiwr â math penodol o nam ei fod yn wynebu anfantais sylweddol o hyd (h.y. anfantais sy'n fwy na mân neu ddibwys) er gwaethaf eich addasiadau, am fod ganddo anghenion ychwanegol.
Mewn achosion o'r fath, dylech ystyried y cais a phenderfynu a yw'n rhesymol darparu cymorth a/neu gyfarpar ychwanegol er mwyn dileu'r anfantais sylweddol y mae'r pleidleisiwr wedi'i nodi a thynnu eich sylw ati. Nid oes proses benodol yn y gyfraith o ran sut y byddwch yn pennu pa gyfarpar sy’n rhesymol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi cyngor am wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle. Er nad yw wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, efallai y bydd yn ddefnyddiol yn eich helpu i benderfynu a yw cais yn rhesymol ai peidio.
Dylid ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod a gyda'r bwriad o barhau i gefnogi hawl pob pleidleisiwr i allu bwrw ei bleidlais. Pan fyddwch yn gwneud eich penderfyniad ynghylch p’un a yw cais yn rhesymol ai peidio, mae yna ystod o ffactorau y dylech eu hystyried, gan gynnwys y canlynol:
- A fydd darparu'r cymorth neu'r cyfarpar ychwanegol y gofynnwyd amdano yn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio, neu'n ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn?
- Pa mor hawdd neu ymarferol yw darparu'r cymorth ychwanegol neu gyflenwi'r cyfarpar y gofynnwyd amdano? Er enghraifft:
- A oes modd prynu'r cyfarpar yn hawdd?
- A yw'r goblygiadau o ran cost yn rhesymol?
- A oes unrhyw opsiynau amgen ar gael sy'n fwy cost effeithiol neu y mae'n haws cael gafael arnynt?
- Ai cyfarpar untro yw hwn neu a ellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol?
- A yw'r cyfarpar y gofynnwyd amdano yn gludadwy ac a ellir ei gludo i orsaf bleidleisio arall pe bai angen (er enghraifft, oherwydd newid munud olaf i'r orsaf bleidleisio)?
- A oes unrhyw oblygiadau hyfforddiant i'w hystyried er mwyn i staff ddarparu'r cymorth gofynnol neu helpu pobl i ddefnyddio'r cyfarpar?
- Ydych chi wedi ymgysylltu ag unigolion yn eich awdurdod lleol sydd ag arbenigedd mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael cyngor?
Nid oes rhaid i chi ganiatáu pob cais am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, ond dylech allu dangos eich bod wedi ystyried pob cais yn drylwyr gan ddefnyddio meini prawf teg a chyson. Dylech gadw gwybodaeth ddigonol am geisiadau i’ch galluogi i adolygu effeithiolrwydd eich darpariaeth ar gyfer pleidleiswyr anabl.
Cadw gwybodaeth pan fydd pleidleisiwr anabl yn cysylltu â chi ynghylch cymorth neu gyfarpar ychwanegol
Os bydd pleidleisiwr anabl yn cysylltu â chi yn gofyn am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, mae'n bosibl y byddwch yn cael data categori arbennig sensitif am yr unigolyn hwnnw a'i anghenion penodol. Ystyrir mai chi fydd y rheolydd data ar gyfer y data sensitif hwn a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rheoli sut caiff y data ei brosesu yn unol â gofynion diogelu data, gan gynnwys sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o sut y caiff ei ddata ei brosesu.
Dylech geisio cyngor gan eich Swyddog Diogelu Data ynghylch beth i'w wneud gyda'r data ar ôl ei brosesu ac a oes angen i chi ddiweddaru unrhyw hysbysiadau preifatrwydd perthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth am reoli data categori arbennig yn ein canllawiau ar ddiogelu data.
Sicrhau bod y rhein sy'n gweithio i gefnogi'r bleidlais yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd
Er mwyn helpu i sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael mynediad cyfartal i bleidleisio ac yn cael cymorth priodol, mae'n bwysig bod pawb sy'n gweithio i gynnal yr etholiad neu i roi gwybodaeth i bleidleiswyr yn ymwybodol o anghenion pobl anabl.
Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd i'r holl staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, gan gynnwys staff sy'n cefnogi gwasanaethau etholiadol, er mwyn helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.
Gan weithio gyda phartneriaid allanol, rydym wedi datblygu adnoddau a allai helpu eich staff i ddeall rhwystrau i bleidleisio a phrofiadau pleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- Fideo RNIB sy'n rhannu'r profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio i'r rheini â nam ar eu golwg
- Fideos Mencap sy'n rhannu profiadau Charlotte a Harry o bleidleisio gydag anabledd dysgu mewn gorsaf bleidleisio
Gallwch geisio cyngor gan eich swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant neu eich adran Adnoddau Dynol ar hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd arall y gallech fanteisio arno.
