Is-etholiadau Senedd y DU
We're showing you content for:
Blwch cryno
Mae is-etholiad Senedd y DU yn digwydd pan fydd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn dod yn wag rhwng etholiadau cyffredinol.
Gall sedd ddod yn wag pan fydd AS:
- yn ymddeol neu’n marw
- yn cael ei ddatgan yn fethdalwr
- yn cymryd sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi
- yn cael ei gollfarnu am drosedd ddifrifol
Does dim rhaid cynnal is-etholiad os yw AS yn newid plaid wleidyddol.
Pwy sy’n gallu pleidleisio yn yr etholiadau hyn
Er mwyn pleidleisio yn is-etholiad Senedd y DU mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio a:
- yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
- bod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig neu’n ddinesydd cymwys y Gymanwlad
- bod yn ddinesydd mewn cyfeiriad yn y DU (neu’n ddinesydd sy’n byw dramor sydd wedi ei gofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf)
- heb ei eithrio yn gyfreithiol rhag pleidleisio
Ni all y bobl ganlynol bleidleisio yn etholiad Senedd y DU:
- aelodau o Dŷ'r Arglwyddi
- dinasyddion yr UE (ac eithrio Gweriniaeth Iwerddon, Cyprus a Malta) sy'n byw yn y DU
- unrhyw un heblaw dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig a dinasyddion cymwys y Gymanwlad
- personau a gafwyd yn euog sy'n cael eu cadw yn unol â'u dedfrydau, ac eithrio dirmyg llys (er y gall carcharorion ar remand, carcharorion heb euogfarn a charcharorion sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- unrhyw un a gafwyd yn euog o fewn y pum mlynedd diwethaf o arferion llwgr neu anghyfreithlon mewn cysylltiad ag etholiad
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys i bleidleisio.
Pleidleisio yn yr etholiadau hyn
Mae is-etholiadau Senedd y DU yn defnyddio'r system gyntaf i'r felin. Dim ond dros un ymgeisydd y byddwch chi'n gallu pleidleisio, drwy roi croes [X] yn y blwch wrth ymyl eich dewis.
Mae ASau fel arfer yn eistedd am gyfnod o bum mlynedd. Fodd bynnag, pan fydd AS yn cael ei ethol drwy is-etholiad, bydd yn gwasanaethu am weddill y tymor gwreiddiol. Er enghraifft, os cynhelir is-etholiad flwyddyn ar ôl etholiad cyffredinol, bydd yr AS sy'n cael ei ethol yn gwasanaethu am bedair blynedd tan yr etholiad cyffredinol nesaf.