We're showing you content for:

Blwch cryno

Deiseb adalw yw'r broses lle gall AS golli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Bydd gan bleidleiswyr yn yr etholaeth berthnasol chwe wythnos i lofnodi’r ddeiseb. Drwy lofnodi deiseb adalw, mae pleidleiswyr yn dweud eu bod am i’w AS golli ei sedd. Dim ond y rheini sydd am weld yr AS yn colli ei sedd ddylai lofnodi'r ddeiseb.

Os bydd o leiaf 10% o bleidleiswyr yn yr etholaeth yn llofnodi'r ddeiseb, bydd yr AS yn colli ei sedd a chaiff isetholiad ei gychwyn. Gall yr AS a gafodd ei adalw sefyll fel ymgeisydd yn yr is-etholiad.

Os bydd llai na 10% o bleidleiswyr yn yr etholaeth yn llofnodi'r ddeiseb, ni fydd yr AS yn colli ei sedd.