Dylai staff hefyd fod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael gennym ar ein gwefan a'n sianel YouTube i gynorthwyo pleidleiswyr anabl sydd â namau penodol er mwyn eu helpu i ddeall pleidleisio a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ein hadnoddau, gallwch danysgrifio i'r Gofrestr, sef ein cylchlythyr cofrestru i bleidleiswyr a'ch canllaw i gefnogi pleidleiswyr i gofrestru a chymryd rhan.
Yn ogystal, gallech ystyried caffael neu ddatblygu adnoddau bytholwyrdd nad ydynt yn ymwneud ag etholiad penodol ac y gallwch eu defnyddio drwy'r flwyddyn am sawl blynedd mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil sy'n cefnogi eu rhanddeiliaid ac yn dadlau drostynt ar faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd pleidleisio.
Hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn cefnogi hygyrchedd
Mae hefyd yn hanfodol bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn ymdrin â phwysigrwydd bod yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a pha gamau y dylent eu cymryd i'w cefnogi.
Mae gweithredoedd ac ymddygiadau staff gorsafoedd pleidleisio yn allweddol i sicrhau bod profiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio yn un cadarnhaol. Gall pethau syml megis cynnig cymorth a gwrando ar gwestiynau pleidleiswyr wneud gwahaniaeth go iawn.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghenion hygyrchedd yn gyffredinol, mae'n bwysig bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn cwmpasu'r canlynol:
- y rhwystrau a wynebir gan bleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio a sut y gall staff gorsafoedd pleidleisio helpu i'w lleihau
- ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weladwy
- pwysigrwydd ystyried anghenion y person, nid anabledd penodol
- ymwybyddiaeth y gall fod gan rai pleidleiswyr fwy nag un nam – er enghraifft, nam ar eu golwg a dementia
- pwysigrwydd cyfathrebu clir mewn perthynas â'r broses bleidleisio
- pwysigrwydd cyfathrebu'n glir fod cymorth ar gael os bydd angen
- ymwybyddiaeth o'r cyfarpar a ddarperir yn yr orsaf bleidleisio, a sut i'w ddefnyddio, er mwyn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a'i gwneud yn haws iddynt wneud hyn
- ymwybyddiaeth y gall unrhyw un dros 18 oed fod yn gydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr
- ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr anabl gael anifail cymorth gyda nhw ac ni ddylid atal anifeiliaid cymorth rhag mynd mewn i’r orsaf bleidleisio y gallant ddod ag ef i mewn i'r orsaf bleidleisio
- ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr sydd â cholled golwg ddefnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu gario cyfarpar cynorthwyol maint poced, megis chwyddwydrau fideo, i’w helpu i ddarllen dogfennau yn y bwth pleidleisio neu ar y cyd â dyfais bleidleisio gyffyrddadwy.
- ymwybyddiaeth bod defnyddio apiau testun i leferydd yn dderbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio.
Yn ein canllawiau craidd i Swyddogion Canlyniadau ar gyfer pob math o etholiad, ceir dolenni i adnoddau hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio sy'n cynnwys gwybodaeth am y rôl sydd gan staff gorsafoedd pleidleisio wrth sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch a’r cyfarpar sydd ar gael i gefnogi pleidleiswyr anabl hygyrchedd, y dylech dynnu sylw ati wrth friffio staff gorsafoedd pleidleisio.
Codi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael
Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn cwmpasu'r camau y gallwch eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr.
Mae'n bwysig bod gennych strategaeth gyfathrebu glir er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau a wynebir gan rai pleidleiswyr, yn ogystal â sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w galluogi i bleidleisio'n hyderus. Mae hyn yr un mor bwysig ar gyfer is-etholiadau neu ddigwyddiadau pleidleisio annisgwyl, a all gael eu cynnal ar fyr rybudd, ag y mae ar gyfer etholiadau a drefnwyd.
Dylech ddiweddaru eich strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy nodi sut a phryd y byddwch yn gwneud y canlynol:
- Nodi partneriaid a sefydliadau anabledd perthnasol a chyfathrebu â nhw er mwyn ystyried cyfleoedd i gydweithio a chodi ymwybyddiaeth
- Hyrwyddo a rhannu gwybodaeth â phleidleiswyr anabl am y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a'r cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael
- Gofyn am adborth ar y cymorth a'r cyfarpar a ddarperir – er enghraifft, drwy wneud ymdrech ragweithiol i wahodd sylwadau drwy eich gwefan neu eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Er mwyn eich helpu gyda chynllunio a datblygu eich gweithgaredd ymwybyddiaeth gyhoeddus byddwn yn darparu cyfres o asedau cyfryngau cymdeithasol templed a thempledi copi’r we a fydd ar gael ar ein gwefan. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolen i’r adnoddau newydd unwaith byddant ar gael.
