Report: Cofrestru etholiadol yn etholiad cyffredinol y DU ym mis Mehefin 2017
What the report includes
Cafodd etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gynnal ar 8 Mehefin 2017. Hwn yw'r cyntaf o adroddiadau statudol y Comisiwn Etholiadol ar yr etholiad, sy'n canolbwyntio ar gofrestru pleidleiswyr, sydd wrth graidd system etholiadol ddiogel ac effeithon. Rhydd ein dadansoddiad o ddata allweddol ar geisiadau cofrestru etholiadol a'r cofrestri etholiadol, a noda faterion ac argymhellion ar gyfer gwella a moderneiddio’r system ymhellach, sydd euhanegn ar frys yn ein barn ni.
Yn y DU, mae'r setliad datganoli sy'n datblygu yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban bwerau i ddatblygu polisïau a deddfwriaeth cofrestru etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban fel sy'n berthnasol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda holl lywodraethau'r DU er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dulliau newydd o wneud cofrestri etholiadol yn fwy cywir a chyflawn.
Data allweddol
Cofrestrodd nifer amcangyfrifedig o 46.8 miliwn i bleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Mehefin 2017 ac o'r nifer honno pleidleisiodd 68.8%.
Hon oedd y nifer fwyaf o bleidleiswyr ar gyfer digwyddiad pleidleisio ledled y DU, gyda thua 500,000 yn fwy ohonynt nag yn etholiad 2015.
Cafodd mwy na 2.9 miliwn o geisiadau i gofrestru i bleidleisio eu gwneud ym Mhrydain Fawr rhwng cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 18 Ebrill (y byddai'n gofyn i'r Senedd gymeradwyo etholiad cyffredinol) a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar 22 Mai.
Cafodd mwy na 96% o geisiadau eu gwneud ar-lein, gan gynnwys 612,000 ar y diwrnod olaf ar gyfer gwneud cais.
Rhwng 18 Ebrill ac 22 Mai, gwnaed dros ddwy ran o dair (69%) o geisiadau ar-lein gan bobl o dan 34 oed.
Prif faterion
Mae'r gwasanaeth cofrestru ar-lein wedi sicrhau gwell mynediad o lawer i etholiadau ym Mhrydain Fawr ers ei gyflwyno ym mis Mehefin 2014, ond nid yw ar gael i bobl yng Ngogledd Iwerddon eto.
Unwaith yn rhagor, mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi tynnu sylw at effaith weinyddol ac ariannol sylweddol prosesu ceisiadau dyblyg a wneir gan bobl sydd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Mae amcangyfrifon cychwynnol Swyddogion Cofrestru Etholiadol o gyfran y ceisiadau dyblyg wedi amrywio o 30% o'r cyfanswm a wnaed mewn rhai ardaloedd i 70% mewn eraill.
Er y caiff pobl, yn ôl y gyfraith, gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un man o dan rai amgylchiadau, ymddengys fod rhai pleidleiswyr wedi cyfaddef iddynt bleidleisio fwy nag unwaith yn yr etholiad cyffredinol, sy’n peri pryder, ac sy'n drosedd.
Meysydd allweddol i'w gwella ymhellach
Dylai'r gwasanaeth cofrestru etholiadol ar-lein gynnwys Gogledd Iwerddon cynn gynted â phosibl.
Mae angen cymryd camau brys i leihau graddau ac effaith weinyddol ceisiadau cofrestru dyblyg o ran Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn bwrw unrhyw bleidlais arall yn y dyfodol.
Dylid ystyried dulliau o atal pleidleisio ddwywaith mewn etholiadau cyffredinol yn gyflym.
Mae angen i'r cyllid sydd ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol adlewyrchu'n well faint o waith sydd ei angen i brosesu ceisiadau cofrestru etholiadol cyn unrhyw bleidlais fawr.
Dylai'r broses gofrestru etholiadol fod yn fwy cysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill, er mwyn ei gwneud hi hyd yn oed yn symlach i gofrestru i bleidleisio i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Dylai hyn gynnwys integreiddio ceisiadau mewn trafodion gwasanaeth cyhoeddus eraill a gwneud gwell defnydd o ddata cenedlaethol i nodi pleidleiswyr newydd neu bobl sy'n symud tŷ.
Mae angen archwilio dulliau cofrestru awtomatig ymhellach, gan dynnu ar brofiadau gwledydd eraill.