Adnoddau ID Pleidleisiwr ar gyfer unrhyw etholiad
Cefnogi pobl gyda'r gofyniad am ID Pleidleisiwr
Mae’n rhaid i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i is-etholiadau Senedd y DU, deisebau adalw ac etholiadau lleol yn Lloegr, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Nid yw’n gymwys yn etholiadau Senedd Cymru, nac yn etholiadau Senedd yr Alban, nac mewn etholiadau cynghorau yng Nghymru a'r Alban.
Lawrlwythwch ein hadnoddau
Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo pleidleiswyr i sicrhau bod ganddynt ID ffotograffig cyn unrhyw etholiad pan fydd y gofyniad yn berthnasol.
Rydym wedi creu ystod o adnoddau i helpu pobl i gofrestru i bleidleisio, nodi pa fathau o ID ffotograffig a dderbynnir wrth bleidleisio, ac i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr os oes ei hangen. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth wedi’i theilwra at anghenion grwpiau yr ydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth fodloni’r gofyniad hwn ac a fydd efallai angen cymorth i gael mynediad at ID ffotograffig.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau sydd wedi’u teilwra at anghenion pobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio’n ddienw, neu a allai elwa o wneud hynny, megis y sawl sy'n goroesi cam-drin domestig
Canllawiau i Etholiadau
Lawrlwythwch y Canllawiau i Etholiadau
Mae ein Canllawiau ar gyfer Etholiadau yn darparu'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar bleidleiswyr i allu pleidleisio, gan gynnwys gwybodaeth am y gofyniad ID pleidleisiwr.
Mae’r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am:
- Cofrestru i bleidleisio, gan gynnwys sut i gofrestru heb gyfeiriad sefydlog
- Y gofyniad ID pleidleisiwr
- Pa etholiadau sy’n gofyn am ID ffotograffig
- Mathau o ID a dderbynnir
- Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
- Ffyrdd eraill o bleidleisio; pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy
Mewnosodiad A5
Gellir cynnwys ein dalen fewnosod gryno A5 wrth bostio at bleidleiswyr, megis biliau treth gyngor neu gyfathrebiadau canfasio blynyddol. Mae'r dalen wedi'i chynllunio fel templed y gall cynghorau ei ddefnyddio i rannu gwybodaeth am eu hetholiadau sydd ar ddod gyda phleidleiswyr yn eu hardal.
Os ydych yn awdurdod lleol a hoffech ychwanegu logo eich cyngor a manylion am etholiad sydd ar ddod, cysylltwch â [email protected] (Yn agor mewn ffenest newydd) i ofyn am y ffeiliau dylunio ar gyfer y templed.
Posteri
Defnyddiwch ein posteri i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad ID pleidleisiwr, gan gynnwys y gallu i wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim.
Lawrlwythwch bosteri A4
Lawrlwythwch bosteri A3
Daw’r posteri mewn opsiynau ‘parod i’w hargraffu’ ac ‘argraffu masnachol’ – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis y rhai cywir i chi.
Postiadau cyfryngau cymdeithasol a graffigau
Lawrlwytho'r postiadau ar gyfer cyfryngau symdeithasol yn Gymraeg
Gallwch lawrlwytho testun enghreifftiol i rannu negeseuon allweddol ynglŷn â’r gofyniad ID pleidleisiwr ar eich sianeli cymdeithasol.
Lawrlwytho'r graffigau cymdeithasol sy'n barod i'w postio yn Gymraeg
Mae graffigau sy’n barod i’w cyhoeddi ar gael ar gyfer Facebook, Instagram a Twitter. Gellir hefyd eu rhannu drwy grwpiau WhatsApp cymunedol.
Canllaw Cyflym i Bleidleisio
Rydym wedi creu cyfres newydd o animeiddiadau sy'n esbonio'r broses bleidleisio gam wrth gam, gan gynnwys ID pleidleisiwr. Mae'r animeiddiadau hyn wedi'u datblygu i'w rhannu gan bartneriaid ar eu sianeli digidol.
Mae'r gyfres yn cynnwys "pennod ragarweiniol" i chi rannu'r gyfres gyda'ch cynulleidfa, a hefyd naw pennod unigol sy'n canolbwyntio ar bynciau penodol.d ar eu sianeli digidol.
Cymraeg
Pa etholiadau sy’n gofyn am ID pleidleisiwr
Pa fathau o ID pleidleisiwr allwch chi eu defnyddio
Gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim
Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
Beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
Gwirio eich ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio
Cymorth yn yr orsaf bleidleisio
English
Which elections require voter ID
Which forms of voter ID can you use
Applying for a Voter Authority Certificate
What to expect at the polling station
Checking your photo ID at the polling station
Support at the polling station
Gellir gweld y gyfres Cymru gyfan hefyd ar ein sianel YouTube yn Gymraeg a Saesneg.