Sut mae eich data yn cael ei ddefnyddio mewn ymgyrchoedd etholiadol
We're showing you content for:
Gall ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol cofrestredig ac ymgyrchwyr cofrestredig ofyn am gopïau o'r gofrestr etholiadol lawn. Mae'r gofrestr yn cynnwys enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio, ac eithrio'r rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n ddienw. Gallant hefyd ofyn am y rhestrau o bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ar gyfer yr ardal y maent yn ymgeisydd ynddi.
Gall yr unigolion a'r sefydliadau hyn ddefnyddio'r data hwn i anfon deunyddiau printiedig i'ch cyfeiriad. Gall hyn gynnwys taflenni, hysbysebion a phosteri. Dim ond i gefnogi eu cyfranogiad yn yr etholiad y gallant ddefnyddio'r gofrestr etholiadol.
Rhaid i ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr sicrhau bod y data y maent wedi gofyn amdano yn cael ei gadw'n ddiogel.
Eich data ar-lein
Mae rhai platfformau a gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn darparu offer electronig fel cwcis ac ategion cymdeithasol, sy'n olrhain ymddygiad ar-lein defnyddwyr i adeiladu proffiliau personol. Mae ymgyrchwyr yn defnyddio'r proffil hwn i deilwra hysbysebion i'ch diddordebau, ac i geisio dylanwadu ar eich pleidlais. Weithiau, gelwir hyn yn 'microdargedu'.
Os ydych chi'n ymgysylltu â phlaid wleidyddol neu fater ar gyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwch chi'n gweld hysbysebion personol sy'n gysylltiedig â hynny. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn darparu gwybodaeth am arferion ymgyrchu ar-lein.
Mae rhai cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol yn dweud wrthych pam rydych chi'n gweld hysbyseb benodol y telir amdani. Gallwch wneud hyn drwy glicio ar ddolen ar yr hysbyseb, a fydd yn dweud rhywbeth fel ‘Pam rydw i’n gweld yr hysbyseb hon?’ neu ‘Pam yr hysbyseb hon?’.
Mae gan rai cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol lyfrgelloedd hysbysebion hefyd. Mae'r rhain yn dangos gwybodaeth i chi am yr holl hysbysebion y mae ymgyrchwyr yn eu cyhoeddi, yn ogystal â gwybodaeth am bwy mae ymgyrchwyr yn eu targedu gyda'r hysbysebion. Er bod pob platfform yn defnyddio dull gwahanol, mae categorïau targedu a ddefnyddir yn gyffredin yn cynnwys rhywedd, oedran a lleoliad.
Dysgwch ragor am bolisïau cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau digidol.
Mae gan yr ICO wybodaeth am sut i ddiogelu eich data personol ar-lein gan gynnwys ar wefannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y data rydych yn ei rannu ar y gwefannau hyn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd rydych yn ei disgwyl.
Diogelu sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio
Cyfraith diogelu data
Mae cyfraith diogelu data yn y DU yn rhoi hawliau penodol i bawb ynghylch sut mae sefydliadau'n defnyddio eu data personol. Dylai pob sefydliad, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, fod yn dryloyw ynglŷn â pham maen nhw'n casglu data amdanoch chi. Dim ond mewn ffordd deg, agored a thryloyw y dylent ddefnyddio eich data personol.
Os gofynnwch, rhaid i sefydliad ddweud wrthych a yw'n defnyddio eich data personol. Dysgwch ragor am eich hawl i gael gwybod.
Gallwch hefyd wrthwynebu derbyn deunydd marchnata gan unrhyw sefydliad a gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol. Fodd bynnag, mae gan ymgeisydd neu blaid wleidyddol hawl i anfon rhadbost. Dysgwch ragor am eich hawl i wrthwynebu.
Gwneud cwyn am sut mae eich data wedi cael ei drin
Os oes gennych gŵyn am sut mae sefydliad wedi trin eich gwybodaeth, dylech yn gyntaf godi eich cwyn gyda nhw. Os yw'r sefydliad wedi methu datrys eich cwyn, neu wedi bod yn amharod i wneud hynny, gallwch godi'r mater gyda'r ICO.