Rhannu gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael
Mae ystod o ffyrdd y gallwch ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. Gall y gwaith cyfathrebu a wnewch helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau hysbys i bleidleiswyr anabl, a gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w helpu i gymryd rhan yn hyderus.
Mae'n bosibl bod gennych fanylion cyswllt ar gyfer preswylwyr anabl. Mae meddu ar y manylion hyn yn cynnig cyfle i chi gyfathrebu'n uniongyrchol â phreswylwyr anabl ynghylch hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio.
Byddwn yn darparu cyfres o adnoddau all eich cynorthwyo chi i hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a’r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys adnoddau a fydd yn cyfeirio at ganllawiau ar gyfathrebu hygyrch. Byddwn yn gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau anabledd yn genedlaethol i lywio’r adnoddau a ddarparwn, ac yn ceisio adeiladu ar yr adnodau hyn o flwyddyn i flwyddyn fel rhan o’n gwaith gwerthuso a gwella parhaus. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolenni unwaith bydd yr adnoddau ar gael.
Darparu gwybodaeth am leoliad gorsafoedd pleidleisio
Yn ôl adborth gan sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, mae rhai pleidleiswyr yn ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth am leoliadau gorsafoedd pleidleisio. Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu adnodd chwilio am godau post ar ein gwefan.
I sicrhau bod yr wybodaeth hon mor weladwy â phosibl, dylech hyrwyddo'r adnodd chwilio am godau post gymaint â phosibl. Gallech gynnwys yr adnodd ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn rydym wedi'i ddarparu, neu ychwanegu dolen i'n gwefan. Gallech hefyd rannu'r ddolen â rhwydweithiau mewnol presennol neu sefydliadau allanol rydych yn gweithio gyda nhw a'u hannog i'w rhannu â'u rhanddeiliaid. Hefyd, gallech gynnwys y ddolen ar yr hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Os bydd angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch mewn perthynas â defnyddio'r adnodd chwilio, ewch i wefan Democracy Club.
Darparu gwybodaeth bellach am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
Er mwyn helpu i oresgyn pryderon a lliniaru gorbryder ynghylch sut beth fydd pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, gallech ddarparu tudalen benodol ar eich gwefan sy'n cynnwys deunydd hygyrch i helpu pleidleiswyr sydd am ddysgu mwy am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
Gallai eich cynnwys gwe hygyrch gynnwys y canlynol:
- gwybodaeth am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- Bod cydymaith yn gallu helpu pleidleisiwr
- Bod Swyddog Llywyddu yn gallu helpu pleidleisiwr
- Y math o gyfarpar a fydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio
- gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- Dolenni i fideos am bleidleisio yn Iaith Arwyddion Prydain a Makaton
- Fideos gan Mencap â chanllawiau hawdd eu deall ar bleidleisio
- Pryd mae’r orsaf yn debygol o fod yn brysur a phryd mae'n debygol o fod yn dawel
- Argaeledd mannau tawel
Byddwn yn datblygu adnodd sy’n cyflwyno gwybodaeth am bleidleisio wedi’i hysgrifennu mewn modd hygyrch. Gallwch ddefnyddio’r adnodd hwn i ddatblygu eich cynnwys gwe hygyrch eich hun i ymgysylltu â phleidleiswyr a chodi ymwybyddiaeth. Byddwn hefyd yn cynnal ystod o adnoddau ar gyfer pleidleiswyr a gwybodaeth am y broses bleidleisio ar ein gwefan. Gallwch gyfeirio etholwyr atynt drwy ddolen ar eich tudalennau gwe. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolenni i’r adnoddau unwaith byddant ar gael.
Cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar gardiau pleidleisio a sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch
Er bod y testun y mae'n rhaid ei gynnwys ar gardiau pleidleisio wedi'i bennu mewn deddfwriaeth, gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth bellach sy'n briodol yn eich barn chi.21 Yr unig eithriad i hyn yw etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon lle mae cynnwys y cerdyn pleidleisio wedi'i bennu'n union ac ni chewch gynnwys unrhyw wybodaeth arall.22
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cyflwyno newidiadau eraill i’r broses etholiadol sydd angen eu cyfathrebu i bleidleiswyr cyn yr etholiad. Bydd hyn yn golygu ar gyfer etholiadau perthnasol efallai bydd angen i'r cerdyn pleidleisio fod yn llythyr er mwyn gallu cynnwys yr wybodaeth berthnasol. Bydd defnyddio fformat gwahanol y cerdyn pleidleisio hefyd yn rhoi cyfle i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol i bleidleiswyr am eu gorsaf bleidleisio a hygyrchedd y broses bleidleisio. Gallech gynnwys dolen i dudalen we hygyrch neu ddarparu cod QR ar lythyr y cerdyn pleidleisio sy'n mynd â'r pleidleisiwr yn syth i dudalen we sy'n rhoi gwybodaeth am y broses bleidleisio neu'r cyfarpar a fydd ar gael.
Am nad yw'r wybodaeth a roddir ar y cerdyn pleidleisio yn hygyrch i rai pleidleiswyr, dylech hefyd ystyried sut y gallwch wneud yr wybodaeth ar y cerdyn pleidleisio yn fwy hygyrch drwy ei gyhoeddi mewn ffordd arall hefyd.
Er enghraifft, gallech roi gwybodaeth y cerdyn pleidleisio ar eich gwefan mewn fformat hygyrch, sy'n gydnaws â rhaglenni darllen sgrin. Gallech hefyd ddarparu fersiynau print bras neu hawdd eu darllen ar gais, a hyrwyddo hyn ar y cerdyn pleidleisio ei hun ac ar eich gwefan. Os bydd gennych gyfeiriadau e-bost ar gyfer pleidleiswyr, gallech hefyd anfon yr wybodaeth atynt drwy e-bost - gan sicrhau ei bod yn cael ei hanfon mewn fformat hygyrch. Gallai anfon yr ohebiaeth ychwanegol hon hefyd gynnig cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r hyn a fydd yn digwydd ar y diwrnod pleidleisio, beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a'r cyfarpar a fydd ar gael.
Darparu papurau pleidleisio enghreifftiol hygyrch
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i rai pleidleiswyr allu edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i'r orsaf bleidleisio er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y broses bleidleisio. Gallech ddarparu papurau pleidleisio enghreifftiol ar eich gwefan er mwyn cefnogi hyn, a sicrhau eu bod yn hygyrch i etholwyr sy'n defnyddio rhaglenni darllen sgrin.
Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid am bleidleisio hygyrch mewn gorsafoedd pleidleisio
Dylech gynnwys gwybodaeth yn y sesiynau briffio y byddwch yn eu rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr ac asiantiaid yn adnabod pleidleiswyr unigol y mae angen cymorth neu gyfarpar penodol arnynt a gallant helpu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt a sut i fanteisio arno.
Gweithio gyda rhwydweithiau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil yn eich ardal
Mae'n bosibl y bydd gennych gydberthnasau â rhwydweithiau grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil eisoes. Os nad yw'r cydberthnasau hyn gennych, mae'n bosibl y bydd angen i chi weithio gyda phobl eraill sydd wedi meithrin cydberthnasau o'r fath, er enghraifft:
- Darparwyr gofal cymdeithasol
- Swyddogion cydraddoldeb
- Timau cyfathrebu
- Swyddogion tai
- Swyddogion Partneriaeth/Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Cynghorau Gwirfoddol Sirol/Grwpiau Pobl yn Gyntaf (Cymru)
Gall meithrin cydberthnasau â grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n weithredol yn eich ardal leol fod yn fuddiol oherwydd gallant roi cyngor i chi ar gamau penodol y gallwch eu cymryd i wella hygyrchedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai lleoliadau. Gallant hefyd gynnig cyngor ar y mathau o ddulliau cyfathrebu y dylech eu defnyddio i hyrwyddo'r cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ogystal â gwybodaeth am etholiadau yn fwy cyffredinol.
Mae'n bosibl hefyd y bydd gan y sefydliadau lleol hyn fynediad at gyfarpar arbenigol y gallech ei fenthyg neu ei logi a all fod o fudd i bleidleiswyr anabl lleol sydd â namau ac anghenion penodol. Efallai bydd sefydliadau lleol a phartneriaid hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y mathau o adnoddau neu gymorth y gallech eu darparu i ostwng rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl.
Rydym hefyd yn datblygu adnodd briffio gweithwyr achosion y gallwch ei ddefnyddio i gefnogi’ch ymgysylltiad gyda grwpiau anabledd lleol er mwyn darparu gwybodaeth i bleidleiswyr yn eich ardal awdurdod lleol.
