Os nad oes gennych ffurf o ID a dderbynnir
Etholiad cyffredinol Senedd y DU
Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 4 Gorffennaf.
Dim ID? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr
Os nad oes gennych ID ffotograffig a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr am ddim. Fe'i gelwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Gofyniad ID Pleidleisiwr
Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dysgwch ragor am fathau o ID ffotograffig a dderbynnir, sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim a’r hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.
Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.
Pleidleisio a dod ag ID
Cefnogi pobl i gyflawni gofynion ID pleidleisiwr
Rydyn ni’n gwybod bod rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi rhwystrau o ganlyniad i’r gofyniad am ID pleidleisiwr, ac efallai bydd angen cymorth arnyn nhw i gael ID â llun.
Mae sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, yn gallu helpu pleidleiswyr i sicrhau bod ganddyn nhw ID â llun cyn yr etholiad cyffredinol pan fydd gofyn amdano.
Rydyn ni wedi creu cyfres o adnoddau sydd â gwybodaeth am y gofyniad am ID â llun yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024. Bydd yr adnoddau yma’n helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth, ac yn cefnogi pleidleiswyr i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os oes angen. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio, a gwybodaeth fanylach i grwpiau penodol.
Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adnoddau pwrpasol i gefnogi pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ddienw, neu a allai gael budd o wneud hynny.