This page

Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.

Introduction

I bleidleisio yng Nghymru, mae angen i chi nawr ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau. 

Mae hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.

Gallwch ddal defnyddio eich ID ffotograffig os nad yw’n gyfredol, cyhyd â’i fod yn dal yn edrych yn debyg i chi.

Nid oes angen i'r cyfeiriad ar eich ID gyfateb i'ch cyfeiriad presennol.

Dylai’r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.

Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw ac am bleidleisio’n bersonol, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw.

Dysgwch ragor am gofrestru i bleidleisio yn ddienw a sut i bleidleisio yn ddienw

Rhaid i'r enw ar eich ID gyd-fynd â'r enw ar y gofrestr etholiadol.

Os nad yw’n cyd-fynd, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio eto.

Os yw'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn etholiad sydd ar ddod wedi mynd heibio, bydd angen i chi ddod â dogfen gyda chi i'r orsaf bleidleisio sy'n profi eich bod wedi newid eich enw. Er enghraifft, tystysgrif priodas.

Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich ID yn dweud ‘Jim Smith’ yn lle ‘James Smith’.