Adolygu'r etholiad
Ar ôl pob etholiad, dylech werthuso'r cyfarpar a'r cymorth a ddarparwyd gennych mewn gorsafoedd pleidleisio a sut y gwnaethoch gyfathrebu â phleidleiswyr mewn perthynas â'u hanghenion a beth y gallent ei ddisgwyl. Er mwyn eich helpu gyda’ch gweithgareddau gwerthuso, byddwn yn darparu arolwg templed i’w ddefnyddio gyda phleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio a oedd angen cymorth ychwanegol wrth bleidleisio. Gellir defnyddio’r arolwg i gasglu adborth ar eu profiad pleidleisio a’r cymorth a oedd ar gael iddynt.
Dylech wahodd adborth gan bleidleiswyr a grwpiau hygyrchedd ar eu profiad o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, am yr hyn a weithiodd yn dda a beth nad oedd cystal, er mwyn helpu i lywio'r hyn rydych yn ei wneud i gefnogi pleidleiswyr anabl mewn digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol.
Mae dulliau y gallech eu defnyddio i gasglu adborth yn cynnwys y canlynol:
- Darparu arolwg hawdd ei ddeall yn yr orsaf bleidleisio am y profiad pleidleisio.
- Gwahodd pleidleiswyr a sefydliadau partner i fynychu grwpiau ffocws i drafod eu profiadau o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
- Gwahodd staff gorsafoedd pleidleisio i drafod eu profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio lle darparwyd cyfarpar penodol, sut y gwnaethant ymdopi ag unrhyw sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod, a'u hadborth ar yr hyfforddiant a gawsant.
- Adolygu unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
- Monitro'r defnydd o'r cyfarpar a ddarperir gennych mewn gorsafoedd pleidleisio drwy ofyn i staff gorsafoedd pleidleisio gadw cofnod yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio neu drwy arolygon neu adborth ar ôl yr etholiad.
I sicrhau eich bod yn cael ystod eang o adborth allanol, dylech ystyried darparu ystod o opsiynau ar gyfer casglu safbwyntiau. Un ffordd dda o ganfod y dull mwyaf priodol o gyrraedd grwpiau penodol o bleidleiswyr fyddai gofyn i'r sefydliadau partneriaeth rydych yn gweithio gyda nhw beth fyddai'n gweithio orau i'r pleidleiswyr y maent yn eu cefnogi.
Mae’r Ddeddf Etholiadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Comisiwn adrodd ar weithrediad y darpariaethau hygyrchedd newydd. Er mwyn bodloni’r gofyniad hwnnw, byddwn yn gofyn i chi am ddata ar ddarpariaeth cyfarpar a chymorth mewn gorsafoedd pleidleisio. Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael gennych eisoes i’ch cynorthwyo gyda’ch prosesau cynllunio’ch hunan.
Byddwn yn defnyddio ein hymgysylltiad a’n gwaith adrodd i amlygu enghreifftiau o arfer da sy’n dod i’r golwg ac sy’n adlewyrchu’r rhain mewn fersiynau dyfodol o’r canllawiau hyn i gefnogi’ch gwaith wrth sicrhau bod pleidleisio’n hygyrch.
- 1. Rheol 29 (10) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 199B(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 199B(2)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 199B(2)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 199B(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 199B(2)(d) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 18B(4(c)) Atodlen A1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 18E o Ddeddf 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 4(1) Atodlen A1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Caiff pobl berthnasol eu diffinio yn y ddeddfwriaeth fel y rheini sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl pleidleisio am eu bod yn ddall neu’n rhannol ddall neu am fod ganddynt anabledd arall ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Rheol 39(2)(b)(i), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Atodlen 1, rheol 29(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(4) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 – hysbysiad penodedig ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Atodlen 1, rheol 29(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(4) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 – hysbysiad penodedig ↩ Back to content at footnote 14
- 15. Atodlen 1, rheol 29(3A)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(3A(a)) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 ↩ Back to content at footnote 15
- 16. A.199B(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; mae a.199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn unol ag a.2 Gorchymyn Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Cychwyn Rhif 7) 2008 ↩ Back to content at footnote 16
- 17. A. 199B (2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; mae a.199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn unol ag a.2 Gorchymyn Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Cychwyn Rhif 7) 2008 ↩ Back to content at footnote 17
- 18. A.199B (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; mae a.199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn unol ag a.2 Gorchymyn Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Cychwyn Rhif 7) 2008 ↩ Back to content at footnote 18
- 19. Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd gan a.9 Deddf Etholiadau 2022). ↩ Back to content at footnote 19
- 20. Adran 9 (8), Deddf Etholiadau 2022 ↩ Back to content at footnote 20
- 21. Rheol 28(3)(e) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 21
- 22. Rheol 25(3) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 ↩ Back to content at footnote 22