Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £700 yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholaeth.1
Gelwir hyn yn swm a ganiateir. Bydd yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd yn swyddogol.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch dyddiadau pleidleisio, a phryd y daw pobl yn ymgeiswyr, ar ein tudalen canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac yn is-etholiadau Senedd y DU. Os ydych wedi’ch awdurdodi i fynd i wariant ymgeisydd, dylech ddarllen ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfyn gwario.
Rhaid i unrhyw wariant dros y trothwyon hyn gael eu hawdurdodi gan asiant yr ymgeisydd perthnasol. Bydd y gwariant awdurdodedig yn cyfri fel gwariant ymgeisydd tuag at derfyn gwario’r ymgeisydd.2